Mam Fach
Mae John Stevenson yn gyfaill annwyl i mi ac wedi bod ers chwarter canrif. Mae e ymhlith y bobol fwyaf deallus dwi'n nabod. Diolch byth mae fe ac nid fi sy'n gorfod ceisio esbonio troeon trwstan gwleidyddiaeth Ynys Môn i'r genedl!
Mae sgandalau Cyngor Môn wedi bod yn rhan gyson o fywyd gwleidyddol Cymru ers degawdau bellach ac i'r rheiny sydd ddim yn byw ar yr ynys maen nhw bron yn annealladwy!
Yn gyntaf mae'n rhaid ceisio dilyn y caleidosgop o bleidiau a grwpiau ar y cyngor grwpiau gydag enwau fel "Môn i fyny yma" a "Mam Ymlaen" neu rywbeth felly ynghyd ac aelodau annibynnol swyddogol, aelodau annibynnol annibynnol ayb. Ydy hynny'n rhan o'r broblem efallai? Hynny yw pan mae cynghorwyr Môn yn cael eu hethol does dim modd i'r etholwyr wybod pa grwpiau fydd yn cael eu ffurfio ar ôl yr etholiad na phwy fydd yn llywodraethu. Y cyfan y gall yr etholwr wneud felly yw cynnig pleidlais o hyder neu ddiffyg hyder yn yr aelod lleol fel unigolyn yn hytrach na dylanwadu ar gyfeiriad a pholisïau'r cyngor yn ei gyfanrwydd.
Yn y tymor hir gallai'r sefyllfa debyg pery problemau yn etholiadau cynulliad. Mae hi'n ofnadwy o anodd i unrhyw un blaid ennill mwyafrif yn y cynulliad gyda thrigain aelod etholedig. Os ydy'r nifer yn cynyddu i wythdeg fe fydd hi'n gwbwl amhosib hyd yn oed i Lafur. Am resymau digon anrhydeddus a dealladwy dyw'r pleidiau ddim yn fodlon trafod clymbleidiau posib yn ystod ymgyrch etholiad -ond ydy hynny'n deg a'r etholwyr?
Cymerwch esiampl. Meddyliwch am gefnogwr Llafur yn y cymoedd lle nad oes gobaith cath i Lafur ennill sedd restr. Gallai'r cefnogwr hwnnw fel ffan O "Gymru'n Un" ystyried rhoi ei ail bleidlais i Blaid Cymru. Ond a fyddai'n gall i wneud hynny heb wybod os oedd Plaid Cymru'n yn llygadu'r enfys neu Llafur yn dymuno closio at y Democratiaid Rhyddfrydol?
Does gen i ddim ateb i'r broblem. Dwi ond yn gobeithio nad yw firws Llangefni yn ein haentio!