Newydd gychwyn mae 2006 ond dyma ni yng Ngwlad Groeg yn cael cyfle i ddathlu unwaith eto. Golyga hyn fod pob un i ffwrdd o'i waith yn dathlu heddiw, Ionawr 6.
Trwy'r wlad bu plant yn canu Calanda - math o ganu calennig ond ei fod yn arbennig ar gyfer Gŵyl Ystwyll.
Gellir eu gweld ar y diwrnod hwn yn mynd o gwmpas y tai yn canu caneuon traddodiadol sy'n gysylltiedig â'r diwrnod hwn yn unig.
Cân i bob gŵyl Wrth fynd o dŷ i dŷ fe fyddant yn cnocio ar y drws yn gyntaf a gofyn wedyn: Gawn ni ganu?
Does neb yn gwrthod wrth gwrs ac yn ardal Thrace yng ngogledd-ddwyrain y wlad mae'r caneuon hyn yn dyddio'n ôl cyn belled â chyfnod Homer a heb newid llawer ers hynny.
Yng Ngroeg cenir carolau noswyl Nadolig, nos Calan ac yna ar fore gŵyl Ystwyll gyda phob gŵyl â'i chân arbennig.
Bendithio'r dyfroedd Bydd y bobl fwyaf crefyddol yn dilyn y traddodiad gwreiddiol ond eraill yn dathlu gŵyl eu henwau yn unig.
Mae gŵyl Theofania (Theoffania neu Bendithio'r Dyfroedd neu Ta Fota (Ffota - Y Goleuni) yn gydradd â Gŵyl Ystwyll neu'r Seren Ŵyl.
Yn ôl y ffydd Uniongred yng Ngroeg mae Gŵyl Ystwyll yn adeg o symbolaeth grefyddol a sylwedd.
Coffau bedyddio Iesu Grist yn yr Iorddonen mae Theofania.
Y noson cyn yr ŵyl bydd gwasanaeth cyntaf Theofania yn yr eglwys.
Yr amser gynt, byddai'r offeiriad yn mynd o dŷ i dŷ gyda chroes a brigyn o fasil ar gyfer holl ystafelloedd y tŷ.
Hen arferiad ar ynys Creta sydd wedi mynd bron yn angof erbyn hyn oedd paratoi'r ffotocolifa - sef gwenith wedi ei ferwi â phys, ar noswyl Theofa! Nia. Bwytawyd y ffotocolifa nid yn unig gan y bobl ond yn ogystal fe'i rhoddwyd i'r gwartheg a'r defaid ac ystyriwyd hyn yn fodd i sicrhau iechyd a lwc dda.
Gorymdaith hir Y diwrnod canlynol - Ionawr 6 - y mae'r sancteiddio mawr ac yn union ar ôl offeren yn yr eglwys leol gyda gorymdaith hirfaith sy'n dilyn unrhyw lwybr sy'n arwain at ddŵr boed yn llyn, pwll, cronfa, afon neu hyd yn oed y môr.
Ar flaen yr orymdaith mae delwau gyda'r offeiriad yn union y tu ôl wedi eu gwisgo yn eu dillad mwyaf ysblennydd.
Dilynir y rhain gan bobl bwysig y gymuned ac yn olaf gan y credinwyr.
Yn y trefi mawrion bydd cerddoriaeth a milwyr yn rhan o'r orymdaith.
Ar ddiwedd y gwasanaeth bydd y prif offeiriad yn bendithio'r dŵr trwy daflu croes iddo.
Wedyn, bydd y mwyaf beiddgar yn neidio i'r dŵr rhewllyd i ddod o hyd i'r groes.
Bechgyn ieuanc fydd y rhain a'r rhan fwyaf ohonynt yn frodorion y pentref neu'r dref lle bydd y dathlu.
Nid cystadleuaeth mo hon ond mater o anrhydeddu eu teulu a'u crefydd.
Credir y bydd y sawl sy'n dwyn y groes i'r wyneb yn ffodus o ran iechyd a chyfoeth gydol y flwyddyn.
Yn ogystal, bydd llawer o gychod a llongau yn cael eu bendithio ac wedi'r seremoni bydd y bobl yn cael eu diddanu â cherddoriaeth, dawnsio a bwyd.
Mewn cwch Pan oedd Andreas, y mab yn gweini yn y fyddin ar ynys Samos gwelodd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ar lan y môr a'r offeiriad yn mynd allan mewn cwch i daflu'r groes i'r dyfnderoedd.
Pan oedd y plant yn fach a ninnau'n byw ar bromenâd tref Thessaloniki byddai'n hawdd dilyn y gwasanaeth yn flynyddol a gwylio'r bobl yn heidiau yn dilyn y groes.
Yma, fodd bynnag, yn wahanol Samos nid yw'r offeiriad yn mentro allan mewn cwch ond yn taflu'r groes i'r môr o ddiogelwch llwyfan a godwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Yma yn Thermi, sydd ddim ar lan y môr cronfa ddŵr ein tref fechan ydi canolbwynt y gweithgareddau.
Tra 'roedd y tywydd o'n plaid fe aeth George y gŵr a minnau i wylio Christos, mab un o'n ffrindiau gorau, yn neidio i'r dŵr rhewllyd.
Yn anffodus bu bachgen ifanc arall yn gyflymach nag ef yn adfer y groes.
Ond chware teg i Cristos o fod â'r gwrhydri i roi cynnig arni bob blwyddyn boed law neu heulwen!
|