Roedd Theatr Felin-fach dan ei sang ar gyfer y gweithdai a gynhaliwyd o 2 hyd 4 o'r gloch a hefyd ar gyfer y gwasanaeth pawb ynghyd i ddiweddu'r prynhawn.
Dechreuwyd a neges fideo oddi with Hywel Teifi Edwards yn ein hannog ni oll i ddiolch i Dewi Sant am weithredu mor drwyadl a thanbaid yn ein patsiyn bach ni o'r byd.
'Mae hanes Dewi yn dangos i ni nad maint y llwyfan' meddai 'sy'n bwysig ond Beth y'n ni'n 'neud ar y llwyfan hwnnw.'
Rhannwyd pawb yn grwpiau wedyn gyda'r Parchg Enid Morgan yn arwain dosbarth Beiblaidd
Ar Actau 10 - pennod sy'n canolbwyntio ar berthnasedd efengyl newydd Crist i bawb
- yn ddiwahan.
Tra'r oedd Enid yn codi cwestiynau yn y theatr roedd Lyn Ebenezer yn ysgogi trafodaeth ac atgofion yn y Lolfa wrth s么n am farddoniaeth sy'n dathlu Dewi Sant - yn enwedig cerdd Gwenallt.
Ar yr un pryd roedd y Gwndwn yn orlawn o blant yn canu a dawnsio a gwneud dwli yng nghwmni Bili Bom-Bom, Meleri (Planed Plant gynt), Caryl Glyn a Dafydd Iwan.
Wedi dod ynghyd, arweiniwyd gwasanaeth o ddathlu dwys ond hwyliog a llawen dros ben gan y Parchg John Gwilym Jones ( yr Archdderwydd, gynt) y Parchg Enid Morgan a Dafydd Iwan.
Cafwyd canu ysbrydoledig dan arweiniad Heledd Williams, Derwen Gam cyn i'r Parchg Eileen Davies gyhoeddi'r fendith.
Yn ystod y dathlu hwn dadorchuddiwyd logo AT EIN GILYDD, GYDA'N GILYDD (sef yr enw a roddwyd ar y gr诺p a drefnodd y digwyddiad ar ran yr holl gapeli ac eglwysi).
Roedd plant o bob un o ysgolion cynradd y dyfffryn wedi cystadlu, ond Sion Jones (Ysgol Ciliau Parc) a chywaith Ysgol Dihewyd oedd y buddugwyr. Mi fydd y logo terfynol yn cael ei greu trwy gyfuno'r naill gynllun a'r llall. Llongyfarchiadau iddynt - bawb a fu'n cystadlu.
|