Pobl sy'n diddori Rebecca Jones o Gefn Bryn Brain yng Nghwmtawe - eu straeon, eu hanes, eu syniadau a'u sefyllfaoedd amrywiol. Does dim rhyfedd felly ei bod wrth ei bodd yn newyddiadura a'i bod yn edrych ymlaen yn arbennig at ei her ddiweddaraf o gyflwyno rhaglen gynta'r diwrnod ar donfeddi 成人论坛 Radio Cymru o fore Llun i fore Gwener.
"Wy ffaelu aros i gael dechrau ar y gwaith," esbonia Rebecca sy'n 33 oed. "Mae e'n gam i gyfeiriad tamed bach yn wahanol ond fi'n edrych ml芒n at y sialens."
A hithau wedi bod yn newyddiadurwraig gyda 成人论坛 Cymru ers dros wyth mlynedd bellach, bydd ei llais a'i wyneb yn gyfarwydd i lawer. Mae wedi cyflwyno straeon a thrafod pynciau'r dydd ar y Post Cyntaf, Post Prynhawn a Taro'r Post a chyn ymuno 芒 th卯m newyddion y 成人论坛 bu'n cyflwyno ar raglen Heno.
Mae Si芒n Gwynedd, Golygydd 成人论坛 Radio Cymru yn edrych ymlaen at groesawi Rebecca i'r t卯m cyflwyno boreol.
"Bydd Rebecca'n gaffaeliad i'r gwasanaeth. Mae'n ddarlledwraig brofiadol ar radio a theledu ac yn amlwg wrth ei bodd yn sgwrsio gyda phobl. Mae hi'n bersonoliaeth arbennig a dwi'n siwr y bydd hi'n gwmni difyr i'n gwrandawyr ben bore."
Cyn hir bydd Rebecca yn trafod cynnwys y papurau dyddiol gyda'r cyfranwyr cyson, yn sgwrsio gyda'i gwesteion yn y stiwdio ac yn rhoi gwrandawyr Radio Cymru ar ben ffordd ar ddechrau'r diwrnod. Bydd yr oriau gwaith newid yn golygu ffordd o fyw newydd i Rebecca.
"Dwi fel arfer yn gwneud tai-chi ar 么l codi gan fod hwnnw'n help i gadw'r corff yn iach a thawelu'r meddwl. Ond dwi'n amau a fydd amser i wneud hynna cyn cychwyn ar fy shifftiau," dywed gan chwerthin.
"Mae cloc larwm newydd 'da fi yn barod ar gyfer y boreau cynnar," ychwanega.
Gyda'i diwrnod gwaith yn dechrau am 4 y bore efallai bydd angen mwy nag un cloc larwm arni i sicrhau ei bod hi'n cyrraedd y stiwdio yng Nghaerdydd mewn da bryd! Dydd Llun - Dydd Gwener, 成人论坛 Radio Cymru, 5am
Rebecca Jones a'i bro.
|