Bron gant a hanner o flynyddoedd yn 么l fe gafwyd teimlad cryf yn yr ardal hon i godi ysgoldy er cael Ysgol Sul a chyfarfodydd crefyddol eraill. Penderfynwyd adeiladu un ar odre bryn bychan rhwng afonydd Arth ac Aeron rhyw ddwy filltir a hanner o bentref hynafol Aberarth Ceredigion. Rhoddwyd darn o dir yn rhad gan deulu Benlan Isaf yn y flwyddyn 1834, ac ar odre'r bryn fe'i adeiladwyd, ac fe'i gaiwyd Tan-y-Bryn, gosodwyd yr ysgoldy o dan nawdd Capel Aberarth a'r Hybarch Thomas Evans.
Ysgol Sul ragorol, a phregeth o Aberarth am ddau, a ysgol ddyddiol amser hynny a'r Parch. Evan Jones, Tanerdy yn ei chynnal, roedd dysgu'r Beibl mewn bri, ac Ysgol Sul Tan-y-Bryn a'r d芒n. Yna daeth awyddfryd gref i adeiladu Ty yn fwy. Oedfaon ar y Sul yn cael eu cynnal yn Brynpeithyll dros dro. Agor y Ty newydd ar ddydd Sul yn 1864 gan yr Hybarch J. Jones Blaenannerch yntau mewn hwyliau mawr. Y Ty yn orlawn, o Undodiaid, Westleyaid, Annibyn yr, Methodistiaid ac Eglwyswyr wedi dod o Ffos y ffin, Neuaddlwyd, Pennant, Aberaeron ac Aberarth.
Taith Sabathol o Aberaeron erbyn hyn gan y Parch. John Thickens, dau ddydd Sul y mis yn rhad, yr oedd ganddo ddiddordeb mawr yn y Capel bach diarffordd. Y blaenoriaid cyntaf oedd Thomas Davies, Brynpeithyll, Jenkin Lewis, Felin Cwm, James James, Llain a David James. Penralltwen. Bu blaenoriaid Aberaeron yn gefnogol iawn, deuent bob yn ail i gadw Seiat unwaith bob bythefnos. Evans Tanner, Benjamin Evans, John Hugh Jones, (hynaf), William Rees a Griffith y Drygust. 32 o aelodau ond hanner cant o wrandawyr.
Yr arweinydd canu cyntaf oedd James Davies, Brynpeithyll Fach Neuaddlwyd - amheuthun oedd ei glywed yn arwain, yn enwedig pan genid y Delyn Aur a Nashville, roedd ei ferch Anne yn gantores ragorol. Canu anthem mewn Cymanfa Bwnc gan ysgol Tan y Bryn, Morgan ei brawd yng ngh么r Caradog yn Crystal Palace. John Williams un o h芒d yr Eglwys a ddaeth yn arweinydd wedyn. Codwyd yma ddau bregethwr - Mri. J. P. Lewis Pencwm a S. E. Davies a fu wedyn yn ysgolfeistri - J. P. Lewis yn Aberarth a S. E. Davies yn Dihewyd.
Cynhaliwyd darlithiau ac Eisteddfodau yma, ac elw eisteddfod 1926 yn 拢5.3.0.. Cafwyd organ yn anrheg gan un o blant y Capel, sef Liza Davies, Llundain. Bu Lizzie a Mary Ann Davies, Cefnwig, Mary Jones, Tyglyn a'i brawd, Gillian Worsforld a Iona Ann Jones o Aberarth, Delyth Davies, Llety Shon a Marie Jones Ty Capel yn organyddion. Y Gweinidogion oedd y Parch. Myfyr Evans, Parch. H. Evans Thomas, Parch. D. J. Davies, Parch. Eben Ebenezer, Parch. George Howells a'r Parch. Griffith Jones a Benjamin Davies, Cefnwig yn flaenor tan ei farwolaeth yn 1960.
Cyrddau gweddi ddechrau'r flwyddyn a'r bobol yn goleuo eu llwybrau hefo lamp stabal, neu gannwyll mewn pot jam a'u chario a chordyn. Cynnal Band of Hope, a pharatoi erbyn y Gymanfa Bwnc. Diwrnod mawr y flwyddyn oedd y Cwrdd Diolchgarwch - gofalu bod dim arwerthiant fferm yn yr ardal, a bod y lleuad yn llawn, gwell byth os byddai yn naw nos olau. Pleser oedd gweld y plant a oedd wedi ymgartrefu mewn Eglwysi eraill yn dychwelyd. Daeth trydan yn 1963. Cwrdd Canmlwyddiant yn Awst 1964 a Daniel Owen Davies, Cefnwig yn cael ei dderbyn yn flaenor yr un flwyddyn. Ond, yn 1979 daeth tro ar fyd. Yng nghapel Tan y bryn cynhaliwyd gwasanaeth bythgofiadwy ar Sul, Rhagfyr y nawfed 1979. Dyma'r oedfa olaf yn hanes y Capel, dychwelodd nifer o'r plant oedd ar wasgar i'r achlysur megis adar i dan y bondo. Er y tristwch mawr roedd un agwedd o lawenydd, sef, derbyn dau o h芒d yr Eglwys, sef Meinir Lewis, Brynpeithyll a Eifion Owen Davies, Cefnwig yn gyflawn aelodau.
Roedd pymtheg mlynedd oddi ar achlysur o'r fath cyn hynny. Yr oedd y gwasanaeth yng ngofal y Parch. Griffith Jones. Rhoddodd y blaenor, sef D. O. Davies fraslun o'r achos am y lle o'r flwyddyn 1834. Siaradwyd ymhellach gan ysgrifennydd y cwrdd dosbarth Mr Tom Edwards, Pennant. Yna cyflwynodd Mr. E. R. Jenkins, Twr-gwyn, llywydd etholedig Henaduriaid De Aberteifi, y Seremoni o ddatgorffori'r Eglwys a munudau rhwyg galon ydoedd pan safodd y gynulleidfa mewn dwyster ac yntau yn cymeryd y Beibl oddiar y pulpud a'i gario allan, dilynwyd gan y Gweinidog, yna y gynulleidfa a'r blaenor yn cloi y drws. Daeth gwasanaeth y Capel i derfyn wedi 145 o flynyddoedd. Colled erchyll oedd hyn i r criw bach ffyddlon ac hefyd i'r ardal, oherwydd tra yr oedd y drws yn agored bob Sul i dderbyn pawb i fewn yr oedd hyn megis angor i'r gymdogaeth. Bellach mae'r gymdeithas felys wedi chwalu am byth, a phawb wedi mynd i'w ffordd ei hun.
Erthygl gan M. E. Davies
Cefnwig.