³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth

Archifau Awst 2010

Yma o hyd

Vaughan Roderick | 12:46, Dydd Mawrth, 31 Awst 2010

Sylwadau (3)

_41662272_sandcastle416.jpg

Dyma fi felly yn ôl wrth y ddesg yn delio a'r cannoedd o e-byst sydd wedi crynhoi dros yr wythnosau diwethaf. Wrth gwrs hwn yw'r union ddiwrnod y mae'r tywydd wedi newid er gwell. Mae hynny'n un o reolau natur, mae'n debyg.

Ble mae ddechrau, dywedwch? Ai trwy drafod i ba dwnel tywyll y diflannodd Ian Williams neu ar ba ynys y mae Iona Jones? Beth am yr holl sibrydion ynghylch giamocs mewn gwahanol gynadleddau dewis? Mae 'na lot o ddal i fyny i wneud!

Ond dyma damaid diddorol i ddechrau. Ym mha sedd y mae saith ar hugain o bobol yn cynnig am yr enwebiad Llafur tybed? Canol Caerdydd yw'r ateb.

Am ryw reswm mae'r gair 'cigfrain' yn dod i feddwl dyn!

Atebion y Cwis

Vaughan Roderick | 14:04, Dydd Iau, 26 Awst 2010

Sylwadau (1)

Diawch, mae 'na bobol wybodus yn y byd yma! Gan fy mod wedi dibynnu ar lyfrau yn hytrach na'r we ar gyfer cwis Plaid Cymru roeddwn i'n weddol hyderus o'ch curo'r tro hwn Nid felly y bu pethau.

Roedd a Rhys a Malwen yn rhyfeddol o agos a doedd dim angen ambell i farc cwestiwn ar Dewi. Roedd ei atebion i gyd yn gywir.

Fe fydd y blog yn ôl yn ei gyflawnder wythnos nesaf.

Cwis haf (6)

Vaughan Roderick | 14:16, Dydd Sadwrn, 21 Awst 2010

Sylwadau (6)

1999_dafyddwigley2.jpgDyma'r cwis olaf, am y tro! Yn unol â'r addewid Plaid Cymru yw'r thema y tro hwn.

1. Fe arweiniodd Ysgrifennydd cyntaf Plaid Cymru, H. R. Jones, ymgyrch i newid enw pentref "Ebeneser" yn Sir Gaernarfon. I beth?

2. Casgliad o ethyglau gan bwy oedd "Toward's Welsh Freedom"?

3. Yn 1967 fe ddaeth Plaid Cymru o fewn trwch blewyn i ennill Gorllewin y Rhondda mewn isetholiad ond fe ddigwyddodd rhywbeth ac arwyddocâd hanesyddol yn yr un etholaeth yn 1945. Beth?

4. Beth sy'n cysylltu "Colli Iaith" a "Congratulations"?

5. Pa Aelod Cynulliad Plaid Cymru aeth dros ben llestri braidd gyda'r efylychiad yma o Martin Luther King?

I have a dream: to board a train in Cardiff , travel to Ebbw Vale and visit that area, take a train to Cwm-carn , before taking a scenic drive to see Twmbarlwm, where the bees met the crows in the prehistoric fort ; travel by canal boat from Cwmcarn through Crosskeys , Risca , Pontymister to Rogerstone, and go, via Fourteen Locks -- which I am sure people from all over the world would visit -- to Newport marina to board a sea-borne boat to sail to the Kennet and Avon canals, or turn around in the direction of Cwmbrân to end up in Brecon

6. Hyd yma mae ymdrechion Dafydd Wigley i gyrraedd TÅ·'r Arglwyddi wedi eu rhwystro ond fe wnaeth dau ymgeisydd arall yn etholiad Chwefror 1974 yng Nghaernarfon lwyddo i gyrraedd y meinciau cochion. Enwch nhw.

7. Cyn 1990 pwy oedd yr unig aelod o Blaid Cymru i ennill sedd ar Gyngor Dinas Caerdydd?

8. Fe ddaeth awdur y "Judas Letter" yn y chwedegau yn un o arwyr mawr y blaid yn y saithdegau. Pwy oedd e?

9. Cyhoeddwyd y "Welsh Nation" yn wythnosol am gyfnod yn y saithdegau. Pa newyddiadurwr amlwg o'r Western Mail oedd yn olygydd?

10. Deg o bobol sydd wedi cynrychioli Plaid Cymru yn NhÅ·'r Cyffredin. Mae dau ohonynt wedi cynrychioli etholaeth lle bu dau arall yn ymgeiswyr aflwyddiannus. Enwch yr etholaeth a'r aelodau.

Atebion y Cwis

Vaughan Roderick | 12:36, Dydd Gwener, 20 Awst 2010

Sylwadau (0)

Roedd nifer yn agos iawn at y gamp lawn ond neb yn gwbl gywir. I arbed fi rhag gorfod teipio'r atebion i gyd mae atebion Tomos Dafydd ynghylch y Ceidwadwyr i gyd yn gywir. Dyw e ddim yn adnabod ei Ryddfrydwyr gystal! Y "South Wales Daily News" oedd yr ateb i gwestiwn deg.

Yn rhif chwech Keith Raffan oedd yr ateb cywir ond pe bai unrhyw un wedi cynnig enw Syr John Stradling Thomas fe fyddwn wedi ei dderbyn. Fe fu farw Syr John yn ystod ymdrechion gan aelodau lleol i beidio ei ail-ddewis.

Fe fydd y cwis olaf yn ymddangos dros y Sul. Chwi nashis oll, bwyddwch barod! Plaid Cymru yw'r testun.

Cwis Haf (5)

Vaughan Roderick | 11:25, Dydd Sul, 15 Awst 2010

Sylwadau (4)

question_mark_203x152.jpgMae cydbwysedd yn bwysig i'r ³ÉÈËÂÛ̳. Yn sgil y Cwis Llafur wythnos ddiwethaf mae cwestiynau'r wythnos hon yn ymwneud ac ochor arall y sbectrwm. Mae 'na naw cwestiwn ynghylch y Ceidwadwyr ac un ynghylch y Rhyddfrydwyr. Mae hynny'n teimlo'n gymwys, rhywsut!

1. Roedd y Barwn Strange o Knockin yn llefarydd ar Gymru yn Llywodraeth John Major. Fe hefyd oedd yr unig Geidwadwr amlwg i gefnogi'r ymgyrch "Ie" yn refferendwm 1997. Beth oedd ei enw go-iawn a'i deitl mwy arferol?

2. Pwy oedd Dai Bananas?

3. Yn 1959 fe wnaeth un Ceidwadwr o Gymru fygwth rhoi diwedd ar yrfa wleidyddol Harold Wilson. Fe lwyddodd un arall i roi stop ar uchelgais gwleidyddol y darlledwr Robin Day. Enwch yr un wnaeth lwyddo a'r un wnaeth fethu.

4. Yr hen asyn a fu farw wrth gario glo i'r Fflint - ond pa asyn arall o Glwyd oedd yn poeni Margaret Thatcher?

5.Cyn mentro i fyd gwleidyddiaeth pwy wnaeth wahardd merched rhag darllen newyddion ar y teledu oherwydd eu "diffyg awdurdod"?

6. Fe fethodd dau Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig gael eu hail-fabwysiadu gan y blaid yn 1990. Yr ateb i gwestiwn 4 oedd un ond pwy oedd y llall?

7. Pwy oedd y "Mistar Toad" wnaeth fudo o Fôn i Fynwy?

8. Pam y byddai Siôn Corn yn teimlo'n gartrefol wrth ymweld â dau gyn aelod seneddol Ceidwadol o Sir Benfro ac aelod cynulliad presennol Mynwy?

9. Yn 1868 fe wariodd y Ceidwadwyr £10,000 (£500,000 yn arian heddiw) ar geisio ennill etholaeth Caerdydd... a methu! Yn sgil y methiant hwnnw lansiwyd papur newydd i ddadlau achos Torïaid Caerdydd. Beth oedd (neu yw) enw'r papur hwnnw?

10. Beth oedd enw papur cyffelyb y Rhyddfrydwyr?

Atebion

Vaughan Roderick | 21:51, Dydd Sadwrn, 14 Awst 2010

Sylwadau (0)

Ar ôl yr help llaw roedd atebion Rhys yn llygaid eu lle. Sori, Dewi! Dyma nhw;

1) Kim Howells a Sian James 2)De West Ham 3)Yn 1979 fe gollodd Caerwyn Roderick Brycheiniog a Maesyfed i'r Ceidwadwr Tom Hooson. Fe roedd Cefn Coed a Brynmawr yn rhan o'r etholaeth cyn yr Etholiad hwnnw. Mannau oedd a phleidlais gref i'r Blaid Lafur. 4) Dim syniad - rhy simpyl i fi yn amlwg!! 5)Russel Goodway a Blon Fel-Fotch Pasameer-Day Slitheen wedi bod yn Arglwydd Feiri Caerdydd. Enw'r atomfa oedd y Blaidd Drwg. 6)Gwilym Ednyfed Hudson Davies 7)Desmond Donnelly 8)Tom Middlehurst 9)Tom Ellis??? 10) Defnyddiodd Joe Biden un o areithiau Neil Kinnock

A wedyn, wrth gwrs...

4. Mae pob un etholaeth wedi cael AS gyda'r cyfenw Smith!! Syr Cyril Smith yn Rochdale, John Smith ym Mro Morgannwg, Llew Smith ym Mlaenau Gwent ac Owen Smith ym Mhontypridd.

A'r esboniad gan Yr Asyn

AH! Cwestiwn 4 - Smithiaid oll! "Are they clinging to their crosses F E Smith Where the Breton boat fleet tosses, are they Smith?" ac yn y blaen. Gallaset fod wedi ychwanegu etholaeth Lerpwl sef etholaeth FE Smith cyn iddo ddod yn Lord Birkenhead.

Gallwn... ond rwyn ceisio cadw pethau'n hawdd!!!

Mae 'na gwis arall i ddod!

Help Llaw

Vaughan Roderick | 21:23, Dydd Iau, 12 Awst 2010

Sylwadau (1)

Rwy'n gwylio o bell!

Does neb wedi llwyddo ar gwestiwn 4. Dyma help llaw felly. Teitl cerdd Chesterton ynghylch datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yw "Chuck it, Smith". Gallai'r enw Cyril eich arwain at yr ateb!

Hefyd mae dau ateb yn cynnwys yr enw "Tom"- y ddau yn wleidyddion o Glwyd.

Cwis Haf (4)

Vaughan Roderick | 09:01, Dydd Mawrth, 10 Awst 2010

Sylwadau (6)

question_mark_203_203x152.gif
Fe wnaeth nifer o bobol ar Faes Blaenau Gwent grybwyll eu mwynhad o'r cwisiau. Yn eu plith roedd Dewi sydd pob tro ar y brig neu'n agos ato. Fe wnaeth e ddiflannu cyn i mi allu cyflwyno'r cwpan!

Trwy wyrth yr amserydd dyma'r cwis diweddaraf. Fe fydd yr atebion yn ymddangos dros y Sul. Os ydych chi'n chwilio am thema mae'r cwestiynau i gyd a rhyw gysylltiad â'r blaid Lafur.

1. Enwch dau ffigwr gwleidyddol Llafur ddaeth yn adnabyddus yn ystod streic y glowyr a chafodd eu hethol i DÅ·'r Cyffredin dros etholaethau Cymreig. Fe lwyddodd y cyntaf yn 1989 ond roedd yn rhaid i'r llall ddisgwyl tan 2005.

2. Fe gynrychiolodd Keir Hardie dwy etholaeth yn Nhŷ'r Cyffredin. Merthyr ac Aberdâr oedd un. Beth oedd y llall?

3. Ym mha ffordd y gwnaeth colli Cefn Coed a Brynmawr ddryllio Roderick a dyrchafu Hooson?

4. Beth yw'r cysylltiad digon simpyl rhwng etholaethau Blaenau Gwent, Pontypridd, Bro Morgannwg a Rochdale â cherdd gan G. K. Chesterton ynghylch datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru?

5. Pa swydd sydd wedi cael ei llenwi gan Russell Goodway a Blon Fel-Fotch Pasameer-Day Slitheen a beth oedd enw'r atomfa yr oedd yr ail o'r ddau yn dymuno ei hadeiladu yng Nghymru?

6. Pa Gurig wnaeth droi'n Hudson?

7. Pa AS Llafur o Gymru wnaeth sefyll dros dair plaid arall gan golli o dan faneri "Common Wealth", yr NILP a'r Blaid Ddemocrataidd ?

8. Pa Ysgrifennydd/Gweinidog oedd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn llywodraeth Alun Michael?

9. Pwy oedd yr aelod cyntaf o'r blaid Lafur Brydeinig i anerch Senedd Ewrop?

10. Beth sy'n cysylltu cyn aelod Islwyn â chyn Seneddwr Delaware. Mae'r naill bron wedi diflannu a'r llall wedi ei ddyrchafu.

Cestyll Tywod

Vaughan Roderick | 18:16, Dydd Gwener, 6 Awst 2010

Sylwadau (1)

Wrth i mi adael Maes Blaenau Gwent am y tro olaf heddiw rhuthrodd un o'r cynghorwyr lleol draw gyda'i wynt yn ei ddwrn.

"Have you heard, the news Vaughan?" gofnynnodd cyn cynnig y newyddion hyn. " All the People's Voice councillors have resigned from People's Voice."

Chi'n gwybod beth? Does dim ots 'da fi - a hynny am ddau reswm.

Yn gyntaf mae 'na ddwy ardal lle rwyf wedi hen roi'r gorau i geisio deall gwleidyddiaeth y siambr cyngor. Ynys Môn yw un a Blaenau Gwent yw'r llall. Rwy'n llwyr ddisgwyl y bydd cyn aelodau grŵp People's Voice yn ymddangos cyn bo hir fel aelodau cyflawn o Grŵp Menai neu Môn Ymlaen!

A'r ail reswm? Yr wyf fi (a'r blog) ar wyliau am ychydig!

Maes Meddyliau

Vaughan Roderick | 13:53, Dydd Gwener, 6 Awst 2010

Sylwadau (0)

Weithiau wrth gyflwyno araith neu ddarlith mae syniad yn eich taro o'r unlle bron fel pe bai dweud pethau ar goedd yn procio'r meddwl. Fe ddigwyddodd hynny i Richard Wyn Jones ddoe. Dim ond wrth gyflwyno darlith y gwnaeth problem ynghylch y refferendwm datganoli nesaf ei daro.

Roedd Richard ar ganol gwneud y pwynt y byddai'n hynod o galed i'r naill ochor na'r llall yn y ddadl lunio negeseuon effeithiol gan fod y cwestiwn cyfansoddiadol mor gul. Byddai 'na ddim dewis felly ond esgus bod y bleidlais yn rhywbeth mwy nac oedd hi. Mae hynny i'w gweld yn barod gyda honiadau Carwyn Jones ynghylch cost ariannol pleidlais "Na" i Gymru a honiadau "Gwir Gymru" ynghylch y llwybr llithrig i annibyniaeth.

Y pwynt wnaeth daro Richard oedd hyn. Fe fydd y ddau ymgyrch yn derbyn talp o arian cyhoeddus gan y Comisiwn Etholiadol i gyflwyno eu dadleuon. Sur fydd y comisiwn yn ymateb felly os oes 'na gwynion bod yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno ffug-ddadleuon neu hyd yn oed i balu celwyddau ynglŷn â natur y bleidlais? Mae'n gwestiwn da a dydw i ddim yn gwybod yr ateb.

Mae Richard o'r farn bod y broblem yn deillio o'r ffaith bod refferendwm yn cael ei chynnal ynghylch pwnc nad yw haeddu pleidlais. Yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn adlewyrchu problem fwy sylfaenol ynghylch refferenda. Yn fwy nac mewn etholiad mae etholwyr mewn refferendwm yn aml iawn yn pleidleisio ar sail greddf neu ragfarn. Tasg yr ymgyrchoedd felly yw canfod rhyw resymeg neu ddadl i gyfiawnhau'r greddfau a'r rhagfarnau hynny - i'w gwneud nhw'n barchus os mynnwch chi.

Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth edrych ar ganlyniad achos llys yn yr Unol Daleithiau'r wythnos hon. Ar yr un diwrnod ac ethol Barak Obama fe bleidleisiodd etholwyr California mewn refferendwm i wahardd priodasau hoyw, priodasau oedd wedi eu cyfreithloni gan Lys Goruchel y Dalaith. O drwch blewyn y penderfynwyd y peth ond mi ydyn ni yng Nghymru yn gwybod o brofiad bod trwch blewyn yn ddigon mewn refferendwm!

Dyna fyddai ddiwedd y stori pe na bai'r canlyniad wedi hela dau gyfreithiwr i bendroni. Nid unrhyw ddau gyfreithiwr chwaeth ond y ddau wnaeth gynrychioli George Bush ac Al Gore wrth iddynt ddadlau ynghylch canlyniad etholiad arlywyddol 2000.

Poeni oedd y ddau bod gwrthwynebwyr priodasau hoyw wedi ennill y bleidlais trwy ddefnyddio dadleuon nad oeddynt yn ddilys na'n bosib eu profi a thrwy hynny wedi amddifadu dinasyddion o hawliau sydd wedi eu gwarantu gan gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Fe gychwynnodd y ddau achos wnaeth ddiweddu mewn gwrandawiad llys lle'r oedd disgwyl i'r ddau ymgyrch gyfiawnhau eu dadleuon. Ar ôl hir ystyried fe ddyfarnwyd yr wythnos hon nad oedd y dadleuon yr ymgyrch yn erbyn y priodasau yn rhesymegol nac yn ddilys. Oherwydd hynny fe ddylid diystyru'r canlyniad.

Mae hynny'n codi pwynt diddorol. Os oedd y Comisiwn Etholiadol yn barnu bod y naill ochor neu'r llall yn un o'r ddau refferendwm flwyddyn nesaf wedi defnyddio dadleuon ffug er mwyn ennill a fyddai hynny'n agor y drws i her gyfreithiol a pha ddyletswydd foesol neu gyfreithiol fyddai na ar wleidyddion i barchu'r canlyniad?

Byd Bach

Vaughan Roderick | 15:39, Dydd Iau, 5 Awst 2010

Sylwadau (2)

Does 'na ddim sut beth a thocyn tymor i Bebyll y Cymdeithasau. Efallai y dylai 'na fod o ystyried arlwy amrywiol y ddwy babell eleni a'r cynulleidfaoedd niferus sydd wedi bod yn mynychu'r cyfarfodydd.Treuliais y prynhawn ym mhabell 2 gan wrando ar gyfres o drafodaethau diddorol.

Cyfaill bore oes i mi - y cyfreithiwr a'r Prifardd Emyr Lewis oedd yn siarad yng nghyfarfod Cymdeithas y Cynllunwyr Iaith. Mae Emyr yn un o'r bois peniog yna sy'n rhoi pen tost i ddyn wrth geisio cadw lan a'u dadleuon. Y Mesur Iaith oedd dan sylw ganddo heddiw - mesur oedd, meddai yn 'syrthio rhwng dau Ffred'! Alun Ffred a Ffred Ffrancis yw'r ddau mae'n debyg ond prif bwynt Emyr oedd y dylai gwleidyddion gofio mae gweision nid meistri yw eu cyfreithwyr. Awgrymodd fod gormod o'r Mesur presennol yn ffrwyth pryderon cyfreithwyr y Llywodraeth yn hytrach na'n ymgais i gyflawni bwriadau'r gwleidyddion. Mae hynny'n ddweud mawr gan gyfreithiwr!

Mae'n bosib mai rhoi cic fach i Huw Onllwyn Jones, y gwas sifil sy'n llys dad i'r mesur ac oedd yn eistedd yn y gynulleidfa oedd bwriad Emyr. Os felly rwy'n sicr bod 'na ddim byd personol yn hynny. Wedi'r cyfan os cofiaf yn iawn roedd y ddau'n dod ymlaen yn iawn da'i gilydd yn ein dyddiau ysgol!

Ffrind coleg i mi, y Gweinidog Addysg Leighton Andrews oedd y siaradwr yng nghyfarfod Cymdeithas yr Iaith. Fe wnaeth Leighton son am y cysylltiad hwnnw wrth y gynulleidfa gan hel atgofion am ein rhan mewn ymgyrchoedd dros y Gymraeg yn y Coleg. Roedd hynny'n ffordd fach glyfar o danlinellu nad rhywbeth newydd yw ei gefnogaeth i'r iaith er mai dim ond yn weddol ddiweddar y mae wedi llwyddo i'w dysgu. Roedd y ffaith ei fod yn ddysgwyr hefyd yn gweithio o'i blaid wrth gwrs. Serch hynny roedd 'na hen ddigion o gwestiynu caled!

Fy nghyfaill noson etholiad Richard Wyn Jones oedd trydydd siaradwr y prynhawn. Fel arfer roedd Richard yn ffraeth ac yn dreiddgar ond fe wnes i lynu at draddodiad trwy anghytuno a hanner y pethau oedd ganddo i ddweud. Dim ond jocian, Dicw!

Os ydych chi ar y Maes yfory ac yn ffansio tipyn o drafod gwleidyddol fe fydd Arwyn Jones Daran Hill a minnau yn cynnal cyfarfod panel ar stondin Prifysgol Aberystwyth am 11.00. Cewch wybod bryd hynny pam yn union y mae Richard yn anghywir!

Ar lafar gwlad

Vaughan Roderick | 10:40, Dydd Iau, 5 Awst 2010

Sylwadau (0)

Trigain mlynedd neu fwy yn ôl swydd gyntaf fu nhad ar ôl gadael coleg oedd gweithio fel athro "cyflwyno'r Gymraeg" yn y rhan hynny o Flaenau Gwent oedd yn Sir Frycheiniog ar y pryd. Sylwch mai "cyflwyno'r Gymraeg" oedd ei waith nid dysgu i'r plant ei siarad!

Serch hynny yn y dyddiau hynny, pan oedd y Gymraeg mwy neu lai'n cael ei hanwybyddu yn ysgolion y de-ddwyrain, roedd yr arbrawf yn un eithaf goleuedig a beiddgar.

Roedd techneg fy nhad yn weddol syml. Wrth fynd o ysgol i ysgol fe fyddai'n arwain y plant ar daith gerdded - rhyw fath o helfa drysor i chwilio am eiriau Cymraeg ar dalcennau capel, beddrodau, enwau strydoedd ac yn y blaen. Roedd disgwyl i'r plant wedyn ddweud neu ddyfalu beth oedd ystyr y geiriau hynny.

Y rhyfeddod i'n nhad oedd bod plant "di-gymraeg" Brynmawr a'r cyffiniau bron yn ddieithriad yn gyfarwydd â channoedd o eiriau Cymraeg ac yn gwybod yn iawn beth oedd eu hystyr ar ôl crafu eu pennau am ychydig.

Yn ei eiriau fe "roedden nhw'n gwybod y geiriau i gyd ond doedd dim clem 'da nhw sut i roi nhw at ei gilydd".

Mae'r ardal wedi gweld llawer o fynd ond ddim llawer o ddod o safbwynt ei phoblogaeth ers hynny a hyd y gwelaf i mae'r gwaddol ieithyddol yn parhau hyd heddiw. Roedd hi'n drawiadol yn angladd y diweddar Peter Law, er enghraifft, bod yr emynau yn rhai Cymraeg ac nad oedd fawr o neb yn syllu ar eu taflenni wrth eu canu.

Efallai oherwydd cyn lleied yn ei siarad dyw hi ddim yn ymddangos ychwaith bod gan drigolion yr ardal y fath o "hang-ups" ynghylch yr iaith sy'n bodoli ymhlith y di-gymraeg weithiau. Mae'n drawiadol mai enwau uniaith Gymraeg sydd ar ddau ysbyty Glyn Ebwy "Ysbyty'r Tri Chwm" ac "Ysbyty Aneurin Beran" ac mai enwau Cymraeg sydd ar y rhan fwyaf o stadau tai newydd sy'n cael eu codi yn sgil ail-agor y rheilffordd.

Neithiwr es i am dros o gwmpas Brynmawr a Beaufort am ddim rheswm mwy nac nad oeddwn i erioed wedi bod iddyn nhw o'r blaen. Mae gan Frynmawr Ysgol Gymraeg erbyn hyn wrth gwrs a braf oedd gweld posteri o gwmpas Beaufort yn hysbysebu'r ysgolion meithrin Cymraeg lleol.

Y ddadl fawr dros yr Eisteddfod deithiol wrth gwrs yw ei bod yn fodd i Gymreigio ardaloedd. Ar y cyfan rwy'n amheus o hynny yn enwedig o weld cyn lleied o Eisteddfodwyr o gwmpas y lle yn y trefi a phentrefi sy'n amgylchynu'r ŵyl.

One efallai bod yr Eisteddfod yma'n eithriad. Mae nifer y di-gymraeg ar y Maes wedi bod yn drawiadol iawn eleni a'u mwynhad a'u balchder lleol yn amlwg. Yn achos Blaenau Gwent mae'n bosib nad "chwistrelliad o Gymreictod" sydd angen ar yr ardal ond procied bach i ddeffro'r iaith o'i thrwmgwsg.

Sefyll yn stond

Vaughan Roderick | 13:14, Dydd Mercher, 4 Awst 2010

Sylwadau (0)

Rwy'n ffaelu credu bod hi'n Ddydd Mercher cyn i fi wneud y rownds o stondinau'r pleidiau gwleidyddol ar y maes! Fel y byddwch chi'n disgwyl mewn Eisteddfod ac mewn ardal fel Glyn Ebwy mae 'na ddigon o fynd a dod ar stondinau'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Comiwnyddion.

Mae'n fwy o syndod efallai bod y Ceidwadwyr yn dweud eu bod wedi cael croeso ddigon cwrtais. Nid felly'r Democratiaid Rhyddfrydol gydag ambell i Eisteddfodwr yn diawlio'r blaid am glymbleidio a'r Torïaid yn San Steffan. "Doedd e ddim yn brofiad dymunol" oedd disgrifiad un aelod o'r blaid o'i sbel yn orchwylio'r babell.

Nid bod pob Democrat Rhyddfrydol yn cadw draw. Mae Aled Roberts wedi bod yn amlwg iawn o gwmpas y maes. Fe fyddai dyn yn disgwyl hynny gan arweinydd y Cyngor fydd yn croesawu'r brifwyl flwyddyn nesaf wrth gwrs.

Rwy'n gwbl sicr mai dyna yw'r unig reswm y mae Aled yn dymuno codi ei broffil ymhlith Eisteddfodwyr. Fe fyddai unrhyw gasgliad arall yn gwbl gyfeiliornus. Efallai.

Yn y cyfamser mae gen i un diweddariad bach i'r post ddoe lle gwnes i awgrymu bod Carwyn Jones yn cadw draw o babell Ysgol Treganna. Mae'n debyg bod y Prif Weinidog wedi cytuno i gwrdd â dirprwyaeth o'r ysgol y prynhawn yma.

Crwydro'r Maes

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Vaughan Roderick | 16:55, Dydd Mawrth, 3 Awst 2010

Sylwadau (0)

Un o "hot tickets" yr Eisteddfod eleni yw'r Sinema 5-D, un arall o drysorau cudd y Maes rhyfeddol hwn. Roeddwn i'n benderfynol o brofi'r rhyfeddod heddiw. Yn anffodus fel sy'n digwydd yn yr Eisteddfod fe drodd tro bach byr yn hirdaith o sgyrsiau a shwd maes.

Dyna i chi John Uzzell Edwards artist sydd am gychwyn ymgyrch i droi "Lle Celf" Blaenau Gwent yn Oriel Gelf Genedlaethol barhaol. "Hwn yw'r lle" meddai "lle y byddai pob artist yn dymuno i'w waith cael ei weld". Nid fe yw'r unig un sydd wedi gwirioni a'r lle. Mae Dafydd Iwan hefyd am weld oriel barhaol yn yr hen selar. Ydy hynny'n ymarferol? Go brin. "Gwelwch hi nawr neu collwch y cyfle" yw'r neges mae gen i ofn!

Un arall wnaeth fy rhwystro rhag cyrraedd y Sinema oedd Dafydd Ellis Thomas. Wrth i mi daro sgwrs a'r Llywydd fe ddaeth Guto Harri a'i feibion draw ac mae'n ymddangos bod ychydig o ysbryd drygionus Maer Llundain yn cael ei adlewyrchu ym mhlant ei lefarydd. Ar ôl cael eu cyflwyno i Dafydd El fe awgrymodd un gefell ei fod yn gwybod can ynglŷn â'i gydnabod newydd. Dechreuodd ei chanu. "Dafydd Elis Ffos y Ffin..." oedd y llinell gyntaf. Chi'n gwybod y gweddill. Fe fydd rhyw un yn gynnar i'r gwely heno!

Un fydd ar y maes yfory yw Carwyn Jones ac roedd rhai yn disgwyl iddo gymryd rhan mewn digwyddiad ym mhabell Unsain. Dyw hynny ddim ar ei raglen swyddogol. Tybed oes a wnelo hynny a'r ffaith bod pabell Ysgol Treganna drws nesaf i stondin yr undeb?

Paent gwlyb

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Mawrth, 3 Awst 2010

Sylwadau (1)

1-0.jpg

Mae'r cartwn di-enw yma newydd lanio ar e-bost. Cyfeirio mae'r peth at slogan a baentiwyd ar Senedd San Steffan blynyddoedd maith yn ol.

Dydw i ddim yn cofio union eiriad y gwreiddiol. Rhywbeth fel "Gwynfor 1 Whitelaw 0" oedd hi, rwy'n meddwl. Os ydych chi'n cofio'n well mae croeso i chi adael sylw!

Mae'r cartŵn yn brawf, os oedd angen mwy o brawf o fethiant Awdurdod a Swyddogion S4C i argyhoeddi pawb i "edrych i'r dyfodol". Mae'r Awdurdod wedi cynnig esboniad o'r hyn sydd wedi digwydd i'r Adran Diwylliant yn Llundain ac mae'r adran yn fodlon a'r esboniad hwnnw.

Dyw'r gweddill ohonom ni ddim wedi derbyn esboniad wrth gwrs. Efallai mai dyna sy'n gyfrifol am y datganiad canlynol gan Gymdeithas yr Iaith.

"Mae'r datblygiadau diweddar yn S4C yn brawf pellach bod y system sy'n darparu ein cyfryngau Cymraeg wedi torri'n deilchion"

Mewn araith y bore 'ma disgwylir i Ieuan Wyn Jones ddadlau fod rhesymau economaidd, diwylliannol a democrataidd cryf dros drosglwyddo rheolaeth dros deledu a radio i Gymru yn nhyymor nesaf y Cynulliad. Fe fydd yn addo y bydd yn gosod datganoli darlledu wrth graidd maniffesto ei blaid ym mis Mai.

A bod yn sinigaidd gellid dadlau mae ceisio apelio at bleidleisiwr sy'n siomedig ynghylch record Llywodraeth y Cynulliad ym maes yr iaith y mae Ieuan yn fan hyn. Ond mae'n anodd credu nad yw'r araith hefyd yn ymateb i stormydd yr wythnos ddiwethaf. Yn wir mae fe'i hun yn dweud hynny ym mrawddeg gyntaf yr araith.

"Mae'r wythnos diwethaf wedi dangos dau beth yn glir; pa mor hanfodol yw darlledu i fywyd y genedl a pha mor ddifygiol yw'r oruwchwyliaeth ddemocrataidd drosto yng Nghymru ar hyn o bryd"

Heno mae Awdurdod S4C yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar y maes. Gallai hwnnw fod yn ddiddorol a dweud y lleiaf!

Trysorau cudd

Vaughan Roderick | 20:22, Dydd Llun, 2 Awst 2010

Sylwadau (0)

Os ydych chi'n darllen y blog yma'n gyson efallai eich bod chi'n amau fy mod dipyn o sinig. I brofi nad yw hynny'n gwbl wir rwyf am ddweud yn gwbl onest mai maes Eisteddfod Blaenau Gwent yw'r mwyaf difyr, diddorol ac amrywiol ei gynnwys i mi gofio.

I ryw un fel fi sy'n treulio mwy o amser ym Mhabell y Cymdeithasau nac unrhyw babell arall mae gan Flaenau Gwent fantais amlwg. Nid Pabell y Cymdeithasau sydd yma ond pebyll! Mae 'na ddau ohonyn nhw yn cynnig ystod eang o gyfarfodydd a darlithoedd difyr. Ddoe, er enghraifft es i fwy neu lai yn syth o ddarlith Rhodri Morgan ynghylch Aneurin Bevan ym mhabell un i wrando ar Helen Prosser yn trafod Niclas y Glais ym mhabell dau. Roedd y ddau gyfarfod mwy neu lai'n llawn.

Yn anffodus mae rhai o atyniadau gwych eraill y Maes yn gymharol wag a hynny oherwydd eu bod yn eithaf anodd eu canfod. Rwy'n casglu mai atyniadau a drefnwyd yn annibynnol o'r Eisteddfod yw'r rhain ac yn anffodus mae rhai ohonyn hwn bron yn gudd y tu ôl i stondinau'r Eisteddfod eu hun.

Mae bois Rheilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon yn gallu canu chwiban i dynnu sylw at eu trên stem y tu ôl i'r Babell wyddoniaeth. Dyw pobol y wifren sip a'r gerddi cymunedol sydd hefyd yn rhan ddeheuol y maes ddim mor ffodus.

Mae 'na lu o atyniadau eraill milltir i'r gogledd ym mhen arall y Maes. Ydy, mae'r lle mor fawr â hynny! Ewch heibio'r traeth(!) wrth ymyl cylch yr orsedd a dilynwch yr arwyddion i hen swyddfeydd ysblennydd y gwaith dur lle mae 'na lwyth o bethau difyr i weld a gwneud.

Un peth sy ddim yma hyd y gwelaf i yw'r faniau llaeth oedd yn gymaint rhan o'r Eisteddfod ers talwm. Roedd rheiny yn fodd i dorri syched tra'n dysgu geiriau crand fel ffrwchnedd a mafon i genedlaethau o blant! Dyw Steddfod ddim yn steddfod heb ysgytlaeth rhywsut!

Dyfroedd dyfnion

Vaughan Roderick | 16:28, Dydd Llun, 2 Awst 2010

Sylwadau (3)

Roeddwn i wedi bwriadu cadw draw o helyntion S4C heddiw. Rhwng pob dyn a'i alar fel maen nhw'n dweud. Ar y llaw arall o safbwynt straeon rhoi mae y ffynnon fach.

Os oedd pawb yn gallu cytuno ar un peth mae'n debyg mai'r ffaith bod y sianel wedi gelyniaethu nifer o bobol ddylai fod ymhlith ei ffrindiau yn ystod y cyfnod diweddar yw hynny. Yn sicr mae'n ymddangos bod Phil Williams, ysgrifennydd Awdurdod S4C yn credu hynny.

Pan welodd yr ysgrifennydd grŵp o wleidyddion Llafur nid nepell o stondin y sianel aeth draw atyn nhw i geisio eu hargyhoeddi bod S4C yn deall cymaint ei thrafferthion. "We get it" oedd ei union eiriau i'r grŵp oedd yn cynnwys yr Aelod Seneddol Nick Smith a'r Aelod Cynulliad Alun Davies.

Ond wrth i Phil Williams geisio lleddfu'r dyfroedd rhuthrodd swyddog arall o'r sianel at y grŵp gan sefyll gyda'i drwyn o fewn modfeddi i un Alun Davies gan ddweud hyn mewn llais uchel "Rwy'n mynnu cael dy gefnogaeth ddiamod". "Dim heb esboniad" oedd ymateb Alun sy'n cwyno bod ymddygiad y Swyddog yn "fygythiol".

Pwy oedd y swyddog hwnnw?

Arwel Elis Owen, Prif Weithredwr dros dros S4C.

Beth yw'r llyfr yna 'How to win friends and influence people'? Rhywbeth felly!

Yn y cyfamser fe fydd yn rhaid i Arwel obeithio ei fod yn cael gwell cefnogaeth gan Gadeirydd yr Awdurdod na chafodd ei ragflaenydd. Mae sawl ffynhonnell yn honni bod John Walter Jones wedi ymatal yn y bleidlais ynghylch diswyddiad Iona Jones a basiwyd o un bleidlais yn unig.

Morgan v Morgan

Vaughan Roderick | 13:22, Dydd Llun, 2 Awst 2010

Sylwadau (1)

Jocian oeddwn i wrth alw'r Eisteddfod yn "faes Llafur" yn gynharach heddiw. Rwy'n dechrau meddwl bod hi'n enw digon addas ar ôl gweld cymaint o wleidyddion Llafur yn crwydro'r o gwmpas y lle. O fewn deng munud heddiw gwelais i Nia Griffith, Ann Clwyd, Paul Flynn a Nick Smith heb sôn am lond siambr o gynghorwyr.

Trodd nifer ohonyn nhw i fyny ym Mhabell y Cymdeithasau i wrando ar ddarlith Rhodri Morgan ynghylch Aneurin Bevan lle'r oedd y cyn Prif Weinidog ar ei fwyaf difyr ac eclectig. Honnodd er enghraifft bod yr Eisteddfod wedi cytuno i wneud eithriad i'r rheol iaith yn 1958 oherwydd y byddai'r deuawd "Bevan a Robeson" yn sicr o apelio at gynulleidfa oedd wedi cael llond bol o Jac a Wil!

Ymhlith y selogion Llafur yn y gynulleidfa roedd un nad yw'n aelod etholedig, ar hyn o bryd o leiaf. Fe gollodd gwraig Rhodri, Julie, ei sedd seneddol o lond dwrn o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol ac mae sawl un o fewn y blaid wedi bod yn gweddïo y bydd hi'n sefyll yng Ngogledd Caerdydd yn etholiad y Cynulliad.

Dyw Julie ddim am ddatgelu ei chynlluniau eto ond o farnu o'r wen fawr pan ofynnais am ei dyfodol rwy'n rhyw amau bod gweddïau'r Llafurwyr ar fin cael ei hateb a hunllef Jonathan Morgan ar fin cael ei wireddu.

O'r Maes

Vaughan Roderick | 10:08, Dydd Llun, 2 Awst 2010

Sylwadau (1)

Dyma fi ar y Maes Llafur, felly.

Wel, beth arall fyddai dyn yn galw Eisteddfod y drws nesaf i Ysbyty Aneurin Bevan? Mae hwnnw'n enw uniaith Gymraeg, gyda llaw.

Heddiw bydd Rhodri Morgan yn traddodi darlith ar y Maes ynghylch Bevan a'i etifeddiaeth. Tybed a fydd e'n cynnwys un ffaith fach ddiddorol am yr arwr hwnnw? Yn ôl yn y tridegau Bevan oedd cydawdur maniffesto "Plaid Newydd" Oswald Moseley.

Fe fyddai hynny wedi gwneud cwestiwn da i'r cwis! Mae'r atebion i'r diweddaraf wedi eu cyhoeddi. Roedd Dewi a Dai yn gywir y tro hwn ac na, Dewi, dwyt ti ddim yn cael cadw'r gwpan!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.