Dathlu eleni
Eleni penderfynais wneud rhywbeth hollol wahanol i ddathlu. Bob yn ail flwyddyn rwy'n gwahodd ffrindiau agos am noswaith Cawl Cennin, a chanu Corau Meibion yn y cefndir i'm hatgoffa o Gymru. Yn anffodus codi gormod o hiraeth fydd yr unig effaith bydd y gerddoriaeth yma'n cael arnaf, felly rhaid dodi cerddoriaeth dawnsiau Twmpath ymlaen i godi dipyn o'm calon! Y flwyddyn ganlynol, byddaf yn paratoi bore coffi Cymreig. Mae fy mhice bach yn cyrraedd rhif un yn y siartiau a'r Bara Brith ddim yn bell y tu 么l!
A minnau yn llawn brwdfrydedd eto eleni, siomedig oedd clywed oddi wrth un ffrind yng Nghymru, nad ydy Dydd G诺yl Dewi yn cael ei ddathlu fel y bu, a'r ysgolion ddim yn cael hanner diwrnod o wyliau bellach. Roedd yn ddiwrnod hyfryd i ni yn yr ysgol gynradd, pan fyddwn i gyd yn ein gwisg Genedlaethol, yn perfformio cyngerdd i'r rhieni. Yn yr ysgol uwchradd byddem yn cynnal Eisteddfod rhwng y tai.
Fedra i ddim gadael i'r dydd arbennig yma fynd heibio heb rhyw fath o ddathliad eleni. Ond, rhaid oedd meddwl am wneud rhywbeth allan o'r cyffredin.
Eleni, fe es ati i lunio cardiau fy hun er mwyn eu hanfon i Gymru a dangos i'm ffrindiau er fy mod yn byw filltiroedd i ffwrdd, fod yr hen wlad yn dal i fod yn agos at fy nghalon.
Dathliadau llynedd
Llynedd fe gynheliais fore coffi Cymreig ar Ddydd G诺yl Dewi, gan wahodd y cyd Gymry sy'n byw yng ngwlad Groeg: Tammy o Lanwnog, Stephanie o Rhyl, Marilyn o Brestatyn, Ann o Aberhonddu, a Julia o Abertawe; roedd gennyf hefyd fenywod o Loegr, Sweden, Gwlad Belg, a'r Unol Dalaethau yma yn mwynhau'r dathlu.
Rhaid oedd addurno'r ystafell fwyta gyda baner y Ddraig Goch. Lwc fod Andreas y mab yn dal i fod yn astudio yn Abertawe ar y pryd ag anfonodd un drwy'r post i mi!
Mi wisgais ddillad traddodiadol i debygu Cymraes er mwyn peri syndod ar fy ffrindiau pan agorwn y drws - ond wyddoch chi na allwn ddod o hyd i het fy ngwisg Gymreig yn unman!
Cyrhaeddodd Dydd G诺yl Dewi, a chodwyd fy nghalon wrth weld mai diwrnod heulog hyfryd fyddai. Trefnais i gasglu Cennin Pedr i addurno'r ford. Roeddwn wedi gosod Rhiannon, y ddol Gymraeg wedi ei gwisgo yn ei gwisg genedlaethol ar un ochr y ford, (menyw o Bontarddulais (tre fy ngenedigaeth) oedd wedi gweu ei dillad i'w rhoi yn anrheg i Joanna'r ferch) ac mi ddodais delyn bren ar ochr dde'r bwrdd.
Edrychai'r bwrdd yn lliwgar a deniadol dros ben wedi eu addurno gyda nifer o wrthrychau a theisennau traddodiadol. Llanwodd arogl ffres y cacennau yr ystafell fyw a chodi digon o archwaeth ar yr ymwelwyr. Fe aeth pawb yn syth at y bwrdd i geisio darllen y labelau Cymraeg arbennig yr oeddwn wedi eu creu, ac i gael cip ar y cacennau. Fel arfer y peth cyntaf maent yn gwneud ydy eistedd a sgwrsio, ond y tro yma roedd pawb yn ysu am baned er mwyn rhoi cynnig ar y cacennau!
Dydy'r un ymgynulliad yn gyflawn heb rhyw fath o miwsig Cymraeg, felly i ychwanegu at yr hwyl fe ddodais rhyw hen E.P i chwarae. Gresyn na allai un o'r menywod eraill siarad Cymraeg i allu ymuno 芒 mi i ganu geiriau rhai o'r caneuon adnabyddus. Ond fe lwyddodd Mary Hopkin ddod 芒 chofion o gyfnod y chwedegau yn 么l iddynt!
Heblaw cael coffi a chacennau Cymreig roedd fy ymwelwyr wedi dysgu rhai ffeithiau diddorol am Gymru a'r iaith Gymraeg, a minnau hefyd wedi cael hwyl wrth baratoi. Teimlais foddhad fod Dydd G诺yl Dewi wedi bod yn llwyddiannus, yma mor bell o Gymru. Er na chefais siawns i siarad Cymraeg, fe fuom yn trafod llawer o bynciau yn ymwneud 芒'r hen wlad. Fe fu'n fore bendigedig, ac am rhyw oriau ni deimlais fy mod mewn gwlad estron, ond yn 么l yng Nghymru! Nid wy'n credu fod gwell geiriau na rhai T.H. Parry Williams i grynhoi fy nheimladau wedi mwy na deg mlynedd ar hugain yn byw ar y cyfandir.
"Y mae'r blynyddoedd yn cuddio ond nid ydynt yn claddu."
Lynda Ganatsiou
Beth fyddwch chi'n ei wneud i ddathlu Dydd ein Nawddsant eleni? Boed yma yn ne orllewin Cymru neu dramor - cysylltwch 芒 ni i ddweud trwy lenwi'r ffurflen isod.