Gwawriodd bore yr ail ddydd Mawrth o Awst yn braf, ac roedd y to h欧n o fewn y pentref yn brydlon yn cwrdd 芒'r bws a oedd i'w cludo ar eu gwibdaith blynyddol. Taith ddirgel oedd hon wedi ei pharatoi yn ofalus gan Wyndham a Ronald. Ar 么l setlo ar y bws profwyd yr hwyl arferol wrth i'r teithwyr ddyfalu lleoliad pen y daith. Er mawr holi a chwestiynu cyfrwys, ni wnaeth y trefnwyr ddatgelu dim o'r cyfrinachau, a rhaid oedd bodloni ar eistedd yn 么l a mwynhau'r siwrnai. Cyrhaeddwyd Caerfyrddin mewn da bryd i fwynhau cwpanaid o goffi, ac roedd ychydig o amser yn sb芒r i'r menywod gael sbecian o amgylch un neu ddwy o'r siopau, gan adael y dynion i fynd eu ffordd eu hunain. Ymlaen wedyn i'r lle bwyta yn 'Red Roses', ble roedd cinio bendigedig yn ein haros. Gyda'u boliau yn llawn aeth pawb ymlaen ar y daith gan ymweld 芒 Doc Penfro ac Aberdaugleddau. Treuliwyd peth amser yn y ddau le gan fwynhau'r golygfeydd bendigedig. Erbyn hyn roedd yn amser te a throdd trwyn y bws i fewn i Westy Nant-y-Ffin. Derbyniwyd croeso twymgalon, gan y perchennog 芒'i staff. Roedd yn bleser gweld y wledd o ddanteithion a baratowyd ar ein cyfer. Gan ddilyn traddodiad Cribyn o orffen y diwrnod gyda sesiwn o ganu, eleni gwnaethpwyd hyn i gyfeiliant nid un ond i ddau biano!! Teithiwyd adref gyda'r hwyrnos dros fynyddoedd hynafol y Preselau. Barn gyffredinol y criw oedd bod y diwrnod wedi bod yn un pleserus iawn. Diolch i Wyndham, Ronald a Delyth am edrych ar ein holau yn ystod y dydd ac i Bwyllgor Yr Henoed am ofalu eleni eto bod yna drip yn rhad ac am ddim i ni ac yn cynnwys dau bryd da o fwyd.
|