Cnoi Cil
Rwy'n gallu bod yn berson trachwantus braidd. Da yw pôl ond gwell yw dau!
Mae'r ffaith bod ITV wedi comisiynu arolwg misol gan YouGov o hyn tan etholiad y cynulliad yn newyddion rhagorol. Rydym wedi mynd o fod yn ddall i fod yn llygeidiog! Y broblem yw wrth gwrs bod dibynnu'n llwyr ar un cwmni yn golygu nad oes modd synhwyro na chanfod unrhyw wall neu ragfarn anfwriadol yn y fethodoleg. Ar ôl hynny o rybudd bant a ni a thipyn bach o ddadansoddi!
Yr hyn sy'n ddiddorol yn yr arolwg yw'r awgrym bod yr hyn y byddai dyn yn disgwyl ei weld rhwng nawr a Mai 2011 sef adferiad yn y gefnogaeth i Lafur wedi digwydd llawer yn gynt na'r disgwyl.
Mae'r canran sy'n bwriadu pleidleisio i Lafur yn etholiad y cynulliad wedi cynyddu o 32% i 42% ers yr etholiad cyffredinol. Fe fyddai hynny'n ddigon i Lafur sicrhau mwyafrif flwyddyn nesaf. Mae'r gefnogaeth i Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ond wedi gostwng o ychydig bwyntiau. Mae'r rhan fwyaf o'r cynnydd ar draul y Democratiaid Rhyddfrydol sydd, mae'n ymddangos yn ceisio gweithio talcen caled iawn ar hyn o bryd.
Mae'r rheswm am y newid yn weddol amlwg. Mae 43% yn credu bod toriadau San Steffan yn mynd yn rhy bell o gymharu â 36% sy'n cefnogi'r toriadau ac 8% fyddai'n dymuno gweld mesurau llymach.
O dan y fath amgylchiad dyw hi ddim yn syndod i weld cefnogwyr traddodiadol Llafur yn dychwelyd at y blaid y maen nhw'n credu bydd yn gwneud ei gorau i'w hamddiffyn.
Ond mae'n ymddangos bod y bobol hynny yn disgwyl cael eu hamddiffyn gan rywbeth fwy na'u plaid sef y Cynulliad. Mae'r arolwg yn awgrymu y bydd Cymru'n pleidleisio o blaid cynyddu pwerau'r cynulliad o fwyafrif sylweddol yn y refferendwm. Mae mwyafrif yr ochr "Ie" dros yr ochr "Na" bellach yn 27% o gymharu ag 16% adeg yr etholiad cyffredinol.
Os ydy hynny'n gywir mae'n ddatblygiad hynod ddiddorol yn ein gwleidyddiaeth gan awgrymu bod trwch y bleidlais Lafur bellach yn uniaethu a datganoli. Dyw hynny erioed wedi digwydd o'r blaen hyd yn oed yn nyddiau Keir Hardie!
28-30/06 2010 Sampl 1001