Er na chafwyd llwyddiant ysgubol, bu'n rali i'w chofio i nifer o'n haelodau.
Bu dwy o 'faster chefs' ifancaf y clwb, sef Rhian a Fiona, yn coginio pryd iachus i blant ysgol - braf oedd eu gwylio fore'r rali wrth iddynt gystadlu, a gweld dwy w锚n lydan ar draws wynebau'r ddwy wrth iddynt fwynhau'r profiad.
Yn trefnu arddangosfa o flodau oedd Gwenllian - roedd ei gwaith yn wledd i'r llygaid, tra bu Eifiona'n creu bwrdd du ar gyfer plentyn a oedd yn seiliedig ar y thema '5 y dydd'.
Cipiwyd y wobr gyntaf gan Lisa, Carwen, Dai ac Aled gyda'r fersiwn o'r gan "Flying the Flag" (Scooch) yng nghystadleuaeth y Seren W卯b, ac yn goron ar hynny, chael cyfle i gynrychioli'r Sir yn y Sioe Frenhinol!
Bu yna domato (Eirian), moron (Elfed), banana (Mair) a gwrawnwin (Alwen) yn rhedeg o amgylch caeau Gafryw, a hynny er mwyn cwblhau'r cwrs "It's a Knockout". Chwarae teg i'r pedwar, roedd hi'n dipyn o gamp cerdded yn y gwisgoedd 'ma, heb s么n am neidio i mewn i bwll o dd诺r ac ati!!
Bu Mark a Rhian yn brysur yn addurno wellingtons a dynwared yr arweinydd wrth gymryd rhan mewn ymarfer yoga, (rwy'n si诺r fod y gystadleuaeth hon werth eu gweld!), tra bu Eirwyn a Jonathan yn cneifio, Sian a Mererid yn paratoi smoothie iachus gydag Alwen, Carwen, Irfon a Sian wrth yr ystafell. Bu pedwar o'n haelodau hefyd yn cystadlu ar y barnu lilmosins ddydd Mercher cyn y rali, sef Eilir, Irfon a Rhys (a ddaeth yn 3ydd).
Eleni cystadlom yng nghystadleuaeth newydd sbon, sef creu arwydd i hysbysebu'r rali - cawsom lawer o hwyl wrth gynllunio a chreu'r arwydd, a daeth llwyddiant ar ein rhan wrth i ni ddod yn 3ydd. Wedi'r holl gystadlu brwd, rhaid oedd ymlacio a chymdeithasu ymysg aelodau eraill y Sir yn nawns y rali!
Yn fuan wedyn y dilynodd y Sioe Frenhinol, a chredwch chi fi, roedd hi'n dipyn o gamp i ennill y gystadleuaeth Seren W卯b, ond roedd hi'n fwy o gamp i geisio trefnu ymarferion cyn y Sioe Frenhinol, gan fod y tywydd sych yn golygu bwrw at y silwair!!
Er gwaethaf hyn oll, fe llwyddom i gipio'r 5ed wobr gyda dros fil o bobl yn y dorf yn ein cymeradwyo! Profiad bythgofiadwy! Aelodau'r gr诺p oedd Aled, Emyr, Carwen a Lisa.
Daeth llwyddiant pellach ar ran y clwb, wrth i Carwen, Eirian, Alwen a Rhys sicrhau fod y clwb yn dod yn y 3ydd safle yng nghystadleuaeth Hyrwyddo'r Clwb, wedi diwrnod llawn o gystadlu rhwng y cyflwyniad, paratoi'r byrddau arddangos, yn ogystal 芒'r cyfweliad.
Bu'r Sioe Frenhinol yn ddigwyddiad pwysig iawn eleni felly yn hanes y clwb. Diolch i'r holl rai a fu yn ein cynorthwyo ym mha bynnag fodd, yn arbennig i Gerallt Perthneuadd a Mattie, ac i Wyn Plas am sicrhau fod yr ystafell a'r offer i gyd yn cyrraedd y Rali yn Gafryw a'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd mewn un darn!
Ac o'r Sioe Frenhinol i Sioe Llambed- bu tri o'n haelodau'n cystadlu ar y barnu stoc, sef Eilir, Rhys ac Irfon, gan gipio'r drydydd wobr, tra bu Carwen, Alwen a Carys (un o'n harweinyddion) yn stiwardio ar stondin C.FF.I.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Eirian, Carwen a Carys wedi bod yn brysur yn creu cynllun busnes a fydd yn ychwanegu 拢250 i goffrau'r clwb, lle bydd yn rhaid i ni wneud cyflwyniad a chreu cardiau cyfarch i'w gwerthu yn y gymuned. Pob lwc i chi yn y gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal yn fuan!
Gyda blwyddyn gron yng nghalendr y clwb wedi dirwyn i ben, a fy nghyfnod innau fel Cadeirydd y clwb yn dod i derfyn, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'n llywydd, Mattie, ein harweinyddion, Gerallt, Carys, Elgan, Owen a Ceredig, ac i'r rhai hynny a fu yn ein hyfforddi, cynorthwyo yn mha bynnag fodd ac yn ein cefnogi drwy gydol y flwyddyn. Edrychwn ymlaen at flwyddyn arall lewyrchus yn hanes y clwb.
gan Carwen Williams, Cadeirydd y Clwb
Mwy am y Ffermwyr Ifanc
Sioe Frenhinol Llanelwedd
Dathliadau'r Mudiad yn 70
Canlyniadau a lluniau o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2006 yn Bont