Pan gyhoeddwyd y byddai angen i Bwyllgor Ward Llansantffraed godi 拢10,000 at Eisteddfod yr Urdd 2010, roedd llawer o'r farn mai talcen caled fyddai cyrraedd y fath nod.
O ystyried y dirwasgiad a'r ffaith bod y sir hefyd yn codi arian at y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, teimlwyd y gallai'r targed fod braidd yn uchelgeisiol a thu hwnt i gyrraedd trigolion yr ardal. Yn y pen draw, doedd dim angen poeni. Mewn cwta 15 mis llwyddwyd i gasglu dros ddeg mil o bunnau gan roi Llanerchaeron a Cheredigion ar y map.
Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliwyd amrywiaeth eang
o weithgareddau er mwyn codi arian. Ymhlith y prif ddigwyddiadau oedd diwrnod hwyl a rasys yn Aberaeron, cystadleuaeth golff yng Nghlwb y Cilgwyn a chyngerdd arbennig yng Nghapel M.C. Llan-non.
Uchafbwynt yr ymgyrch oedd rhyddhau cryno-ddisg Lleisiau Llansantffraed a oedd yn cynnwys caneuon a chyfraniadau gan dalentau lleol. Rhoddwyd sylw i'r CD yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol ac yn sgil hynny tynnwyd sylw at yr Eisteddfod yn Nyffryn Aeron.
Yn ogystal 芒 hyn, cafwyd cyfraniadau hael gan nifer o unigolion a sefydliadau lleol. Diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch a phob dymuniad da i bawb a fydd yn cystadlu yn Llanerchaeron.
|