成人论坛


Explore the 成人论坛

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人论坛 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Lynda a'r Oscars! Dod yn agos at fod yn seren
Lynda Ganatsiou o Wlad Groeg yn hel atgofion am blentyndod a breuddwydion yng Nghymru

Mawrth 2002

Synfyfyrio
Daeth digwyddiad annisgwyl, lluniau, a hyd yn oed ymddiddan â ffrindiau neu deulu sydd mor bell i ffwrdd ac atgofion a breuddwydion pêr i mi yn ddiweddar.

Breuddwyd bron pob merch fach ydy naill ai bod yn seren ar y sgrîn fawr neu'n ddawnswraig bale a phan oeddwn innau yn saith neu wyth oed, fy mreuddwyd innau oedd bod yn enwog rhyw ddydd - yn seren yn Hollywood efallai!

Ychydig a feddyliwn peth mor anodd oedd hynny a syniad mor feiddgar oedd e.

Hawdd yw d'wedyd, "Dacw'r Wyddfa,"- Nid eir trosti ond yn araf.

Yr adeg honno 'roedd mam druan lawer yn yr ysbyty a'm brawd a minnau yn sefyll gyda mam-gu a thad-cu, Waungron.

Cyngerdd bob nos!

Druan ohonyn hwy; a hwythau heb deledu cymerais arnaf fy hun i'w difyrru bob nos trwy roi cyngerddd iddynt!

Gan nad oedd neb arall i gymryd rhan, fi oedd pawb a gymerai ran! Y cyflwynydd, yr unawdydd piano, yr unawdydd ffidl, yn gantores soprano a'r adroddwraig!

Barod? Bant a ni felly.
Seibiant - clywed y curo dwylo yr ochr arall i'r wal ac yna, fe fyddai'r drws yn agor; cymeradwyaeth, a'r cyflwyniad yn mynd yn ei flaen a minnau yn dod allan wedi taclu fel bachgen, mewn trowsus coesbyr ac yn adrodd darn o farddoniaith cyn rhuthro i'r ystafell nesa, newid ac ymddangos fel y cyflwynydd unwaith eto.

Newid fy llais, i swnio fel dyn cyn ymddangos ar ôl y cyflwyniad fel cantores ifanc mewn ffrog bert a rhuban yn fy ngwallt, i ganu cân oeddwn newydd y'i dysgu yn yr ysgol.

Cymeradwyo brwdfrydig

Dyna braf oedd cael clywed y curo dwylo brwdfrydig a chael ymgrymu ar ddiwedd y gân a'r gynulleidfa yn gweiddi. - "Rhagor, rhagor, unwaith yn rhagor."

Chwarae teg i mam-gu a thad-cu am ddygymod â mi trwy greu yr awyrgylch a gwneud i minnau deimlo yn arbennig.

A minnau'n cael y fath ymateb roeddwn hanner ffordd i Hollywood yn barod!

Byddai'n rhaid i mam-gu a dad-cu wrando ar y donc ar y piano o bellter y parlwr - gan na ellid symud yr offeryn i'r gegin lle cynhaliwyd y cyngherdd!

A minnau'n gwneud y cleme - ystumiau - rhyfeddaf byddai mam-gu a dad-cu yn chwerthin lond eu boliau ac heb amheuaeth yn mwynhau eu hunain a rhaid bod yn onest, yr oeddwn innau yn cael "cic" allan o'r peth hefyd gan feddwl efallai fod dyfodol disglair o'm blaen.


Pinacl y noson ganlynol fyddai actio drama fechan yr oeddwn wedi ei sgrifennu. Dyna chi hwyl! Roeddwn yn siwr y byddai rhywun yn cydnabod y dalent yma!!

Heddiw, rwy'n holi fy hun, sut yn y byd y gallai mam-gu a dad-cu ddygymod a'r holl ddwli?

Ond dyna fe, dyma'r math o beth mae neiniau a theidiau yn y'i wneud!

Wrth gwrs, ni wireddwyd y freuddwyd o gyrraedd Hollywood - ond dyna ni, ni all pawb fod yn enwog.

Cyfle i berfformio

Ond fe ddaeth cyfle i berfformio eto yn sgil ymweliad Hywel Gwynfryn a'i raglen Ar Dy Feic â gwlad Groeg y llynedd.

Mae'r rhaglen honno wedi ei dangos erbyn hyn er nad wyf i wedi ei gweld eto ond bu ymateb y teulu a ffrindiau agos yn anghyffredin o garedig y diwrnodau wedyn gyda negeseuon yn syth dros y ffôn ac e-byst diri yn mynegi gwahanol farnau am y rhaglen a fy ymddangosiad cyhoeddus cyntaf.

A waeth cyfaddef i'r sylwadau wneud imi deimlo'n reit dda ac ail-gynneu'r freuddwyd Hollywoodaidd!

Gwelodd Joanna (y groten) y rhaglen yn Leeds ac Andreas (y mab) hi yn Abertawe.

Mae ef bob amser yn hoffi tynnu coes a chyn y rhaglen ffoniodd i ddweud: "Beth amdani mam, wyt ti'n ymgeisydd am Oscar?"

Cyd-ddigwyddiad oedd fod canlyniadau'r Oscars yn cael eu cyhoeddi yr un noson a bu rhagor o dynnu coes y diwrnod wedyn.

"Wel, mam serch i ti fod ar y rhestr, ni lwyddaist. Ond dyna fe, roedd yna lawer o ganlyniadau annisgwyl eleni. Paid a becso, mwy o lwc y flwyddyn nesa! Tri chynnig i Gymro."

Serch na chefais Oscar fe gefais fwynhad gweithio â chriw Ar Dy Feic a'r cyfle bythgofiadwy hwnnw.

A dweud y gwir, a minnau'n berson sy'n hawdd ei phlesio fe fu profiadgystal â mynd i Hollywood i mi!

Tybed nawr oes yna well siawns imi ddilyn yn ôl troed Kathryn Zeta Jones a hithau'n dod o "lawr yr hewl' o lle rwy'n dod yn wreiddiol!

Ond na, sticio wnai at beth rwy'n wybod orau cadw ty, rhoi gwersi, ysgrifennu ambell i erthygl at Gymru'r Byd a chynllunio ambell i e-gerdyn.

A'r cynnwrf bellach y tu ôl imi, rhaid disgyn o'r cymylau a dodi fy nhraed ar y ddaear a dod yn ôl i wynebu'r gwirionedd.

Ond rwy'n gwbl barod croesawu'r criw yn ôl unrhyw dro yn y dyfodol - Hollywood neu beidio!

I brif ddalen Ar Dy Feic





ewrop

Gwlad Groeg
Ysblander y saffrwn

Dathlu'r Pasg yng Ngwlad Groeg

Dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Llythyr o Wlad Groeg

Cymraes yn dathlu'r Nadolig yng Ngwlad Groeg

Rhyfeddod y machlud

Cofio neges ewyllys da

Cyfnod twym yng Ngroeg

Llygedyn o obaith mewn byd o greulondeb

Dod yn agos at fod yn seren

Dedfryd y gwylwyr awyrennau

Ar dân yn cerdded ar dân

Tymor y dathlu yng Ngwlad Groeg

Antur wrth gael gwared a char dros y ffin

Cyfarfod â Seren Thermi !

Canu'n iach â hen offeryn cerdd

Siom wrth ddychwelyd i Gymru

Sinema yn yr awyr iach

Balchder Cenedl

Cysur a hanes mewn rhes o fwclis

Rhamant yr wyau

Hwyl urddasol

Joch o'r Tebot

Gwe-fr e-steddfodol

Bendithio siop Yannis

Samos - ynys Pythagoras

Rygbi'n hudo'r Groegiaid

Rygbi'n gafael

Pencampwyr pêl-rwyd

Ennill Cwpan Ewrop

Arwyddion y Pasg

Wy coch ac oen rhost

Duwiau newydd - enwau newydd

Anrhydeddau Olympaidd

Y Campau Olympaidd yn cyrraedd adref

Yr arwyr yn fy nheulu

'Milwr bychan ydyw . . .'

Dathliadau Mawrth

Masticha - cnwd sy'n cydio

Marathon - y fwyaf o'r rasus

Hiraeth oddi cartref

Helyntion byd

Gweld y Fflam Olympaidd

Groeg - cael cynnig rhan mewn ffilm

Ffasiwn le

Cyrraedd copa'r byd

Chwifio baneri llwyddiant

Ymweliad brenhinol

Dylanwadau tramor

Gwlad Groeg - bore coffi Cymreig

Cymry Olympaidd

Dydi'r dathlu ddim yn darfod wedi'r Nadolig

Fy niwrnod yn y Gemau Olympaidd

Mwgwd, gwin a serch

Pryder y Groegiaid

Bendithio'r dyfroedd

Paradwys Ceffalonia

Carnafali

Dyfodol ansicr yr arth frown

Gwisg Genedlaethol Groeg

Etholiadau gwlad Groeg




About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy