Fe ddaeth tua 60 o bobl o bod oedran ynghyd i festri Capel yr Alltwen am ddeg o'r gloch ar gyfer cychwyn tua un ar ddeg o'r gloch. O dan arweiniad y tywyswyr, Randal Williams, Nest Davies a Beti Jones, gyda'u hesboniadau diddorol ar hanes lleol, fe gawsom daith hwylus dros ben. Dyma hanes byr o'r daith eleni.Yn 么l ein harfer dilynwyd y llwybr heibio'r Butcher's Arms a Gwesty Pen-yr-Allt a throi i'r chwith i fyny Pen-y-Graig (Y Grofften), ac yna dros gopa Graig Alltwen trwy gwm bach lle rhed nant Gellinudd ac ymlaen tuag at yr hen felin, llwybrau Waun Coed ac i fyny i Eglwys Cil-y-bebyll. O Gil-y-bebyll dilynwyd yr heol i Rhos.
Eleni, am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn, gan fod y tywydd yn ffafriol, troesom i'r chwith gyferbyn 芒 Chanolfan Gymunedol Rhos, a dilyn y llwybr heibio'r parc, yr ail gae p锚l droed a lled un cae arall tuag at y g芒t yn y pellter.
Mynydd Marchywel
O'n blaen oedd mynydd mawreddog ac urddasol, Marchywel. Yr enw llawn arno yw 'March Howell'. Fe enwyd y mynydd ar 么l ceffyl a fu farw yno. Yn 么l y chwedl, yr oedd Howell, perchennog y ceffyl, yn un o ddynion y Brenin Arthur a phan bu farw ei geffyl ar gopa'r mynydd, fe gafwyd angladd parchus ac fe'i claddwyd o dan garnedd ar uchafbwynt y mynydd. Mae'r garn yn dal i fod yno hyd heddiw. Fe agorwyd y garn yma yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac fe ddaethant ar draws gweddillion llwch, esgyrn a golosg.
Mae'r chwedl hefyd yn s么n am ddarganfod cleddyf Rhufeinig lliw aur mewn lle cyfagos. Efallai taw hon yw'r gleddyf ffurf-deilen efydd a gyflwynwyd i Amgueddfa Abertawe gyda bwyell a soced ym 1838.
Wrth edrych ar yr olygfa hardd, roedd un yn cael naws o nodweddion yr ardal. O'n blaen oedd y chwarel ym Mryncoch pen draw i'r mynydd, hefyd ymdrechion cynnar i sefydlu pyllau glo, tomennydd sbwriel glo dau bwll glo llwyddiannus-, y Comisiwn Fforestydd ar y copa 芒 llechweddau uchel, porfa fynyddig i'r defaid a defnydd tir amaethyddol gan nifer o ffermydd teuluol ar y llechweddau isaf. Mae sawl cae gyda'u muriau o gerrig sych yn atgoffa un o olygfeydd tebyg yn Nyffrynnoedd Swydd Efrog.
Yn 么l yr hanes, sefydlwyd rhai o'r ffermydd yng Nghwm Clydach, sef - Blaen Nant, Pen y Bontbren, Hendre-ls, Pen Twyn, Cefncelfi, Llety Philip, T欧n-y-Cwm, Pentreharne a Lletysiac er mwyn i'r cynnyrch gael ei ddefnyddio i fwyda'r boblogaeth a oedd yn tyfu o amgylch Abaty Castell Nedd.
Fferm Cefncelfi
Wrth gerdded trwy dwnel o lwyni y ddraenen wen, mae'r llwybr yn troelli trwy fuarth fferm Cefncelfi, un o'r ffermydd mwyaf diddorol ac yn un o'r tai hynaf yn yr ardal. Fe'i hadeiladwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg ac y mae'r adeilad presennol yn debyg iawn i'w ffurf wreiddiol yn enwedig y grisiau caregog a chyntedd y tŷ^. Roedd y to ar osgo yno am flynyddoedd cyn adnewyddiadau addas. Mae'r ysgubor enfawr wedi ei adeiladu'n gelfydd ac yn werth ei gweld hefyd. Tybed a oes adeilad tebyg i'w gweld mewn unrhyw fan arall yn y plwyf?
Diddorol yw nodi hefyd, yn yr hen ddyddiau roedd caeau fferm Cefncelfi yn cael eu llogi dros nos i borthmyn. Byddai cannoedd o wartheg a defaid yn pori ac yn gorffwys dros nos, yng nghaeau'r fferm, cyn ail gychwyn ar eu taith o Sir Gaerfyrddin i'r marchnadoedd yn Lloegr.
Yn 么l Mrs Nest Davies, roedd ei chyndadau yn byw yn fferm Cefncelfi yn y tridegau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd pump o blant, un mab, y cyntaf anedig a phedair o ferched.
Gwaith Glo Primrose
Ym Mhenparc ar y chwith, mae tomen sbwriel gwaith glo, sef olion gwaith glo y Primrose. Yr oedd yn waith glo llwyddiannus iawn hyd nes y Streic Genedlaethol ym 1921. Oherwydd anghytundeb ffyrnig rhwng y gl枚wyr a oedd am weithio ac eraill a oedd am streicio, fe gaewyd y pwll glo ym 1926.
Fe gludwyd holl beiriannau y gwaith glo i Wembley a'u gosod mewn arddangosfa am sawl blwyddyn. Tu hwnt i'r domen sbwriel mae olion pwll d诺r mawr a oedd yn darparu d诺r i'r gweithfeydd glo lleol. Yn ystod gaeafau noethlwm, mawr oedd hwyl a sbri plant yr ardal wrth ei ddefnyddio fel lle sglefrio.
Ar y llaw dde, y tu 么l i Dafarn y Gof (Smiths Arms), mae gweunydd 芒 chaeau. Mae'r tir yma yn cael ei gydnabod fel hen gae rhyfela ac yn 么l yr hanes bu sawl brwydr yma yn y blynyddoedd a fu.
Ym mhendraw y cae roedd tair carreg dal yn sefyll. Gosodwyd y cerrig yma er cof am dri Chadfridog Cymreig a fu farw mewn brwydrau lleol. Mae'r hanesion yn mynd 芒 ni yn 么l i'r nawfed a'r ddegfed ganrif, er nad oedd yn glir ar y cerrig beth oedd enwau'r tri Chadfridog.
Yn 'Llyfr Du Caerfyrddin' a ysgrifennwyd tua diwedd y deuddegfed ganrif ceir casgliad o englynion a elwir 'Englynion y Beddau'. Mae un englyn yn s么n am y tri Chadfridog ac yn eu henwi, sef:
'Y tri bedd yng Nghefncelfi
Awen a'i dywed imi
Bedd Cynon garw ei ddwyael
Bedd Cynfael, bedd Cynfeli.'
Yn anffodus, yn y 1920au, yr oedd traddodiad lleol ar noswyl priodas. Byddai ieuenctid yr ardal yn tanio powdr gwn ar ben y cerrig. Bob tro roedd hyn yn digwydd, yn llai aeth y cerrig, roedd y cerrig yn cael niwed ac yn briwa. A oes rhywrai o blith darllenwyr 'Y Llais' yn cofio y traddodiad yma?
Wrth groesi yr heol fawr i lawr L么n y Briallu, fe ddaethom at yr hen draffordd a oedd yn cludo glo i Bontardawe. Mae'n bosibl i weld o hyd olion o ambell i rheilen wedi ei thaflu i'r naill ochr. Mae ambell i domen sbwriel glo m芒n wedi ei chuddio o dan lwyni a choed sydd hefyd yn arwydd o hen ffordd o fyw. Yn y dyddiau gynt, tŷ^ yr hen fferm ieir oedd swyddfa y rheilffordd a'r adeilad carreg cyfagos oedd yr hen d欧 pwyso. Ar hyd y dramffordd mae ambell i ffynnon lle roedd y pentrefwyr yn cymdeithasu 芒'i gilydd wrth gasglu d诺r 'slawer dydd.
Yna diwedd y daith, cyrraedd Heol y Parc ac yn 么l i'r festri. Unwaith eto, cawsom gawl blasus twym oedd wedi ei baratoi gan rai o'r chwiorydd diwyd sef, Nest Davies, Rhydwen James a Gwen Davies, gyda Eirwen Bowen, Janet Hopkin, Gwen Davies a Rhydwen James yn gweini wrth y bordydd.
Diolchwyd yn fawr iawn i bawb a fu'n ein harwain ac yn paratoi'r cawl a'r disgled. Roedd yn ddiwrnod pleserus iawn ac y mae pawb yn edrych ymlaen at yr un nesaf ym mhen blwyddyn o amser. Beth am ymuno gyda ni?
Gan: Heather Williams.