Ar fore Sadwrn olaf mis Mawrth daeth tri-deg-a-thri o aelodau Cymdeithas Edward Llwyd at ei gilydd ger Capel Troed-y-rhiw, Cribyn i gyd-gerdded o dan arweinyddiaeth Quentin a Mary Neal.
Roeddem yn ffodus i gael Euros Lewis i roi hanes y Capel cyn cychwyn y daith. Yn y Capel soniodd am oblygiadau'r geiriau `cymdeithas' ac `eglwys' a chyfeiriodd at gefndir y Capel ei hun a'i waith ef. Roedd y sgwrs fer wedi ein hysbrydoli a braf oedd cael camu allan i'r haul, oedd yn fendithiol i'r corff a'r enaid. Wedi wythnos o law eithaf trwm roedd yn fendith cael diwrnod sych, heulog a chynnes.
Oherwydd i'r gaeaf fod yn hir a chaled, nid oedd llawer o arwyddion y gwanwyn i'w weld ar wahan i ryw ychydig o lesni yma ac acw, felly pleser pur oedd gweld pedair gwennol yn hedfan o gwmpas fferm Moiddyn Fawr.
Yno cawsom ganiatad i gerdded i gastell, neu fryngaer Moiddyn a chael gweld golygfeydd ysblennydd dros Geredigion a rhannau o Sir Gaerfyrddin.
Cawsom hanes y bryngaerau gan Quentin, a disgrifiad o sut fywyd fyddai yno tua 400c.c. Siaradodd Dai Llewelyn ac Ieuan Roberts am Gantref Moiddyn oedd yn sylfaenol ar y fryngaer ac yn cwmpasu ardal eang oedd yn ymestyn cyn belled a Chwmtudu, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul.
Cerddom heibio Moiddyn Fach i lawr i bont afon Grannell ac yno troi ar hyd y llwybr i mewn i Alit Penlan-noeth i fivyta ein cinio ar lan yr afon, mewn llecyn prydferth yn yr haul a'r afon yn canu yn y cwm.
Cawsom atgofion melys o Ysgol Gorsgoch wrth gerdded heibio gan y gyn-brifathrawes, Beryl Llewelyn, cerdded ymlaen trwy bentref Gorsgoch a s么n am ei gysylltiadau a'r diwydiant gwneud hetiau a chloddio mawn or gors ar gyfer tanwydd yn y dyddiau a fu.
Pasiwyd rhai ffermydd eraill - Clyn Du, Glwydwern a Llechwedd-dderi gan gerdded drwy gaeau sych a rhai mannau gwlyb, ymlaen heibio Fronfelen ac yn 么 i Gapel Troed-y-rhiw a thri-ar-ddeg o gerddwyr braidd yn flinedig, and hynod o ddiolchgar o fod wedi medru mwynhau'r ardal o'n cwmpas ar ddiwrnod braf o Wanwyn cynnar.
|