Cyhoeddwyd nofel newydd Caryl Lewis, Martha Jac a Sianco ar y 5ed o Dachwedd. Cafwyd lansiad i'w chofio y noson honno ar fws dybl-decar! Llwyddodd y gyrrwr bws fynd 芒 chriw hapus ar hyd y ffordd gul i Bryngwyn Canol (ger Rhydypennau) ac yno, ar yr aelwyd yr oedd Caryl wedi trefnu i dri actor o Ddyffryn Aeron i bortreadu'r cymeriadau Martha, Jac a Sianco. Diolch i Mrs. Buddug James Jones am ei chroeso ac am ganiatau i droi'r gegin yn theatr am y noson. Pwy ond Caryl allai drefnu'r fath beth! Aeth y bws ymlaen wedyn i Llanfihangel-y-Creuddyn i dafarn y Farmers i wylio t芒n gwyllt a gwrando ar ddarlleniadau gan Caryl a Arwel Jones, oedd hefyd yn lansio ei gyfrol yntau Jambo Caribw ar yr un noson. Martha, Jac a Sianco yw ail nofel Caryl, sy'n awr yn byw yng Ngoginan ond a fagwyd yn Aberaeron ac yn Ffosdwn, Dihewyd. Mae them芒u'r nofel hon a'r cymeriadau mor wahanol i'w nofel gyntaf Dal Hi! ag y gallai dwy nofel fod. Hanes teulu'r Graig-ddu a gawn yn hon a hen ferch a dau hen lanc yw'r prif gymeriadau. Down i'w hadnabod wrth iddyn' nhw gydweithio, a chweryla a rhegi ei gilydd wrth wneud gwaith y fferm. Nofel dywyll, sy'n defnyddio brain a hyd yn oed piano fel symbolau wrth ymdrin 芒 them芒u cyfoes. Mae Caryl yn gallu creu stori dda ac mae'r nofel yr un mor ddarllenadwy 芒'i nofel gyntaf. Disgrifiodd Wil Sam hi fel "Nofel eithriadol o bwerus sy'n swyno ambell dro ac yn dychryn dro arall."
|