Ar fore heulog Ebrill 28 trefnwyd taith gerdded i Fryncarnau, Cilybebyll, lle dechreuwyd yr achos gan Lewis Richards yn 1757. Cynhaliwyd oedfa tu allan i glwydi'r ffarm gan ein gweinidog y Parchg. Gareth Morgan Jones a ddarllenodd adnoddau olaf yr ail bennod o lyfr yr Actau lle mae Luc yn disgrifio y gymdeithas yn yr Eglwys fore, yna offrymodd weddi ac hyd ganodd bawb yr emyn "Arglwydd Iesu dysg i'm gerdded."
Yna ar Ddydd Sul, Mai 6, cynhaliwyd yr Oedfa Ddathlu o dan lywyddiaeth y gweinidog, gyda chynulleidfa gref yn bresennol. Darllenwyd yr emynau gan Gwenan Davies, Rhys Davies, Mari a William Lanchbury a Steffan Pugh. Cafwyd darlleniad o Salm 122 gan Rhys Evans ac o Mathew 5 adnoddau 14 -16 gan Rhiannon Hammond. Offrymwyd gwedd茂au gan Margaret Flook, Beti Williams a Nest Davies.
Cawsom gyflwyniad hyfryd o hanes sefydlu a datblygiad yr achos gan ein bobol ifanc - Elin Davies, Rachel Davies, Branwen Hart, Annest Lewis, Elin Lloyd a Catrin Richards. Adroddwyd penillion am yr Ysgol Sul gan Louise a Rebbeca James.
Fel cais o'n hatgofion o'r diweddar D.J.Rees F.R.C.O. yn chwarae "Brenhines Sheba yn cyrraedd" chwaraewyd y darn hwn yn feistrolgar gan ein horganyddes Delyth Evans. Wedyn cafwyd s么n am ddylanwadau gan dair wedi eu magu yn yr Eglwys, Rhydwen James, Ysgrifenyddes weithgar yr Eglwys, Sharon Rees sy'n gweithio yn Eglwys Llanfair, Penrhys ac Angharad George yn cynrychioli y to ifanc ymroddgar- y dair yn siarad yn huawdl a didwyll am eu profiadau yn y Capel.
Yna, cafwyd cyfarchion gan y Cynghorydd Elwyn Jones, Maer Cyngor Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot; Mrs Gwenda Thomas, Aelod y Cynulliad, Rheithor Plwyf Cilybebyll y Parchg. Martin Perry, Cadeirydd Cyfundeb Gorllewin Morgannwg Miss Ann Williams a Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg y Parchg. Hywel Wyn Richards.
Roedd un o'r emynau wedi'i hysgrifennu yn arbennig ar gyfer yr oedfa gan Dafydd Wyn Jones, Aberteifi, mab y diweddar Parchg. Gwynedd Jones, un o gyn-weinidogion Danygraig, ac roedd englyn o'i waith hefyd ar glawr taflen yr oedfa, ar y mwg sy'n cael ei werthu am 拢5, ac ar bl芒t y dathlu sy'n 拢10.
Diolch i'r Parchg. Dr Vivian Jones, y Parchg. Gerwyn Jones a Mrs Pegi Charles, gweddw y Parchg. Alwyn Charles am eu hatgofion o'u cyfnod ar Yr Alltwen.
Yn dilyn yr oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu yn y festri o gylch bordydd ar dorri gan y lluniaeth a drefnwyd gan y Chwiorydd ifainc.
Diolch i Mrs Glenda Rowlands, Birmingham am wneud teisen ddathlu blasus deniadol a dorrwyd gan Mr Lindsay Williams, y diacon hynaf. Rhoddwyd y deisen gan Glenda a'i chwaer Mrs Marlyn Batters er cof am eu rhieni Glyn a Hannah Ann Davies, Ynysmeudwy. Magwyd eu tad yng Nghapel yr Alltwen.
Ar nos Iau, Mai 10, cynhaliwyd cyngerdd o dalentau lleol gyda phlant o Ysgol yr Alltwen ac Ysgol Gymraeg Pontardawe cantorion C么r Al, ac offerynwyr Band Pres Gwaun Cae Gurwen yn cymeryd rhan. Mawr bu'r canmoliaeth o'r plant a'r oedolion. Llywydd y noson oedd Mr Randal Williams.
Yn ystod pythefnos y dathlu bu arddangosfa wych yn y Capel yn portreadu hanes yr achos a phethau atodol, trwy hen luniau, dogfennau, rhaglenni, adroddiadau a llestri. Daeth nifer i weld yr arddangosfa o bell ac agos.
Derbyniwyd penillion hyfryd gan Gwilym Herber ar gyfer y dathlu ac mae dau o'r penillion ac emyn Dafydd Wyn Jones yn ymddangos ar y ddalen-nodyn sydd ar werth am 拢1.
Ar nos Fercher, Mai 16 cafwyd dathlu rymus a diddorol gan y Parchg. Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr yn s么n am yr amgylchiadau ym mywyd pobol yn amser Lewis Richards, Bryncarnau, sylfaenydd yr achos, am yr hinsawdd grefyddol bryd hynny ac am gynnwrf y Diwygiad Methodistaidd a'r her i ni yn awr yn y dathlu.
Diolch yn fawr i'r sawl a fu wrthi yn trefnu ac yn helpu yn y gwahanol weithgareddau maent yn rhy niferus i'w henwi, ac am y gefnogaeth a gafwyd i wneud y dathliad mor llwyddiannus.
Mae C.D. o Gymanfa Ganu Cwmtawe yng Nghapel yr Alltwen, Mai 24, `958 ar werth am 拢5.
Yma deuwn lle bu'r tadau
Wrthi'n paratoi eu taith
Ac fe gofiwn am y mamau
Diwyd yno gyda'r gwaith
A phen-blwydd yr Achos yma
Sydd yn haeddu'r' clod i gyd,
Am ein bod yn dal i elwa
Ar drysorau yr hen fyd.
Awn i gerdded yr hen lwybrau
Boed yn hindda, law neu wynt
Er mwyn gweled ym Mryncarnau
脭l y pererinion gynt
'R么l dychwelyd i'n haddoldy
Dysgwn blant ein ffordd o fyw
Gwrando'r bregeth offrwm gweddi
Gyda Gareth wrth y llyw
Gwilym Herber.