|
|
Llais Merch
Daeth y Sianel 芒 hyder newydd i Gymru yng nghanol cyni economaidd yr wythdegau cynnar. 'Roedd cyfran uchel o fenywod Cymru yn gweithio i'r Sianel, ac yn adlewyrchu r么l newydd y fenyw yn y gymdeithas ar 么l chwyldro'r chwedegau a'r saithdegau. 'Roedd Margaret Thatcher ei hun yn llysgenhades hynod o effeithiol dros lwyddiant menywod mewn byd a g芒i ei reoli gan ddynion. Ychwanegodd at ei phoblogrwydd gyda'i phenderfyniad diwyro i anfon milwyr i hawlio Ynysoedd y Malvinas yn 么l oddi ar y goresgynwyr o Ariannin ym mis Ebrill, 1982, a llwyddo i drechu'r goresgynwyr. Cryfhaodd ei phlaid 芒'i buddugoliaeth, a dangosodd sut y gallai menywod chwarae rhan allweddol a blaenllaw yn y byd modern. Erbyn 1990 'roedd hanner y garfan weithiol ym Mhrydain yn fenywod, ac 'roedd menywod Cymru yn gallu cystadlu'n llwyddiannus 芒'r dynion.
Nid buddugoliaeth i Margaret Thatcher yn unig oedd buddugoliaeth y Malvinas. Sicrhaodd y gwrthdaro rhwng Prydain ac Ariannin fuddugoliaeth i fenyw arall, Eluned Phillips , a enillodd ei hail Goron yn Eisteddfod M么n ym 1983, ond condemniad ar ryfel yn hytrach na chlod i Margaret Thatcher oedd ei phryddest 'Clymau' . Trasiedi dau lanc a welodd Eluned Phillips, un yn Gymro a'r llall yn Archentwr o dras Gymreig, ac 'roedd holl drasiedi hanes Cymru yng nghyd-ddioddefaint y ddau, ac yn y modd 'roedd y pwerau mawrion wedi ecsbloetio'r cenhedloedd bychain drwy gydol yr ugeinfed ganrif. 'Roedd merched yn amlwg ym mhrotest Comin Greenham yn erbyn bwriad y Llywodraeth i leoli taflegrau Cruise yr Unol Daleithiau yng nghanolfannau milwrol Comin Greenham a Molesworth yn Lloegr. Dechreuwyd protestio ym mis Rhagfyr 1981. Amgylchynwyd Comin Greenham gan ugain mil o fenywod flwyddyn yn ddiweddarach, a merched o Gymru yn eu mysg. Un ohonyn nhw oedd Meg Elis, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, 1985, ar 么l cofnodi ei phrofiadau fel un o brotestwyr Comin Greenham ar ffurf dyddiadur, Cyn Daw'r Gaeaf.
'Gyda'r machlud, daeth merched o'r gwahanol wersylloedd i ymgynnull a sefyll yn rhes yn wynebu'r ffens, yn edrych i mewn. Gwneud dim, dim ond dal dwylo, sefyll, edrych tuag at y milwyr a'r cerbydau, yr ehangder y tu mewn, ar silos sy'n codi fel estyniadau o'r dywarchen werdd. Sefyll yn glystyrau distaw, yn syllu i mewn wrth i'r haul fynd i lawr. Cydio yn nwylo'n gilydd, ac yna dechrau llefaru enwau. Enwau merched nad oeddynt yno, merched a fu yma, merched fuasai wedi hoffi bod yma ond a rwystrwyd am ryw reswm neu'i gilydd.'
Codi
Hyder...
|
|
|
Codi
Hyder
'Roedd yr egni a'r hyder newydd yn yr iaith yn codi proffeil y Gymraeg, ac yn ennyn parch ati o'r newydd. Dechreuodd ddenu dysgwyr o bob cwr o Gymru ac o Loegr, ac 'roedd y Gymraeg yn blaguro o'r newydd ar yr hen ganghennau wrth i nifer y dysgwyr gynyddu. Trowyd anialwch Nant Gwrtheyrn yn fwrlwm o weithgarwch. Ugain mlynedd ar 么l i ddiweithdra anfon y trigolion olaf oddi yno, agorwyd canolfan i ddysgu Cymraeg yn y cwm.
'Roedd plant i rieni o Birmingham, Manceinion a Llundain bellach yn dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol leol. Daeth llawer i gefn-gwlad Cymru er mwyn ceisio byw'n wyrdd ac yn hunan-gynhaliol, ac fe ddaethon nhw 芒'u crefftau gyda nhw. 'Roedd safbwynt John Roderick Rees, Prifardd Coron Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan, 1984, yn ei bryddest, 'Llygaid', yn hollol wahanol i safbwynt cenedlaetholwyr ar hyn.
Ym mlwyddyn buddugoliaeth Meg Elis, enillwyd y Gadair gan ddysgwr am y tro cyntaf. 'Roedd Robat Powel ei hun wedi gweld sawl tro ar fyd. Os oedd brwdfrydedd y dysgwr yn dod 芒 hyder newydd i Gymru, 'roedd y cyni economaidd ar ddechrau'r wythdegau yn gweithio'n groes i'r hyder hwnnw. Collwyd dros gan mil o weithwyr ar ddechrau'r wythdegau, ac 'roedd y
Gorfforaeth Ddur Brydeinig wedi colli bron i hanner can mil o'i gweithwyr mewn deng mlynedd wrth i weithiau dur yn Shotton, Glynebwy, Llanelli a Chaerdydd gau fesul un. Cawsom ddarlun o'r gwaith dur cae毛dig a'r ffwrneisiau oer yn yr awdl 'Cynefin'.
Wedi ergyd y Refferendwm ar ddatganoli, ac wrth i'r economi wanhau, 'roedd y Cymry yn chwilio am gyfeiriadau newydd. O leiaf 'roedd byd y teledu a byd adloniant yn ffynnu wrth i ddiwydiant ffaelu. Daeth S4C 芒 hyder ac asbri newydd i'r Gymraeg.
Rhoddodd y g芒n bop rythmau newydd yng ngwaed yr hen awdl draddodiadol hyd yn oed. 'Roedd awdl fuddugol Meirion MacIntyre Huws, 'Gwawr', Eisteddfod Llanelwedd, 1993, yn s么n am y dadeni pop a roc.
Ond mae'r ganrif yn dirwyn i ben, canrif gythryblus, gyffrous. Canrif o ladd ond canrif o lwyddiant; canrif o godi gobeithion, chwalu gobeithion, ac ailgodi gobeithion; canrif y difa a chanrif y dyfeisio, canrif diraddio a diurddo dyn a chanrif lliniaru cyni a lleddfu tlodi. Baglodd gwareiddiad gam ymlaen.
Amser
yw Amser
|
|