Athrawes gyflenwi a gwraig fferm o Beulah ger Castell Newydd Emlyn yw Annette Davies wrth ei gwaith bob dydd ond mae hefyd yn aelod o d卯m Sboncen cymysg Aberteifi. Yn 2005, cafodd ei dewis i gynrychioli t卯m merched Cymru dros 45 oed, ym mhencampwriaethau y pedair gwlad ar Fai 13 a 14, yng ngwesty'r 'Vale Hotel' ym mro Morgannwg. Annette oedd yr unig siaradwraig Gymraeg yn nh卯m Cymru y flwyddyn honno, a'r unig aelod o Geredigion. Roedd gweddill y merched yn dod o rannau eraill o dde Cymru, gan gynnwys Y Barri, Caerdydd, Castell-nedd ac Abertawe. Er nad oedd Annette Davies wedi dangos diddordeb mewn chwarae sboncen tan ei bod yn ei hugeiniau cynnar, unwaith iddi ddechrau ymddiddori yn y g锚m, doedd dim troi yn 么l. Enillodd bencampwriaeth Dyfed yn y 1980au, cyn cael y fraint o chwarae dros Gymru yn y 1990au, wrth deithio i Gaeredin, ac yna i Felfast fel rhan o d卯m A Cymru. Ers hynny mae Annette Davies wedi cynrychioli Cymru ar lefel y Meistri (Masters) mewn t卯mau i ferched dros 35 oed, 40 oed a 45 oed. Derbyniodd gyngor gwerthfawr gyda'i hyfforddwr Haydn Davies (cyn-gricedwr proffesiynol gyda Morgannwg.) Ef hefyd hyfforddodd Si芒n Johnson - sydd wedi bod ar fr卯g y g锚m yng Nghymru. Er bod Annette yn bwriadu parhau i chwarae Sboncen mor hir 芒 phosib, mae hi hefyd yn hyfforddi eraill i chwarae'r g锚m, ac mae diddordeb y fam i'w weld yn ei phlant hefyd - mae Berian, Dyfed a Nia yn ymddiddori yn y g锚m, ac yn cystadlu mewn twrnamentau. "Mae chware sboncen wedi bod yn gyfle ardderchog er mwyn teithio ac ymweld ag ardaloedd a dinasoedd na fyddem wedi meddwl mynd iddynt fel arfer" meddai Annette Davies, sydd wedi cwblhau gradd o Brifysgol Llambed ac yn gobeithio mynd yn 么l i ddysgu yn llawn amser. "Mae'r profiad hefyd wedi rhoi cyfle i mi gwrdd a chymdeithasu, a gwneud ffrindiau da gyda chwareuwyr sboncen eraill. "Mae wedi bod yn fraint ac yn gl么d i chware dros fy ngwlad, ac mae'n deimlad pleserus ar 么l yr holl waith caled o ymarfer sydd wedi ei wneud cyn cyrraedd y n么d. Rhaid cofio hefyd, heb gymorth Geraint a'r plant ni fyddem wedi gallu chware hyd at y safon yma." Annette Davies
Mai 2005
|