Cafodd Leon Evans, Blwyddyn 6, driniaeth ar ei galon yn Ysbyty Plant Princess Diana, Birmingham, a braf iawn oedd ei weld yn dod n么l i'r ysgol, wedi gwella, ar 么l hanner tymor. Dewiswyd Leon Evans o Gwmllyfnell i fod yn fascot i d卯m Cymru yn erbyn Lloegr wedi iddo wella ar 么l y llawdriniaeth.
Yn Ionawr fe ddaeth PC Bowen at Flwyddyn 1 a 2 i siarad am ei swydd ac am bobl eraill sy'n helpu. Fe gafodd y plant hwyl wrth wisgo'r dillad gwahanol. Wedyn aeth Blwyddyn 5 a 6 i lawr i Ysgol Cwmtawe i weld sioe 'Red Hot Cole' a gyflwynwyd gan Blant yr Ysgol Uwchradd. Cafwyd gwledd o ganu ac actio yno.
Aeth criw o blant ac athrawon i agoriad swyddogol y parc newydd yn y pentref. Agorwyd y parc gan y Maer Elwyn Jones. Yn bresennol hefyd roedd y Faeres Doreen Jones, Mr Alan Shields, Mr Eirion Richards a Mr Peter Lloyd. Babanod Ysgol Cwmllynfell oedd wedi croesawu Ysgolion Rhiwfawr, Cefn Bryn Brain, Ystradowen, Cwmtwrch, y Glyn, Gwaun Cae Gurwen a Chwmgors i Neuadd y Mileniwm yn y pentref i weld y Sioe Bypedau 'Fferm Ffal-di-ral'. Roedd tua 200 o blant yn mwynhau yno, yn gweld yr hyn a ddigwyddodd i'r fferm pan ganodd y ceiliog yn hwyr!
Yn Chwefror aethpwyd 芒 phlant yr adran lau i lawr i'r Grand yn Abertawe i weld 'Magical Midsummer Mayhem', perfformiad gan gwmni Shakespeare for Kids o 'Midsummer Night's Dream'. Roedd y plant a'r athrawon wedi mwynhau'n fawr iawn, a'r sioe yn llawn bywyd, rhai o'r perfformwyr hyd yn oed yn mynd at draws y llwyfan ar sg锚tiau rholio.
Treuliodd Molly Ubstell, Blwyddyn 2 a'i chwaer Poppy o'r Dosbarth Derbyn, dair wythnos yn Awstralia gyda'u mam, yn ymweld 芒 thylwyth yno. Tybed faint o stor茂au sydd ganddynt am ochr draw'r byd?
Ar Ddydd G诺yl Dewi fe ymgasglodd plant, athrawon, tylwyth a ffrindiau yng Nghapel Cwmllynfell i ddathlu'r 糯yl drwy ganu, adrodd ac actio. Wedyn aethant dros yr heol i Neuadd y Pentref i orffen y prynhawn drwy gymryd rhan mewn dawnsio gwerin. Diolch i'r Gymdeithas Rhieni am sicrhau te a phice ar y maen i bawb, a diolch i Tesco am y rhodd o 拢20 tuag at gost y lluniaeth.
Ym mis Mawrth hefyd roedd hi'n braf iawn gweld y Brodyr Gregory, Henson y Draenog ac Eco Bwni yn diddori plant Ysgol Cwmllynfell a phlant Ysgolion Rhiwfawr a'r Glyn yn Neuadd y Mileniwm yn y pentref. Dysgwyd gwersi pwysig iawn y bore hwnnw am ddiogelwch yr heol ac ailgylchu drwy g芒n ac actio.
Aeth plant yr adran iau unwaith eto i'r Grand yn Abertawe, i weld sioe wyddonol o'r enw 'The Big Drip'. Cawsant eu difyrru gan y Cwmni 'Quantum Theatre' gyda'r actorion yn canu, dawnsio ac actio drama i ddangos pwysigrwydd defnyddiau yn ein bywydau. Yn y prynhawn aethant i Eglwys y Santes Fair i ymweld 芒'r adeilad hyfryd hwn yng nghanol Abertawe.
|