Haleliwia yw gair mawr addoliad Iddewig a Christnogol ar draws yr oesoedd ac mae'r gair wedi cyrraedd y siartiau pop. Yn wir, mae c芒n Leonard Cohen yn gyntaf ac yn ail (y tro cyntaf i'r un g芒n fod ar y brig ers hanner canrif pan oedd Tommy Steel yn gyntaf ac yn ail. Alexandra Burke sydd yn gyntaf a bydd pawb ohonoch yn ei chofio ar X Factor, a Jeff Buckley yn ail, ac yn wir mae'r g芒n hefyd yn rhif 36 a Leonard Cohen ei hun yn ei chanu.
Cafodd Ynyr Roberts o'r grwp Brigyn ganiat芒d i'w chyfieithu i'r Gymraeg ac fe fernir fod y geiriau Cymraeg gan yr actor Tony Llewelyn yn rhagori ar y Saesneg.
Mae'r g芒n yn s么n am Fethlehem heddiw a dyma rai llinellau:
"Mewn dwrn o ddur mae seren wen, mae cysgod gwn dros Fethlehem, dim angel gwyn yn canu Haleliwia."
"Codi'r muriau, cau y pyrth, troi eu cefn ar werth y wyrth. Mor ddu yw'r nos ar strydoedd Palesteina."
"Mae weiran bigog gylch y crud a chraith lle bu creawdwr byd. Mae gobaith yno'n wylo ar ei gliniau, a ninnau'n euog bob yr un, yn dal ei g么t i wylio'r dyn yn chwalu pob un hoel o Haleliwia."
Dyna Fethlehem heddiw ac i'r un Bethlehem y daeth Mair a Joseff i dalu treth i Gesar. Ymerodraeth Rufeinig ormesol a'r esgid yn gwasgu'n drwm ar bob Iddew. Gwlad oedd yn cael ei llywodraethu gan frenin creulon, Herod. Roedd yno dlodi a digartrefedd a ffoaduriaid ac i fyd real iawn y ganwyd Crist. Yn ei ch芒n, mae Mair yn y Magnifica yn s么n am y chwyldro fyddai'n digwydd o eni'r baban oedd yn ei chroth yn Waredwr byd a'r hyn fyddai'n digwydd wrthi bobl ymateb iddo. Chwyldro ysbrydol, moesol, gwleidyddol ac economaidd. Byddai'n dda i rai sydd tu 么l y sefydliadau ariannol y byd ei darllen. Roedd Simeon yn ei g芒n yntau wedi disgwyl yn hir ac wrth gofleidio'r bachgen yn tystio "Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth. Gweld yn Iesu Grist ei holl ddisgwyliadau yn cael eu gwireddu".
Mae neges y Crist i'n byd real ni. Mae'n neges heriol i'r byd yma - byd lle mae gennym ein Darfur, Congo, Simbabwe, Affganistan, Mumbai - chwedl Robert Burns, "Man's inhumanity to man" i fyd camdrin plant megis Baby P., i fyd diweithdra, colli cartrefi, crebachu ariannol, y credit crunch, y down turn, HIV ac AIDS.
Meddai'r g芒n, "Mae'r nos yn ddu, mae'r nos yn hir, ond mae 'na rai sy'n gweld y gwir, yn gwybod fod y neges mwy na geirau, mai o'r tywyllwch ddaw y wawr, a miwsig ddaeth 芒'r muriau lawr, daw awr i ninnau ganu Haleliwia".
Bydd Cristionogion ar draws y pum cyfandir yn dathlu ac yn cyhoeddi gobaith i'r byd yn y Mab a anwyd ym Methlehem ac ymunwn ninnau 芒 hwy i ddweud:
"Haleliwia, haleliwia, haleliwia, haleliwia".
"Mae'r Haleliwia yn fy enaid i, A rhoddaf Iesu fy mawrhad i Ti".