'Ma amser yn mynd yn gyflym! Rwy' wedi bod yn rhan o d卯m Pobol y Cwm ers dros flwyddyn bellach. Yn y cyfnod hwnnw mae'r cymeriad rwy'n ei chwarae wedi gadael tipyn o argraff ar nifer o drigolion y Cwm! Wedi i Dai Ashurst anafu ei thad, penderfynodd Gwyneth ddial arno, a'i lwgrwobrwyo. Dechreuodd dreulio tipyn o amser gyda Mark Jones, ond yn ddiarwybod iddo fe, roedd Gwyneth yn hoff o dreulio amser gyda sawl person arall hefyd...merched a bechgyn! Hefyd, agorodd stiwdio "tatoo" - Celf Corff. Rwy'n credu y cytunwch, nad unigolyn confensiynol mohoni! Mae hyn yn golygu bod ei chymeriadu yn llawer o hwyl! Rwy'n disgwyl ymlaen yn wythnosol i dderbyn y sgriptiau, er mwyn gweld yn union beth mae hon yn mynd i neud nesaf. Gallaf eich sicrhau chi nad yw hi'n bwriadu tawelu am sbel fach! Er fy mod yn hoff iawn o'i phortreadu, rwy'n amau yn fawr y byddwn yn ffrindiau gyda hi tase hi'n gymydog i mi. Efallai ei bod yn agos i'w theulu, ond nid oes llawer yn medru dylanwadu arni. Mae hi'n manteisio ar wendidau y bobl sydd o'i chwmpas, ac yn mwynhau gwneud ffyliaid ohonynt. Nid yw'r ffaith ei bod yn ddeurywiol yn peri gofid i mi, pawb at y peth a bo. Yn y gorffennol nid cariad oedd ei chymhelliad - chwant er mwyn diwallu ei hun, ond bellach y mae wedi tyfu'n agos at Britt, a gwelwn ddimensiwn newydd i'w chymeriad. Fel actores, chwarae yn groes i'r graen sydd yn aml yn rhoi'r mwynhad fwyaf. Byddai portreadu cymeriad sydd yn rhy debyg i mi yn ddiflas ar 么l cyfnod. Yn hynny o beth, rydw i wedi bod yn ffodus tu hwnt. Yn Y Palmant Aur, roeddwn yn chwarae merch a oedd wedi cael plentyn allan o briodas, a hynny yn ugeiniau'r ganrif ddiwethaf. Yn Llafur Cariad, aelod seneddol Llafur yn gwrthwynebu datganoli oedd fy nghymeriad! Alla'i ddim meddwl am rywbeth sydd yn fwy wrthun i mi! Efallai bod un peth yn debyg rhwng Gwyneth a fi, serch hynny...hoffwn i gael tat! Hyd yn hyn, nid oes gen i, ac felly mae'r merched colur yn paentio un ar fy mraich chwith gyda stensil! Ond, wedi pendroni am flynyddoedd pa batrwm y bydden i yn hapus gyda hi am weddill fy mywyd, rwy wedi dod i benderfyniad! Wrth gwrs, y cam nesaf yw darganfod dewrder! Bellach, rwy wedi setlo yn hapus iawn yn y Cwm dychmygol, er roedd y diwrnod cyntaf yn eithaf ofnus ond yn gyfarwydd iawn ar yr un pryd. Roeddwn yn ffodus iawn oherwydd i mi weithio gyda nifer o'r cast ar gyfresi eraill, ac yn ffrindiau pennaf gyda nhw. Mae'r gyfres wedi bod yn rhan o 'mywyd i erioed. Mae Pobol y Cwm a minnau yn dathlu ein pen-blwydd yn ddeg ar hugain eleni. Hir oes i'r ddwy ohonom!
|