Traddodiad neu arferiad o gyfnod oes Fictoria yw gosod coeden Nadolig yn y t欧 a'i haddurno ac mae'n debyg mai i'r Tywysog Albert y mae'r diolch am hynny. Pan yn blentyn roedd hi'n arferiad mynd allan i chwilio am goeden go iawn rhai wythnosau cyn yr 诺yl a'i haddurno. Wrth gwrs dim ond rhan o'r gwaith oedd gosod y goeden Nadolig. Fel yr ai'r gwyliau heibio moeli oedd hanes y goeden gyda'r pinnau yn disgyn yn gawodydd i'r carped a'r angen glanhau'r carped yn ddyddiol. Yn yr un modd roedd hi'n draddodiad i dref Porthmadog dderbyn coeden Nadolig anferth a honno wedi ei mewnforio yn arbennig o Norwy neu Sweden i'w gosod yn y dref a'i haddurno 芒 goleuadau dros y Nadolig. Gyda threiglad y blynyddoedd newidiwyd y goeden go iawn yn y t欧 i goeden artiffisial. Nid oedd hanner cymaint o waith gyda'r goeden artiffisial. Oedd, roedd yn rhaid sicrhau bod y goeden yn sefyll yn syth ond doedd ddim rhaid ei dyfrio na glanhau'r pinnau o'r carped. Erbyn heddiw gellir cael pob math o goed Nadolig hyd yn oed addurniadau nad ydynt yn ymdebygu i goed o gwbl. Gellir cael coed o bob lliw a llun ac mae'n debyg mai'r coed opteg ffeibrau yw'r ffasiwn y dyddiau yma. Fel arfer mae'r coed yn cael eu tyfu ar dir sydd 芒 system ddyfrio arbennig iddo er mwyn atal y pridd rhag sychu yn ormodol. Mae'n debyg bod tua 400 o dyfwyr coed Nadolig ym Mhrydain. Y goeden fwyaf poblogaidd yw'r goeden p卯n Nordmann sydd yn hawlio tua 40% o'r gwerthiant ym Mhrydain. Tybed am ba hyd fydd coeden Nadolig go iawn yn dal ei thir o du'r hinsawdd a thechnoleg? Wrth gwrs erbyn heddiw nid yw'r goeden Nadolig yn diweddu ei hoes unwaith bydd y Nadolig drosodd. Gyda mwy a mwy o bwyslais ar ddiogelu amgylchedd mae sawl Cyngor yn gofyn am gael defnyddio'r coed Nadolig ymhellach. Bu amser pan fu hen goed Nadolig noeth a brown i'w gweld ymhob man yn amlach na pheidio mewn afon neu gamlas (bron 芒 bod fel troli Tesco ddiarhebol!) Erbyn heddiw mae'r coed yn cael eu defnyddio yn eithaf dyfeisgar. Mae rhai ohonynt yn cael eu malurio'n f芒n er mwyn creu deunydd i atal chwyn tra bod eraill yn cael eu defnyddio i ddiogelu twyni tywod ar hyd yr arfordir. Beth bynnag fydd eich mympwy eleni ym myd y coed Nadolig rwyf am ddymuno Nadolig llawen i chwi oll gan ddymuno hir oes i'r goeden Nadolig go iawn Ymddangosodd yr erthygl hon gan Dewi Lewis yn rhifyn Rhagfyr 2003 o bapur bro Llais
|