Pum milltir oddi ar arfordir Twrci ym môr yr Aegean mae ynys Chios sydd yn gyrchfan glan môr nad yw llawer o ymwelwyr wedi ei ddarganfod hyd yn hyn. Ychydig yn ôl cefais y pleser o ymweld â'r ynys am y tro cyntaf pan alwyd fy ngwr yno ar fusnes.
Dyma lle ganwyd Homer ond ar ben hynny mae gan yr ynys etifeddiaeth ddiwylliannol y byddai unrhyw ynys arall yn falch ohoni.
Bu ynys Chios hefyd yn un o gynhyrchwyr mwyaf glud masticha sy'n cael ei gynhyrchu'n naturiol ac yn Roegaidd drwyddo draw.
Ffrwyth a menywod Mae masticha yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer gan wneud yr ynys yn darged i oresgynwyr fwy nag unwaith.
Dyma un o'r prif resymau pam yr adeiladwyd y pentrefi canoloesol fel caerau - er mwyn amddiffyn y coed masticha a'r cynhyrchwyr rhag anwariaid a'u bryd nid yn unig ar ladrata'r ffrwyth ond fenywod yr ynys hefyd!!!
Am bron i bedair canrif o 1172 bu'r ynys dan law y Fenetiaid a'r Genoaid a oedd y rhai cyntaf i fasnachu y masticha.
Yn 1566 daeth yn eiddo i'r Twrciaid gyda holl gynnyrch yr ynys yn mynd i'r penarglwyddi Twrcaidd.
Gwerthfawrogwyd y masticha gymaint gan y Twrcaid, fel y gwaharddwyd y Groegwyr rhag ei ddefnyddio gwbl.
Fodd bynnag, dan lywodraeth y Genoaid a'r Twrciaid, rhoddwyd breintiau arbennig a rhyddid o rhyw fath i bentrefi yn yr ardaloedd lle tyfai'r coed.
Dim ond y dail! Mae'n rhyfedd meddwl, fodd bynnag, nad oedd merched Chios yn rhoi llawer o werth ar yr hyn yr oedd y Twrciaid yn rhoi cymaint o bwys arno ac ni fyddent yn ei ddefnyddio o gwbl wrth goginio er eu bod yn defnyddio'r dail yn y llestri oedd yn dal olewydd ac hefyd gyda'u picls.
Y tebygrwydd yw i'r masticha fod wedi ei wahardd am gyhyd yr oedden nhw wedi arfer gwneud hebddo.
#Yr oedd hi'n 1913 pan ddaeth yr ynys yn eiddo i wlad Groeg, unwaith eto.
Yn ogystal â'r glud mae Chios yn allforio olewydd, almon, orennau, lemonau a gwin ond heb os y peth enwocaf ydy'r masticha.
Byw yn gant Llwyn bythwyrdd ydy'r masticha, (Pistachia lentiscus) yn tyfu hyd at 3.5 metr ar foncyff afreolaidd.
Mae boncyff y planhigyn ifanc yn llwyd golau gan fynd yn llwytgoch wrth iddo dyfu.
Gall fyw yn gant o oed gan fod ar ei orau rhwng 40-50 oed er ei fod yn cynhyrchu resin neu fastig gydag arogl hyfryd o'r bumed flwyddyn.
Yn nehau Chios mae hyd at 24 o bentrefi traddodiadol wedi eu galw yn Mastichochoria (o masticha a choria, yn golygu glud a phentrefi).
Yma yn unig y tyfir y coed gan fod yr ardal yn fwy ffrwythlon.
Methiant fu ymgais i'w tyfu yng ngogledd yr ynys ac ar ynysoedd eraill.
Er yn tyfu yno nid oeddynt yn rhoi resin.
Ymhlith y rhesymau pam y mae'n tyfu yma yw fod llosgfynyddoedd dan yr wyneb, fod y tymheredd yn fwyn a bod calch yn y pridd.
Defnyddir sudd y goeden i wneud taffi, diod feddwol, perlysiau, melysion, hufen iâ, myro - a ddefnyddir yn yr Eglwys Rroegaidd Uniongred - a bwydydd gan gynnwys rhai Arabaidd yn fwyaf arbennig.
Defnyddir hefyd mewn colur, sebon golchi gwallt, past dannedd ac fel persawr.
Y defnydd pwysicaf, fodd bynnag, ydy yn y diwydiant meddygo ac chredir iddo gael ei ddefnyddio gan Hippocrates ei hun i drin briwiau.
Yn y gorffennol, fe'i defnyddiwyd i drin pethau fel canser yn yr ystumog, wlser yn y perfedd, poenau yn ymwneud â'r bol a llosg cylla.
Dannedd gwynion Defnyddiai'r Rhufeiniaid ef i ffresio eu hanadl ac i wynnu eu dannedd. Cyfeiriodd Christopher Columbus at rinweddau'r masticha mewn llythyr.
Cynaeafir ef rhwng Mehefin a Hydref trwy hollt yn y coed sy'n caniatau I'r sudd lifo allan.
Erbyn heddiw mae 90% o'r hen, hen, gnwd hwn cael ei allforio i fwy na 50 o wledydd tramor gyda'r farchnad fwyaf yn y gwledydd Arabaidd.
|