成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur y Cwm
Gloyn Trilliw Bach Tymor Gwych i'r Pili Pala
Hydref 2003
Bu diwedd mis Awst a mis Medi ar ei hyd yn gyfnod gwych i'r pili pala.
Os bu cyfnod neu gyfle i wylio'r creaduriaid yma, yna eleni oedd yr adeg hwnnw. Bu'r ardd yn llawn o bili pala yn tyrru i sugno paill allan o flodau'r goeden Ml (Buddleia).

Mae'r goeden f锚l yn baradwys i'r pili pala ac nid rhyfedd iddi gael ei galw ar lafar yn 'butterfly bush'. Dygwyd y goeden f锚l o Tsieina ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'w gosod yng ngerddi mawrion y byddigion ond heddiw mae'r goeden yn hapus yn tyfu yng ngerddi'r bodion neu ar ddarn o dir diffaith.

Er mai siap digon bl锚r sydd i'r goeden, mae'n cynhyrchu toreth o flodau porffor neu wyn sydd yn denu pili pala a thrychfilod eraill. Er mwyn creu llwyn eithaf taclus sydd yn llawn blodau fe fyddaf yn tocio'r llwyn yn ystod mis Tachwedd i tua troedfedd o uchder o'r llawr, wrth wneud hyn fe fyddwch yn cadw siap y llwyn ac yn sicrhau parhad y blodau.

Er mwyn sicrhau parhad y blodau yn ystod y tymor dylid torri'r blodau marw er mwyn annog blodau eraill i dyfu. Yn ystod mis Medi cofnodais saith o wahanol rywogaethau yn gloddesta ar y paill ar y goeden f锚l. Mae'n syndod pa mor gywrain yw'r patrymau a'r lliwiau sydd ar adenydd y pili pala pob un gyda'u patrymau a'u Iliwiau nodweddiadol.

Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn hollol sicr o'r holl rywogaethau ond wedi pedair wythnos o wylio ac edrych mewn llawlyfr 'roeddwn yn eithaf hyderus yn eu hadnabod.

Dyma'r saith rhywogaeth a ddaeth i'r ardd yn ystod yr wythnosa diwethaf :- Y Peunog (Peacock), Y Fantell Goch (Red Admiral) Gloyn Mawr Gwyn (Large White), Gltiyn Bach Gwyn (Small White), l芒r Fach Dramor (Painted Lady), Gloyn Trilliw Bach (Small Tortoiseshell) Brith y Coed (Speckled Wood).

Tybed am ba hyd y bydd y pili pala yn aros o gwmpas yr ardd? Os cawn 'haf bach Mihangel' fe fydd siawns i'r creaduriaid aros hyd at fis Hydref. Mae'n debyg mai'r tywydd twym sydd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd yn niferoedd y pili pala gyda'r hinsawdd yn ffafriol o'r gwanwyn a thrwy gydol yr haf. Fel arfer mae'r pili pala megis y fantell goch a'r i芒r fach dramor yn treulio'r gaeaf ar arfordir yr Affrig neu F么r y Canoldir and mae rhai arbenigwyr yn y maes yn credu y bydd rhai o'r rhywogaethau yma yn aros ym Mhrydain dros y gaeaf os bydd yr hinsawdd yn parhau'n ffafriol.

Canlyniad hyn with gwrs yw y bydd niferoedd y pili pala yn uwch y flwyddyn nesaf,. Mae rhywogaethau megis y paun a'r gibyn trilliw bach yn gaeaf gysgu yn y wlad yma. Y llefydd mwyaf delfrydol iddynt yw sied yn yr ardd neu ystafell mewn ty nad yw'n cael ei defnyddio.

Dywed yr arbenigwyr ei bod yn bwysig i bobl beidio ag amharu yn ormodol ar y pili pala er mwyn sicrhau eu bod yn cael llonydd i aeaf-gysgu.

Mae'n ymddangos bod y cynnydd yn niferoedd y pili pala wedi dal dychymyg y cyhoedd. Yn ddiweddar ceisiais brynu Ilyfr a oedd yn rhoi cyngor ar fathau o blanhigion i'w tyfu yn yr ardd er mwyn denu pili pala. Wedi aros am wythnos daeth y neges gan y cyhoeddwyr yn datgan "Sold out due to popular demand". Mae'n ymddangos bod hyd yn oed y pili pala yn "cwl" y dyddiau yma. Yn absenoldeb y llyfr fe af ati ym mis Tachwedd i docio'r goeden f锚l gan obeithio creu cynefin i sicrhau y bydd y flwyddyn nesaf yr un mor Ilwyddiannus i'r pili pala.

Dewi Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy