|
|
Mewnfydwyr
Tybiai cefnogwyr Datganoli mai un rheswm am y bleidlais nacaol oedd y mewnlifiad i Gymru o rannau eraill o Brydain. 'Roedd tai haf yn broblem, nid yn unig am eu bod yn amddifadu'r Cymry eu hunain o gartrefi ac yn lladd cymdeithas cefn-gwlad yn y gaeaf, ond am eu bod yn gwahodd estroniaid i ymgartrefu yng Nghymru yn y pen draw. Rhwng 1981 a 1990 ymgartrefodd tua chwe chan mil o bobl yng Nghymru, y cyfan bron yn hanu o'r tu allan i'w ffiniau. Cododd mudiad newydd ym mlwyddyn y bleidlais nacaol, Meibion Glynd^wr, a dechreuwyd llosgi tai haf. 'Roedd dros saith mil a hanner o dai haf yng Ngwynedd pan gychwynnodd yr ymgyrch yn Rhagfyr 1979, a saith mil yn Nyfed, cadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg. Yng Nghwm Rhymni ym 1990, ceisiodd Iwan Llwyd, yn ei gasgliad o gerddi 'Gwreichion', ganu'r genedl yn 么l i'w bodolaeth.
Mae Iwan Llwyd yn dweud yn y gerdd 'Mawrth 1979: Angladd' fod angen cenedl newydd arnom ar 么l claddu'r hen genedl yng nghynhebrwng y cynllun Datganoli. Rhys Gethin, ffugenw arweinydd Meibion Glynd^wr, oedd plentyn cyntafanedig y Gymru newydd.
Os na fyddai'r sefyllfa yn gwella, 'fyddai gan Gymru na'i senedd na'i sianel na'i heisteddfod ei hun, a 'fyddai dim tir ganddi o dan ei thraed. 'Roedd y Brifwyl mewn perygl enbyd o ddod i ben yng nghanol gwasgfa economaidd y saithdegau a'r wythdegau cynnar. 'Roedd rhai am ei hangori mewn un lle, fel llong flinedig wedi cyrraedd pen ei thaith. Gyda'r coffrau eisteddfodol yn wag, 'roedd rhai o garedigion pennaf yr ^Wyl ar drothwy'r wythdegau am roi cartref sefydlog i'r Eisteddfod, ac eraill am ei chadw yn ^wyl symudol. Daeth tro ar fyd ar ddechrau'r wythdegau pan
ddiogelwyd dyfodol yr Eisteddfod gan grantiau mawr o'r swyddfa Gymreig, y Gymuned Ewropeaidd, a nawdd gan ddiwydiannau. 'Roedd un frwydr fechan wedi ei hennill, am y tro.
S4C...
|
|
|
S4C
'Roedd brwydr arall ar fin cael ei hennill hefyd, brwydr fwy o lawer.
Cymerodd llawer o Gymry ran yn yr ymgyrch o blaid y bedwaredd sianel, ond un g^wr a fu'n gyfrifol, yn y pen draw, am gael sianel i Gymru. Ar yr unfed ar ddeg o Fedi, dan bwysau bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio, ildiodd y Llywodraeth, ac addawodd y c芒i Cymru ei sianel ei hun.
Bellach, gallai Cymru edrych arni hi ei hun ac ar y byd mawr drwy ei ffenest ei hun. Lawnsiwyd Sianel Pedwar Cymru ar y cyntaf o Dachwedd, 1982. 'Roedd yr iaith bellach yn rhan o'r chwyldro technolegol newydd, a'r sianel yn galw am amrywiaeth eang o raglenni gwahanol.
Llais
Merch...
|
|