Dydd Sul, Mehefin 4ydd 2006 am 10.00 y bore, bydd aelodau Capel y Bedyddwyr, Rhydwilym, ger Llandysilio, Sir Benfro, yn dathlu traddodiad hynafol y Gymanfa Bwnc, sy'n dyddio n么l gannoedd o flynyddoedd ac sy'n parhau'n ddidor.
Bydd aelodau o Fethel, Mynachlogddu, Calfaria, Login a Horeb, Maenclochog yn ymuno yn yr oedfa.
Dewisir testun neu bwnc o'r Beibl a bydd yr aelodau'n llafarganu'r adnodau ac yna ceir yr esbonio dan arweiniad y Gweinidog, Y Parchedig Eirian Wyn Lewis.
Rhyw fath o lafarganu yw'r pyncio. Mae'n bosib ei fod yn dyddio nol i'r adeg pan oedd Cymru'n wlad Babyddol cyn dyddiau Harri VIII. Nifer fechan iawn o gapeli anghydffurfiol sy'n parhau i 'ganu'r' pwnc erbyn hyn gan ddewis adrodd yr adnodau.
Gan bod y Gweinidog yn gwasanaethu eglwysi eraill, dim ond bob tair blynedd y cynhelir y Gymanfa Bwnc yn Rhydwilym.
Corffolwyd Rhydwilym yn 1668 a sefydlodd nifer o gapeli yn Ne Orllewin Cymru a rhai yng Ngogledd America. Mae'r capel mewn cwm hardd ar lan y Cleddau Ddu. Dewiswyd y safle oherwydd ei fod mewn lle diarffordd ar adeg o erledigaeth. Roedd yn genhadaeth beryglus a dewrgan bod gwaharddiad ar unrhyw addoli y tu allan i Eglwys Loegr a rhaid oedd cyfarfod yn y dirgel. Am rhagor o wybodaeth cysylltwch 芒:
Elsa Davies ar 01267 211344 neu admin@rhydwilym.com Neu:
Y Parchedig Eirian Wyn Lewis ar 01994 419305 neu eirianbrynhyfryd@aol.com .
|