Tra bu rhai yn bwyta cinio dydd Sul, roedd aelodau'r pasiant yn ymarfer y Sioe Nia Ben Aur yng nghampfa Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe yn ddi-gwyn.Roedd yr ymarferion cyntaf yn Neuadd Ysgol Gyfun Ystalyfera yn rhwydd, ychydig o ganu, a thamaid bach iawn o ddawnsio, gweddill yr amser yn siarad! Ond roedd yr ymarferion canlynol yn galed iawn, wel, erbyn y diwedd, nid oedd Rhiannon Rees (ein cynhyrchydd) yn fodlon i ni gael hoe!
Pan ddaeth Angharad, meistres y gwisgoedd i'n gweld i ymarfer ar fore Dydd Sul, roedd pawb wedi cyffroi. Roedd pawb yn holi:"Beth mae'r corws yn gwisgo?" "Beth mae Ri yn cael gwisgo? O! Pam na alla i wisgo'r sgert na hefyd, Rhiannon?" Ydy Gang Nia yn cael gwisgo hetiau hefyd?"
Wel yn y diwedd, roedd pawb yn hoff iawn o'u gwisgoedd lliw a phrydferth, ac nid oedd neb yn gallu aros i'w gwisgo ar y llwyfan!
Hir pob aros, ond yn y diwedd, fe ddaeth y diwrnod mawr! Pafiliwn tywyll fel y fagddu, goleuadau llachar fel s锚r yn y nen, band swnllyd yn tarannu'n ddi-hoe. Popeth yn creu awyrgylch hudol y chwedl Gymreig!
Ac yna, fe ddaeth fy moment.... 1,2,1,2,1,2,....
Pedlais am fy mywyd i gyrraedd y llwyfan mawr - "Rhaid bod ofalus, ma na wifre ar y Ilawr!"
Y dorf yn dechrau chwerthin a gweiddi. Y gerddoriaeth uchel yn taranu -
Ri, Ri, Ri, Brenhines Tir Na N'og, Ri, yw'n enw i!
Gweld Dad yn y gynulleidfa'n ffilmio, Mamgu Ray yn chwerthin a chwifio! Profiad peni-gamp oedd bod yn y Pasiant. Mae'n rhaid i mi ddiolch i Mam am fy helpu drwy gydol yr amser, ac i Rhiannon am fod yn athrawes arbennig!
Glesni Euros
Ym mis Ionawr es i gael cyfweliad gyda dad, am rhan yn Sioe Nia Ben Aur. Teimlais yn gynhyrfus iawn wrth feddwl am ganu o flaen y panel o feirniaid am y tro cyntaf. Ar 么l tua wythnos fynd heibio cafodd yr ysgol ganlyniadau'r cyfweliad.
Pan glywais i taw fi gafodd rhan Nia Ben Aur yr own wedi dwli. O hynny ymlaen roedd eisiau lot fawr o amser a gwaith caled i ddysgu'r caneuon ar symudiadau ar gyfer y pasiant ym mis Mai.
Yn ystod yr ymarferion gwnes i lot fawr o ffrindiau newydd roedd yn brofiad da i gael gweithio gydag athrawon mor dalentog. Pan gyrhaeddodd y noson roeddwn yn edrych ymlaen at ganu ar y llwyfan am y tro cyntaf gyda Steffan Morris (Osian) a Glesni Euros ( y Frenhines Ri).
Pan roeddwn yn cerdded i lawr y grisiau tuag at y llwyfan a gweld y gynulleidfa fawr oedd yno; Mam, Dad a fy mrawd Rhydian rown yn teimlo'n falch iawn. Roedd yn noson fythgofiadwy.
Ania Davies