Cliciwch yma i edrych ar luniau a darllen cwpledi gan Lynda Gantsiou o brofiad ei ffrindiau yn y gemau Olympaidd. "Rwyf yn byw mewn pentref bychan o'r enw Thermi, maestref i Thessaloniki yng ngogledd Groeg. I fyny'r rhiw mae pentref Panorama, lle mae Stephanie fy ffrind gorau, yn wreiddiol o'r Rhyl yn byw. Bob hyn a hyn rydym yn cwrdd 芒 Julia sy'n dod o Abertawe, ond gan ei bod mor brysur a chanddi ei bys mewn dipyn o bopeth anodd iawn ydy ei gweld yn aml.
"Teimlais yn genfigennus iawn o'r ddwy Gymraes yma. Cawsant haf bythgofiadwy yn gweini yng Ngemau Olympaidd Athen. Bu Julia yn gweini fel gwirfoddolwr ac yn gweithio gyda swyddogion Olympaidd a gwahoddedigion anrhydeddus yn y ganolfan nofio.
"Roedd t卯m Julia yn cynnwys dros 50 o wirfoddolwyr o dros 12 o wledydd gwahanol. Felly, heblaw cymysgu gyda theuluoedd brenhinol a gwleidyddwyr un o rannau gorau ei swydd oedd ei bod yn gallu dilyn rhan fwyaf o'r cystadlaethau nofio ac o safleoedd da.
NTO (National Technical Official) oedd Stephanie a'i mab Alex. Roeddent mor hapus eu bod wedi cael eu dewis i weithio gyda cheffylau a marchogwyr gorau'r byd. Heblaw gweld nad oedd dim byd anghyfreithlon yn digwydd yn y stablau, fe fu Stephanie yn gweithio fel ysgrifennydd i'r beirniad yn y gystadleuaeth Dressage.
Teimlodd y tri yn dda fod Cymry wedi gallu cynrychioli mewn cystadleuaeth enfawr fel y G锚mau Olympaidd.