Llaes a llac yw'r awyrgylch yn y Caffeneon lleol. Pob un ai gwmni ei hun, a phob cwmni a'i fwrdd arbennig. Nid lle i fenywod na phobol ieuanc yw hwn ond man cyfarfod i ddynion: y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi ymddeol. Llecyn i eistedd a chyfnewid barn ar faterion y dydd, gwleidyddiaeth ac, i ambell wr gweddw, dihangfa rhag unigrwydd. Trwy gymylau o fwg mae gwahanol synnau yn cymysgu: swn llymeitian coffi blasus, swn siarad cyffrous ar ôl y pleidleisio. Terfysg mewn congl arall pan fo rhywun yn ennill gêm o tafli sy'n fath o wyddbwyll. Bysedd prysur a meddwl ystwyth Ond mae swn arall i'w glywed uwchben yr ymgomio; swn sy'n fwy treiddiol nag un y darnau tafli yn cael eu hyrddio yn erbyn y bwrdd pren. Swn toncian y komboloi. Yn siarad ac yn bodio'r gleiniau hyn y mae'r dynion mewn oed yn treulio'u hamser hamdden. Ysgytwad cyflym, ar gleiniau yn taro'u gilydd clic-clep, clic-clep. A dweud y gwir, mae'r komboloi yn degan digon swnllyd. O weld un o'r rhain am y tro cyntaf, gallech gael eich twyllo i ffeddwl mai math o freichled yw. Ond na! Cyfres o gleiniau neu fwclis wedi eu dodi ar edau yw ac y maent ar gael ar sawl ffurf a lliw du, gwyn, glas, melyn. Ond, beth bynnag y lliw, un syniad sylfaenol sydd y tu ôl iddyn nhw i gyd, cadw'r bysedd yn brysur a'r meddwl yn ystwyth!! Aur neu arian i'r bechgyn dynnu sylw'r merched Gan amlaf, y bobol hynny sydd o natur gelfyddydol sy'n prynu'r rhai lliwgar. Rhai aur neu arian sy'n mynd a bryd y bechgyn ieuanc - er mwyn tynnu sylw'r merched. Prynir y rhai aur neu arian yn siop emau orau'r dref ond y rhai rhad o blastig o stondinau papur newydd. Hefyd, defynyddir rhai mawrion o bren i addurno mur yn y ty neu mewn swyddfa. Mae llawer o ddynion yn eu hongian yn eu ceir am lwc. Ond y komboloi traddodiadol yw'r un syn cael ei ddefnyddio yn y llaw. Defnyddir y rhain i leddfu pryder neu stres ac i gael gwared a phwysau dyddiol. Mae rhai yn eu defnyddio i drechu problemau gorfwyta ac i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu!!! Mae'n symbol o ddifyrrwch ac o aeddfedrwydd a gwahaniaethir rhwng un a'r llall gan y defnydd a wneir. Neges y belen fawr Nid gwneud y komboloi yn brydferthach yw unig bwrpas pelen fawr ar y pen; y mae hi hefyd yn cyfleu gwahanol bethau i wahanol bobol. Mae'n atgoffa'r Mwswlmaniaid, Bwdistiaid ar rhai sy'n dilyn y grefydd Hindw, o'u duw. I'r Groegwyr, fodd bynnag, Offeiriad yw. Mae maint y belen, yn arwydd o nerth ac awdurdod. Nerth a chyffro mewn ambr Un o elfennau prydferthaf natur - sef ambr, a ddefnyddir gan amlaf i wneud komboloi. Mae'r ffaith ei fod yn ddefnydd organig yn bwysig gan y tybir mai dim ond rhywbeth naturiol all fod yn gyfaill a chydymaith i ddyn. Dewisir ambr yn hytrach na rhai pethau eraill am y credir fod nerth ynddo i gyffroi tri o'n synhwyrau ni: Mae'n gynnes iw gyffwrdd Mae'n brydferth i edrych arno Mae'n creu swn arbennig wrth i'r mwclis daro yn erbyn eu gilydd. Felly, nid yw'n syniad da dewis komboloi wedi ei wneud o garreg neu o fetel! Straeon yr hen ddynion Mae sawl cyfrinach ynghudd yn y gleiniau hyn a'r unig ffordd i'w datgelu yw trwy dreiddio i storiau'r hen ddynion sydd wedi eu hetifeddu drwy eneidiau a thrwy law y cyndadau. Defnyddir y komboloi fel offeryn gweddi hefyd. Feu crewyd gan y Mwslemiaid tua mil a hanner o flynyddoedd yn ôl pan geisiodd y proffwyd Mohammed gryfhau y ffydd a theimliadau crefyddol y dychweledigion newydd yr adeg honno. Gorfodwyd hwy i weddio sawl gwaith y dydd gan ddisgwyl iddyn nhw ddweud rhyw gant namyn un o weddiau bob tro. Hynny yn adlewyrchiad or nifer o gyfrifoldebau gan Allah!!!. Er mwyn llwyddo i weddio a chyfrif ar yr un pryd roedd ganddynt komboloi gyda chant namyn un o gleiniau gyda'r gleiniau yn llanw'r edau ar wahan i un lle gwag ar gyfer un belen. Ar ddiwedd pob gweddi syrthiai'r belen yn ôl i'r cefn gydar un nesaf yn cymryd ei lle, nes i bob un gael ei defnyddio (un belen am bob gweddi). Felly, roedd y komboloi yn "rhifwr gweddiau" i'r Mwslemiaid cyn cael ei estyn ir Pabyddion ar ffurf glain baderau. Yna fe ddaeth i wlad Groeg, lle nad oes arwyddocad grefyddol eang iddo. Fe'i defnyddir yma fel rhywbeth i'w gyffwrdd a'i deimlo. Rhywbeth i edrych arno a ac i wrando ar ei swn wrth i'r mwclis daro ei gilydd. Cydymaith i'r unig ac, yn fwyaf arbennig, yn falm i'r enaid.
|