Pan yn yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, ar liwt ei hunan, aeth i Romania i ddatblygu'n ymarferol rhai sgiliau a syniadau. Drwy ryw ddirgel ffyrdd, yn enwedig mewn gwlad fel Romania, llwyddodd i gael defnydd o ystafell fach mewn ysbyty a sefydlu gr诺p Therapi Chwarae i blant amddifad a difreintiedig. Mae gofal bugeiliol a seicolegol yno yn brin ofnadwy, ac mae'n rhaid i'r plant ddioddef mewn tawelwch o dan amgylchiadau truenus heb unrhyw ddealltwriaeth a chydymdeimlad o'u cyflwr.
Os nad oedd hynny'n ddigon, wedi graddio, aeth Angharad ymhellach, yr holl ffordd i Fongolia yng nghanol Asia i sefydlu gr诺p tebyg. Wedyn i Kenya, ac mae ar hyn o bryd yn ninas Tuxtla, Mecsico, yn sefydlu gr诺p wedi iddi ddod i gysylltiad gyda meddyg tra ar ei gwyliau yno. Pwrpas y fenter yw sefydlu canolfan Therapi Chwarae, lle nad oes unrhyw ddarpariaeth o gwbl ar hyn o bryd, i helpu'r trueiniaid drwy roi cyfle iddynt fynegi eu hunain a magu hyder drwy chwarae strwythuredig o dan arolygiaeth ac arweiniad Angharad. Bu rhaid iddi ddysgu Sbaeneg ar frys i alluogi magu perthynas clos a dwys, fel na fydd unrhyw ddiffyg dealltwriaeth rhyngddi a'r plant - mae hynny'n elfen bwysig iawn.
Fel y dychmygwch, mae'n fenter anturus a dewr i un mor ifanc, heb s么n am yr oblygiadau ariannol. Mae tocyn awyren i Fecsico yn costio 拢500! Am yr wythnosau cyntaf, cafodd waith yn dysgu Saesneg fel ail iaith, er mwyn cael arian i fyw, cyn dechrau ar ei phrif waith. Mae'r holl beth yn lafur cariad iddi, felly pan mae adre' mae'n brysur yn codi arian i'r project nesaf.
Diwrnodau cyn hedfan i Fecsico, trefnodd bod gr诺p o gerddorion yn dod ynghyd i ganolfan newydd Y Forge yng Nghlydach i greu cerddorfa byr-fyfyr, a gr诺p bach o gantorion a fu'n perfformio caneuon o'r sioeau poblogaidd. (Un ohonynt yn gyn athrawes cerdd i Catherine Jenkins!!)
Mae tad Angharad, Geraint yn gyn athro llinynnol teithiol, felly roedd nifer o'i ffrindiau o'r gwasanaeth addysg a'i gyn-ddisgyblion wedi rhoi o'u hamser i helpu Angharad.
Gyda mam wedi paratoi te, coffi a theisennod di-ri, bu'n noswaith lwyddiannus gyda chyfraniad teilwng i'r gronfa i hybu gwaith gwirfoddol, gwerthfawr, clodwiw Angharad. Braf clywed am rywun sy'n fodlon codi o'r gadair a gwneud rhywbeth yn lle beirniadu a tyt-tytan o bell.
|