Ar brynhawn Sadwrn, Mai 2, roedd yna ddathliad arbennig ar Barc y Bryn, pan ddaeth aelodau o'r t卯m llwyddiannus a enillodd Pencampwriaeth Undeb Rygbi Gorllewin Cymru i Gwmllynfell n么l ar ddiwedd y tymor 1958-59. Capten y t卯m arbennig hwnnw oedd Royden Morgan, ac mae'n dal cysylltiad o hyd 芒'r clwb presennol, gan mai Royden yw Cadeirydd y clwb. Roedd y t卯m hwnnw n么l hanner canrif yn 么l wedi cyflawni camp arbennig, gan iddynt ennill y Bencampwriaeth dair gwaith mewn pedwar tymor - arbennig iawn.
Daeth rhyw 16 o'r garfan ynghyd ar Fai 2 i hel atgofion am y cyfnod mwyaf llewyrchus yn hanes Clwb Rygbi Cwmllynfell.
O ran y t卯m presennol sy'n chwarae yn yr Adran Gyntaf (Gorllewin), bu wythnosau ola'r tymor yn rhai pryderus a chyffrous a dweud y lleiaf. Gyda 6 g锚m cyn diwedd y tymor, roedd y t卯m yn gwynebu gostwng i'r Ail Adran. Ond roedd pedair o'r gemau i'w chwarae gartref ar Barc y Bryn, ac roedd cefnogwyr mwyaf teyrngar y clwb yn ffyddiog gan fod record dda ganddynt gartref, ac felly y bu. Yn ychwanegol, llwyddasant i faeddu Hen-Dy Gwyn (Whitland) ar eu tomen eu hunain, ac wrth drechu Corws, Maesteg, Llangennech ac Athletig Caerfyrddin gartref, sicrhawyd y byddai Cwmllynfell yn parhau yn yr Adran Gyntaf y tymor nesaf. Da iawn, fechgyn.
|