Adolygiad 'Y Gemydd'Wedi llwyddiant ei nofel ddiwethaf, Martha Jac a Sianco, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2005, mae Caryl wedi gosod y bar yn uchel iawn iddi hi ei hun ar gyfer ei thrydedd nofel, Y Gemydd. Stori yw hi am gymeriadau brith sy'n byw ar gyrion cymdeithas, a'r prif gymeriad Mair sy'n crafu byw wrth drin a gwerthu gemau a chlirio tai, nes y daw un em i drawsnewid ei bywyd yn llwyr.
Meddai golygydd y nofel, Alun Jones o'r Lolfa:
"Mae hon yn nofel sy'n llawn symboliaeth, sy'n gweithio ar sawl lefel ac yn rymus dros ben. Mae gan Caryl ddawn arbennig wrth greu cymeriadau dwys, diddorol a'i gosod o fewn lleoliad credadwy.
"Ochr yn ochr 芒'i dawn dweud, mae'r defnydd o dafodiaith Ceredigion a'r holl waith ymchwil sy'n mynd i mewn i'w gwaith yn cynnig nofel aeddfed, grefftus i unrhyw ddarllenwr ei mwynhau."
Meddai Caryl:
"Mae gan y pethau 'ma eu bywydau eu hun, 'yn does e? Roeddwn i'n hapus iawn fod rhai pobi wedi mwynhau Martha Jac a Sianco wrth gwrs, ond mae'r nofel yma'n gofyn gofyn llawer iawn mwy oddi wrth y darllenydd. Tydi hi ddim mor hawdd i'w deall, gan nad ydw i'n rhoi cymaint o wybodaeth am Mair ar ddechrau'r nofel. Bydd yn rhaid i'r darllenwyr felly ddarllen cyfran helaeth o'r nofel cyn sylweddoli beth sy'n mynd i ddigwydd i Mair a beth sydd wedi digwydd iddi.
"Dyw Y Gemydd ddim yn nofel i'w darllen yn gyflym, ddim yn llyfr i ruthro trwyddo. Cyfrol yw hi i'w darllen yn eich pwysau bron, er mwyn i'r cymeriadau ddweud wrth y darllenydd pryd maen nhw wedi gorffen 'da nhw "
Y Gemydd
Y Lolfa
拢7.95