Y Brotest Fawr Olaf
Bellach, gyda'r saithdegau yn tynnu i derfyn, daeth cyfnod y brotest fawr i derfyn hefyd. 'Roedd Rhyfel Fietnam wedi dod i ben, ac 'roedd hawliau sifil y duon yn America wedi gwella. Edrychodd prifardd Coron Caerdydd, Si么n Eirian, yn 么l yn hiraethus ar gyfnod y mudiad protest, dyddiau'r 'flower power'. Ond 'roedd y blodau wedi gwywo bellach a nifer o'r brwydrau mawr wedi eu hennill. Yng Nghymru, 'roedd brwydr pedwar ugain mlynedd ar fin cyrraedd uchafbwynt. Cynigiodd y Llywodraeth Lafur ryw gynllun ar hunan-lywodaeth i Gymru, pe bai deugain y cant o'r pleidleiswyr yn dymuno hynny. Cynhaliwyd y refferendwm ar Ddatganoli ar ddydd G^wyl Ddewi, 1979.
Ond trychineb oedd y canlyniad i'r datganolwyr. 'Roedd pedwar ymhob pump yn amharod i Gymru gymryd yr awenau i'w dwylo'i hun. Gwelodd un bardd ei gyfle i ddwyn sylw at y gwarth drwy ddefnyddio'r Eisteddfod fel llwyfan gwleidyddol unwaith eto. Anfonodd T. James Jones gyfres o gerddi ar y testun 'Siom' i gystadleuaeth y Goron, ac 'roedd y beirniaid yn unfryd mai cerddi Ianws oedd y cerddi gorau yn y gystadleuaeth.
'Roedd y ffugenw yn arwyddocaol. Ianws oedd Ionawr, duw dau-wyneb y Rhufeiniaid, ond Mawrth y ddwy Gymru ac Awst y ddau fardd oedd arwyddoc芒d y ffugenw yn Eisteddfod Caernarfon. Cywaith rhwng dau fardd oedd y cerddi buddugol, T. James Jones ei hun a Jon Dressel, bardd o Missouri, 'Doedd dim modd gwobrwyo cywaith. Meirion Evans, y bardd ail orau, a gafodd ei goroni,
ond chwilio am glust i'w brotest, nid am Goron i'w bryddest, 'roedd T. James Jones. Mae'r brotest a'r teimlad o ddadrith, siom a diflastod a deimlodd nifer fawr o Gymry yn cael ei gyfleu yn glir yn y gerdd 'Gwener' yn y dilyniant. Cerddi Ianws oedd protest fawr olaf y saithdegau.
Mawrth
y Gwrthod a'r gwerthu...
|
|
|