Fel y canodd Y Parchg Phillip Morgan, Treforus mewn oes o'r blaen, a dilyn llwybr hanes gwnaeth y 30 cerddwr a fentrodd yn ddewr ar fore gwlyb oerllyd Sadwrn, Rhagfyr 27ain.Cyfarfu'r cerddwyr wrth draed colofn Ludwig Mond (1839-1909), dyfeisydd dull unigryw o buro a chynhyrchu nicel. Un o gyn-weithwyr "Y Mond", Hywel Wood, esboniodd y modd o gynhyrchu nicel wedi i'r deunydd crai gyrraedd o Ganada.
Treuliodd Hywel ei oes yn y gwaith a gwyddai am bob twll a chornel ohoni. Mae adeiladau bric coch y gwaith yn hardd iawn ger y cylchdro a chyferbyn mae un o adeiladau hynaf y pentref, sef efail y gof.
Yn 么l Dewi Harris saif ar groesffordd tair o brif heolydd y cylch ac wrth ymyl Camlas Tawe a gwblhawyd ym 1794. Daeth cludo i ben ar y gamlas yn 1931 a dechreuwyd llanw rhannau ohoni. Cludwyd haearn a glo ar y gamlas o ben ucha Cwm Tawe i "ddociau Clydach" a byddai'r haearn yn cael ei drin yn y ffowndri a'r Forge Fach.
Cerddwyd ar hyd y gamlas i safle hen waith tunplat Player's ger Cwmdwr. Yma o dan dyfiant mae adfeilion Plasdy Ynystanglwys a godwyd gan berchennog Crochendy Abertawe, George Haynes. Yn of Dyfrig Harris, un a godwyd yn, Nghwmdwr, roedd Plasdy Ynystanglwys yn adeilad hardd gyda rhodfeydd a gerddi hardd. Chwalwyd y cyfan yn y 1950au. Anodd dychmygu'r olygfa ysblennydd yng nghanol y drysi a welwn heddiw. Gyda llaw, enw ar un o'r seintiau cynharaf yw "Tangwystl".
Ann Rosser bu'n ein tywys, wrth y garreg coffa ym Mharc Ynystawe, i'r canol oesoedd a dirgelwch Llyfr Coch Hergest a gop茂wyd yma, yn 么l yr hanes, ar gais Hopcyn ap Tomos, uchelwr o Gymro a drigai gerllaw. Yn y llyfr hwn, a gop茂wyd rhwng 1382 a 1410, sydd yn un o lawysgrifau pwysicaf yr iaith Gymraeg, y mae fersiynau llawn o'r Mabinogion, chwedlau Siarlymaen, Brutiau, Trioedd a Meddygon Myddfai ynghyd 芒 chasgliad mawr o farddoniaeth.
Er bod cofeb i'r Uchelwyr yma ger safle Plasdy Ynystawe tybir mai ym Mhlasdy Ynysforgan roedd cartref Hopcyn ap Tomos, ac yn sicr roeddynt yn noddi beirdd, cyfieithwyr a chopiwyr ac yn casglu i'r llysoedd ar lan Tawe drysorau llenyddiaeth boblogaidd Cymraeg ac Ewropeaidd y yng Nghwm Tawe. Trefor Jones, Resolfen bu'n esbonio'r modd byddai'r rhewlif yn crafu a sgubo pridd a cherrig o'i blaen a) gollwng, gan greu bryncyn.Mae'r Garth yn enghraifft wych i farian ac mae daearegwr o bob rhan o Brydain yn galw heibio i'w astudio.
Pleser o'r mwyaf oedd ymweld 芒 Chapel Seion, Y Glais a thalu gwrogaeth i T. E. Nicholas (1879-1971). Er mai yng ngogledd si Benfro y'i ganwyd ac yn Aberystwyth y treuliodd y rhan fwya o'i oes, eto 芒 phentref Y Glais y cysylltir ei enw bob amser. Bu'n weinidog o 1904 nes iddo adael y weinidogaeth yn ystod y Rhyfel Mawr Cyntaf, ac yn y cyfnod hwn y daeth yn enwog trwy Gymru fel "Niclas y Glais".
Perthyn i'r cyfnod y bu yng Nghwm Tawe mae ei waith a'i gerddi pwysicaf, Salmau'r Werin a Cerddi Rhyddid. Blynyddoedd anodd i heddychwr a chomiwnydd oedi blynyddoedd y Rhyfel Mawr, yn enwedig i un a fynnai gyhoedd ei safbwynt mewn cerddi, erthyglau a phregethau mor amlwg herfeiddiol ag y gwnaeth Niclas, a daeth llawer helbul i'w ran fe gweinidog yn Y Glais, oherwydd ei ddaliadau amhoblogaidd. Diddorol hefyd oedd sylwi ar maen coffa un o fechgyn y cylch foddodd ar "agerlong y Titanic".
Wedi taith bleserus a gwybodus ymlaciodd y cerddwyr yn nhafan Y Globe ar gyfer lluniaeth. Cafwyd bore i'w gofio.