Ar ddydd Sul Rhagfyr 4ydd 2005 dathlwyd canrif a hanner o fodolaeth Capel Annibynwyr Llwyncelyn, 1855 - 2005. Cafwyd gwasanaeth y dathlu am 2.00 y.p. dan arweiniad y gweinidog, y Parchedig Ddr. Felix Aubel, gyda chyfraniadau gan blant yr Ysgol Sul a phobl ifanc y capel. 'Roedd y capel yn llawn gyda chefnogaeth gref iawn o eglwysi eraill yr ofalaeth, set, Neuaddlwyd, Peniel, Mydroilyn a Siloh.
Wedi gair o groeso gan y gweinidog a chanu'r emyn agoriadol a gyhoeddwyd gan Delme Davies, darllenodd Anwen James y Ganfed Salm a Carys Jones o Efengyl loan, Pennod 15. Cyhoeddwyd yr ail emyn ar ran eglwysi eraill yr ofalaeth gan Elizabeth Morgan, Neuaddlwyd. Gwedd茂odd y gweinidog a gwnaeth Anwen James, Delme Davies a Caryl Price y casgliad.
Yr eitem nesaf oedd cyfraniad plant yr Ysgol Sul i'r dathliadau. Cafwyd cyflwyniad rhagorol o hanes y capel gan y plant: er enghraifft soniwyd can mlynedd a hanner yn 么l fod tair oedfa pob Sul, Ysgol Sul i oedolion a phlant ac ar un adeg 'roedd dau ar bymtheg o athrawon Ysgol Sul yma, Cwrdd Gweddi ac Ysgol G芒n - a'r capel yn llawn. Cafwyd portread difyr gan y plant o esgusodion heddiw am beidio dod i'r capel! Rhoddwyd cymeradwyaeth arbennig i'r plant am eu gwaith rhagorol ac i athrawon yr Ysgol Sul am eu hyfforddiant ardderchog.
Yn dilyn y drydydd emyn a gyhoeddwyd gan Euryd Jones, traddododd y gweinidog, y Parchedig Ddr. Felix Aubel ei araith yn olrhain hanes cant a hanner o flynyddoedd yr achos yn Llwyncelyn. Soniodd am rai o'i ragflaenwyr fel y Parchedigion Ifan Jones, John Howell, Dafydd Rhys Thomas ac Edwin Pryce Jones. Ar ben hyn rhoddodd dipyn o hanes Morgan Evans o Dderwen Gam, un o gefnogwyr selocaf y capel am flynyddoedd lawer.
Tynnodd y gweinidog sylw i'r ymadawedig ffyddlon ymhlith y deaconiaid oedd wedi bod yn gymaint o gefn iddo, fel John Davies, Tom Evans a Miss Hannah Jones. Tynnodd sylw i'r ffaith fod Jean Davies a John Jenkins yn dathlu tri deg o flynyddoedd fel athrawon Ysgol Sul ym mis lonawr 2006. Diweddodd Dr. Aubel ei anerchiad trwy ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cyfeillgarwch ar hyd bron dair-mlynedd-ar-ddeg o flynyddoedd hapus iawn fel gweinidog capel Llwyncelyn.
Yn dilyn yr araith, darllenodd Enidwen Jones eiriau o farddoniaeth gan Iori Evans oedd wedi cael ei gyfansoddi ar gyfer achlysur y dathlu. I ddiweddi'r oedfa rhoddodd y gweinidog y diolchiadau, cyhoeddodd Eryl Rees yr emyn olaf a thraddododd y gweinidog y fendith.
Wedi'r oedfa yn y capel cynhaliwyd te'r dathlu yn y wedi'i baratoi gan wragedd y capel. Torrodd Leah Clifford Jones y gacen oedd wedi cael ei gwneud yn arbennig ar gyfer yr oedfaon dathlu. Siaradodd hi hefyd am ei phrofiadau cynnar o eglwy Annibynnol Llwyncelyn.
Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Fodern i ddathlu canrif a hanner o fodolaeth y capel am 7.30y.h. 'Roedd y capel yn llawn gyda chynrychiolwyr o bob un o eglwysi'r ofalaeth yn bresennol a chefnogaeth gref o'r pentref a'r ardaloedd cyfagos. Y cadeirydd oedd y gweinidog, arweinydd y g芒n oedd Tudor Thomas, yr artistiaid oedd C么r Cardi-g芒n o dan arweinyddiaeth Mrs. Heledd Williams, Ll欧s y Gan, aelod ffyddlon o'r capel ag sy'n gefn mawr ar bob achlysur. Y cyfeilyddion oedd Catrin Jones (allweddellau) Dylan Jones (drymiau), Lia Jones (git芒r f芒s), Dafydd Driver (git芒r) a Heledd Williams, (piano).
Arweiniodd Tudor Thomas gyda'i frwdfrydedd naturiol ac 'roedd yr artistiaid a'r cyfeilyddion yn benigamp. Llyviyddion y noson oedd David a Gwen Price, and oherwydd salwch siaradodd eu mab, Eryl Price mewn ffordd deimladwy iawn. Rhoddwyd y diolchiadau gan Elfed Howells, ble dymunodd yn dda i r gweinidog, y Parchg. Ddr. Felix Aubel yn ei ofalaeth newydd o eglwysi yng nghylch T'relech, Sir Gaerfyrddin. Dibennodd y noson gyda the i bawb yn festri'r capel.