Pan fo'r gaeaf wedi bod yn ei lawn rym mae'r Groegiaid yn dechrau meddwl am rywbeth i godi'r galon - ac y maen nhw ar ben y rhestr pan ddaw yn fater o fwynhau eu hunain !
A pha ffordd well na chynnal Carnifal? Unrhyw esgus i gael dawnsio, bwyta, yfed ac anghofio'r oerni! O'r Eidaleg y daw'r gair Carnifal ac yn gyfuniad o carne (cig), a lefare (gorffwys). Felly, seibiant i fwyta cig. Dyna hefyd union ystyr y gair Groegaidd Apocries Credir fod y Carnafali yr wyl brydferthaf, fywiocaf a mwyaf llon yn y flwyddyn gyda phawb yn edrych ymlaen yn frwdfrydig - yn enwedig y plant. Mae hwn yn gyfle iddyn nhw roi gwisgoedd amryliw, dawnsio, chwarae chartopolemo (rhyfel papur) sef taflu conffetti a serpentines - seirff lliwgar, hardd. Rhubanau papur o wahanol liwiau'r enfys ydy'r rhain wedi eu gwau yn dorch. Wrth ddal y dorch rhwng eich bys bawd a'ch bys cyntaf, a'r un pryd, yn agos at eich gwefusau a chwythu, mae'n datod a saethu ar draws yr ystafell. Unwaith mae ar lawr edrych fel sarff yn troelli. Gallwch ddychmygu'r annibendod ar y lloriau erbyn diwedd y noson! Cyn hyn bu'r plant yn dewis gwisgoedd o bob math; Indiaid Cochion, Clowns, Llygod, Pwmpen, Môrladron, Gwrachod, Dewiniaid . . . Maent yn cael amser bendigedig ym mhartion ffrindiau dosbarth, neu yn yr ysgolion nos lle maent yn mynd i ddysgu ieithoedd estron gyda chyfle i rodresa. Plant wrth eu boddau Mae'r plant yn teimlo'n bwysig iawn yn cerdded o gwmpas fel paunod yn iard yr ysgol. Yn ogystal a'r tai sy'n cynnal partis, bydd yr ysgolion a'r neuaddau hefyd wedi eu haddurno a iarlandes (coronblethau), ffanarakia (llusernau) gyda wynebau clown ac ati.
Rhaid wrth nerfau o ddur i oddef y trombeta (utgorn neu hwter) mae'r plant yn ei chwythu nes bron eich byddaru! Mae'n wefreiddiol eu gweld yn dawnsio - y brenhinesau gyda'r marchogion, bugeilaiaid, gwartheg a'r gweinyddesau. Bydd bord o fwyd wedi ei pharatoi hefyd ar gyfer y plant sydd bellach yn chwys bots ar ôl dawnsio. Yn sicr mae'r Apocries yn ddathliad mwyaf llachar a phleserus y flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn mae siopau'r stryd fawr yn llawn arddangosfeydd o wisgoedd disglair yr Apocries sydd yn cipio eu dychymyg i fydoedd ac amserau eraill. Adeg y Carnafali mae rhai diwrnodau mwy arwyddocaol na'i gilydd fel y TSICNOPEMPTI - dydd Iau, Chwefror 15 eleni. Mae hwn yn ddyddiad sy'n newid o flwyddyn i flwyddyn gan ddibynnu pa bryd bydd y Pasg. Y tafarnau'n agored i bawb Gellir ei gymharu a dydd Mawrth Ynyd yng Nghymru ond yma bydd y tafarnwyr yn agor eu drysau i bawb o bobl y byd! Bydd rhai yn pobi ar danau bychain hwnt ac yma a bydd miwsig byw yn y strydoedd a'r dref yn llifo o bobl, hen ac ieuanc, wedi eu gwisgo mewn dillad yn portreadu pob math o greaduriaid a phobl. Ym mhob sgwar ac ar bob congl mae rhywbeth yn digwydd siwglwyr gyda thân, clowniau yn difyrru, dynion ar stiltiau, grwpiau yn canu ac aroglau y souflakia (darnau o borc ar bren, sy'n cael eu coginio ar dân glo) yn llenwi'r awyr. Credwch fi, mae'n amhosib eu gwrthod! Rhaid manteisio ar y cyfle olaf hwn i fwyta'n dda cyn y Pasg! Apocries eleni oedd dydd Sul Chwefror 25. Er bod tair wythnos y Carnafali yn cael ei alw'n Apokries; mewn gwirioneddy dydd Sul olaf ydy dydd yr Apocria yn iawn. Dyma'r dydd olaf y caniateir bwyta cig cyn dechrau ymprydio, sef yr ail ddydd Sul cyn y Saracosti (40 diwrnod cyn y Pasg). Gwaherddir bwyta unrhyw fath o gig. Cuddio'r wyneb a mwgwd Un ddefod sydd wedi parhau o'r oesoedd paganaidd ydy'r ffugio pryd y cuddir yr wyneb â mwgwd a gwisgo dillad yr hen oesoedd gan gymryd y ffurfiau rhyfeddaf a mwyaf godidog Pierrot, Colombine, anifeiliaid o bob math. Daw y gwledda a'r rhialtwch i ben â gorymdaith ysblennydd. Merched prydferth sy'n ddigon a drysu'r dynion yn gwisgo ond y lleiaf o ddillad! Cerbydau disglair wedi eu haddurno'n watwarus a gwych. Coeliwch fi, yn Patras, tre yn ne'r wlad, anodd credu taw yng ngwlad Groeg ydych ac nid yn Rio! Dywedir mai yma y cynhelir carnifal gorau Ewrop. Bydd rhai yn gweithio'n ddyfal o'r golwg mewn ystordai yn creu cerbydau a delwau a fydd mewn dipyn yn rhan o'r hwyl ar strydoedd Patras. Y cerbydau sydd ar flaen yr orymdaith gyda'r Fasilias Carnifalos - Brenin y Carnifal - yn uchafbwynt, wedi ei ddewis yn gerbyd gorau cyn cychwyn. Meddwl am y flwyddyn nesaf Gan fod yn rhaid cael digon o amser a dychymyg i lwyddo yn y gystadleuaeth, unwaith i'r Apokries ddirwyn i ben, mae'n amser dechrau paratoi ar gyfer gorymdaith y flwyddyn nesaf! Ar Chwefror 18 roedd Carnafali eleni yna ar ddydd Llun Chwefror 26 yr oedd Cathara Ddeftera neu Ddydd Llun Glan - gwyl draddodiadol sy'n dynodi dechrau'r Saracosti (deugain dydd cyn y Pasg). Dyma pryd y mae hen ac ieuanc yn dod at ei gilydd i hedfan ceitiau o ben tir uchel nes bo'r awyr yn orlawn o liwiau a siapiau. Bwyd arbennig Bydd ymborth arbennig yn cael ei baratoi: -Lagana - bara traddodiadol (a geir yn unig ar y dydd yma), - Olewyddennau - Tarama - sef grawn pysgod, - Pysgod cregyn, - Cawl ffa twym ac yna - Halfa - danteithfwyd o hadau sesame. Fel mae'r enw Cathara Ddeftera - Dydd Llun Glân - yn ei awgrymu y bwriad yw bwyta'r rhain i lanhau neu buro'r enaid erbyn y Pasg. Pawb a'i ddathliad Drwy'r wlad mae gwahanol ddathliadau. Un o'r rhai mwyaf nodweddiol yw'r Alefromountsomata (Dyrnaid o Fflwr) yn Galacsiddi lle maen nhw'n taflu dyrnaid o fflwr at ei gilydd math o wyngalchu eich hunan fel arwydd o lanhad. Unwaith i'r dydd ddirwyn i ben d'oes dim ar ôl ond cyfarch cyfeillion gyda'r geiriau, "Tan y flwyddyn nesaf" i olygu eu bod yn disgwyl ichi gael iechyd da tan hynny ac yn edrych ymlaen at eich cwmni eto. Felly, "Ce tou chronou"!!
|