Mae 'na ddigon o lefydd eraill i chi ddarllen pigion o ymateb y Comisiwn Etholiadol i cwestiwn arfaethedig y refferendwm datganoli nesaf. Yn wir, gallwch ddarllen y cyfan yn .
Dyma'r fersiwn Cymraeg o argymelliad y Comisiwn.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd
Mae gan y Cynulliad y pwerau i lunio deddfau mewn 20 maes pwnc, megis:
* amaethyddiaeth * yr amgylchedd * tai * addysg * iechyd * llywodraeth leol
Mae'r Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar rai materion ym mhob maes pwnc ond nid ar faterion eraill. Er mwyn llunio deddfau ar unrhywun o'r materion eraill hyn, mae'n rhaid i'r Cynulliad ofyn am gytundeb Senedd y DU. Yna, mae Senedd y DU yn penderfynu bob tro a gaiff y Cynulliad lunio'r deddfau hyn neu beidio.
Ni all y Cynulliad lunio deddfau mewn meysydd pwnc fel amddiffyn, trethi neu fudd-daliadau lles, beth bynnag fo canlyniad y bleidlais hon.
Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'ydw'
Bydd y Cynulliad yn gallu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt, heb orfod cael cytundeb Senedd y DU.
Os bydd y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio 'nac ydw'
Bydd yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn parhau.
Cwestiwn
A ydych yn dymuno i'r Cynulliad allu llunio deddfau ar bob mater yn yr 20 maes pwnc y mae ganddo bwerau ynddynt?
Mae 'na rywbeth rhyfedd braidd ynghylch y cwestiwn yma.
Er bod y Comisiwn wedi cymryd gofal i asesu argymhellion Swyddfa Cymru yn y Gymraeg a'r Saesneg ar wahân i'w gilydd gan dynnu sylw at wahanol wendidau yn y ddwy iaith mae'n ymddangos i mi bod cwestiwn Cymraeg y Comisiwn ei hun yn gyfieithiad slafaidd iawn o'r un Saesneg.
Sut arall mae esbonio'r defnydd o'r term "maes pwnc" i olygu "subject area"? Nid bod y term yn anghywir hyd y gwn i ond rwy'n herio unrhyw un i ganfod enghraifft lle mae'r term hwnnw wedi ei gynnwys mewn darn o Gymraeg nad oedd yn gyfieithiad o'r Saesneg.
Yn ei gwaith ymchwil i fersiwn Swyddfa Cymru o'r cwestiwn mae'r Comisiwn yn nodi bod Cymry Cymraeg yn cael trafferth i ddeall "fesul pwnc". Os oedd hynny'n anodd i bobol sut ar y ddaear mae disgwyl iddyn nhw ddeall "maes pwnc" - term sydd yn llawer mwy artiffisial a chlogyrnaidd?
Beth ar y ddaear sy'n bod ar ddefnyddio "maes"? Mae'r ystyr yn gwbl eglur.
Yn yr un modd mae'r term "UK Parliament" yn cael ei gyfieithu fel "Senedd y DU". Efallai bod hynny'n gywir, ond dyw priflythrennau ddim yn cael eu defnyddio yn yr un ffordd yn Gymraeg a Saesneg. Mae'r term "the UK" yn cael ei ddefnyddio ar lafar yn aml yn Saesneg. Oes unrhyw un erioed wedi galw'r Deyrnas Unedig (neu gyfunol) yn " y DU" yn Gymraeg?
Nawr y peth olaf ydw i yw pedant iaith. Rwy'n rhy gyfarwydd â'n ffaeleddau a cham-deipio fy hun i ddisgyn i'r pydew arbennig yna! Ar y llaw arall ar ôl deg wythnos a llwyth o bres oni ddylai'r Comisiwn allu llunio cwestiwn yr un mor hawdd ei ddeall yn Gymraeg a'r un Saesneg?