Daeth y plant, staff, rhieni a ffrindiau'r ysgol ynghyd ar brynhawn dydd Llun, Ebrill 14eg, i groesawu Me Pamola Mosothoane i'r ysgol. Roedd M茅 Mosothoane ar ymweliad ag Ysgol Llannon fel rhan o gynllun cyfnewid athrawon Cymru a Lesotho a drefnir gan Ddolen Cymru Lesotho.
Yn ystod ei harosiad, bu ar wibdeithiau i Aberystwyth, Llyn y Fan, Cronlyn Wysg a Chastell y Bere, ac yn fwy lleol bu i Aberaeron a Chei Newydd. Gan nad oes arfordir i wlad Lesotho, roedd gweld y mor yn brofiad pleserus iawn.
Ar y dydd Llun, bu holl blant yr ysgol dan arweiniad tim brwdfrydig o rieni yn coginio danteithion ar gyfer t锚 prynhawn yn yr ysgol. A dweud y gwir, ychydig o gyfle gafodd y rhieni i arwain gan fod y plant yn gysurus iawn yn eu r么lau fel cogyddion a chogyddesau. Cyn blasu'r bwydydd amrwyiol perfformiodd y plant gyngerdd byr ac yna mwynheuodd pawb y cyfle i sgwrsio dros baned a chavennau.
Teithiodd gr诺p o blant I'r Ardd Fotaneg I wneud cyflwyniad I'r athrawon oedd yn ymweld ag ysgolion yng Ngheredigion, sir G芒r a sir Benfro. Mwynheuodd y plant fod yn rhan o brynhawn pan gyflwynodd plant o ysgolion partner yn y dair sir gyflwyniadau canmoladwy i'r athrawon ar ymweliad 芒 Chymru.
Fel rhan o'r cyflwyniadau bu plant Ysgol Llannon yn darllen cerddi am yr hyn maent wedi ei ddysgu wrth fod yn rhan o'r cysylltiad 芒 Lesotho. Yna buont yn cyfarch yr athrawon yn eu hiaith eu hun sef Sesotho. Cawsant ymateb da iawn gan yr ymwelwyr am eu cyflwyniadau.
Bu M茅 Mosothoane i fferm Di-goed gyda rhai o'r rhieni a'r plant ar ddiwedd un prynhawn a chael cyfle i gynorthwyo gyda bwydo'r wyn swci.
|