Cafodd pob math o gasglwyr o wahanol rannau o Gymru eu cyfweld ar raglen Twrio, nos Iau, 7 Gorffennaf gan gynnwys yr actor Huw Ceredig a fu'n dangos ei gasgliad o lestri Clarice Cliff. Bu'r rhaglen hefyd yn bwrw golwg ar b锚l rygbi sydd wedi ei llofnodi gan d卯m Cymru a gipiodd y Gamp Lawn eleni, 2005 - y t卯m cyntaf i gyflawni'r orchest ers 1978. Bu'r b锚l rygbi yn un o'r eitemau a gynigwyd yn yr ocsiwn fyw.
Casgliad golff
Hefyd ar y rhaglen, bu'r arbenigwr o femorabilia byd golff, Dr Eiron Morgan, yn dangos ei gasgliad yntau o'r byd golff.
"Cefais fy magu yn Mhontrhydyfen, ac nid oedd golff yn beth mawr yr adeg honno, a dweud y gwir doedd neb yn chwarae golff. Dim ond y meddyg a dyn y siop oedd yn berchen ar gar," meddai.
"Mi ddechreuais chwarae golff pan oni'n gweithio, ac ar yr un pryd dyma ddechrau casglu gwahanol memorabilia golff hefyd.
"Dechreuais i gasglu'r cylchgronau golff oedd yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol ac yna'r stamps oedd yn gysylltiedig gyda byd golff," meddai Dr Morgan.
"Erbyn heddiw dwi'n casglu'r teis, y llwyau golff, cardiau post, lluniau, pinnau gwallt, mae'r rhestr yn faith.
"Nid wyf yn casglu un peth yn benodol, ond dwi'n hoffi meddwl fy mod yn casglu ychydig bach o lot o bethau."
Mae Dr Morgan yn aelod o Gymdeithas Casglwyr Golff Prydain sydd yn ceisio annog mwy o bobl i gasglu memorabilia o'r byd golff.
"Mae'r gymdeithas yn ceisio cadw'r diddordeb mewn hanes a thraddodiad y g锚m golff yn fyw, a hefyd yn frwdfrydig iawn i gefnogi unigolion sydd yn casglu pethau sydd 芒 chysylltiad 芒'r g锚m," eglura Dr Morgan.
Diffyg pobl ifanc
Er bod Dr Morgan yn adnabod llawer o gasglwyr drwy'r gymdeithas mae hefyd yn difaru nad oes gymaint o bobl ifanc heddiw yn casglu.
"Arferai pawb gasglu stampiau. Roedd yn rhan o fywyd a phawb yn gwneud ei hwyl ei hunain drwy gymharu ag edrych a mwynhau eu casgliad. Tydi merched heddiw ddim yn gwn茂o nag yn crosio - mae'r oes wedi newid," meddai.
"Yn ddiweddar b没m yn siarad gyda gwyr ifanc oedd yn gweithio ym myd golff ac nid oeddynt hwy yn gasglwyr, mae'n drueni bod traddodiad a hen hanes yn mynd i ebergofiant a hynny yn hanes eu proffesiwn eu hunain."
Mae Dr Morgan am annog pawb yng Nghymru i fynd ati i gasglu unrhyw beth.
"Mae cardiau post yn hawdd i'w casglu gan fod gymaint yn mynd ar eu gwyliau i wahanol wledydd, mi fydda i yn casglu cardiau post sydd 芒 chysylltiad 芒 byd golff."
Twrio, 9.00pm, Nos Iau, 7 Gorffennaf, 9.00pm.
Ailddarllediad, 10 Gorffennaf, 4.30pm gydag isdeitlau Saesneg ar y sgr卯n
Cynhyrchiad Apollo Pedol ar gyfer S4C. Am fwy o wybodaeth cysylltwch 芒: Lowri Rees, 01678 540528