Tachwedd 2004 Mae Groeg newydd ddathlu diwrnod Oxi - sef diwrnod y Na - pan benderfynodd y llywodraeth wrthod mynediad i Mussolini drwy'r wlad.
Dyna achosodd i Roeg ymuno â'r Ail Ryfel Byd.
Mae'n amser llawn teimladau dwys gyda rhai yn dal i gofio erchylltra'r gorffennol. Eraill yn cofio am berthnasau a ffrindiau na fu mor ffodus â hwy.
Gosodwyd torchau niferus ar gofgolofnau mewn pentrefi, trefi a dinasoedd led led y wlad i'n hatgoffa o'r milwyr dewr a roddodd eu einioes dros eraill.
Atgofion rhyfel Cefais sawl sgwrs gyda fy nhad-yng-nghyfraith am wlad Groeg yn ystod y rhyfel.
Bu'n sôn sut y meddiannwyd ei gartref gan filwyr Almaenaidd ac roedd yn rhyfedd meddwl imi fod yn cysgu mewn tŷ a feddiannwyd adeg y rhyfel gyda milwyr, efallai, wedi cysgu yn yr un ystafell neu hyd yn oed yn yr un gwely!
Rhoddodd fanylion lawer sut y buont yn byw yn gytun er mai'r gelyn oedden nhw ar y pryd!
Ond dyna fe - dynion oeddynt hwy hefyd, gelyn neu beidio a hwythau â theuluoedd eu hunain.
Wedi ymgartrefi yno am fisoedd fe wnaethant ymdrech i groesawu y cymdogion mewn Groeg a cheisio dysgu'r geiriau cyffredin er mwyn gwella'r sefyllfa rhyngddynt â'u carcharorion.
Byddent yn rhoi anrhegion i'm mam a'm tad-yng-nghyfraith - bwyd neu nwyddau nad oedd yn hawdd eu cael. Math o gyfnewid am ildio eu tŷ ac am eu caredigrwydd.
Er, doedd gan y teulu fawr o ddewis mewn gwirionedd!
Yn ystod eu arhosiad, ni ddangosodd yr Almaenwyr unrhyw falais tuag at deulu fy ngŵr er yn elynion i'r Groegwyr.
Trysorau'r gist Gyda'r holl sôn am ryfel yn ddiweddar, daeth atgofion i'm meddwl innau wrth gofio am hanesion fy nhad a'm teidiau innau am y rhyfel.
Dydw i ddim yn meddwl fod pobl ieuanc heddi yn gwerthfawrogi aberth ein cyndadau.
Gan amlaf, arwyr menywod heddiw ydy sêr disglair ym myd ffilmiau ond arwyr gwahanol sydd gennyf i - fy nhad a'm teidiau a chanddynt gyfoeth hollol wahanol. Nid cyfoeth o bethau moethus materol ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr - cymeriad urddasol a gwroldeb.
Wrth feddwl am y dynion dewr yma, Fy arwyr diangof i fe es i chwilmentan mewn cist fach sydd gennyf ac ynddi bob math o drugareddau!
Gallwn ei galw'n Gist y Gorffennol, gan mai pethau sy'n fy nghysylltu â'r gorffennol sydd ynddi.
Ynddi, mae medalau a gafodd fy arwyr yn y ddau ryfel byd. Dyna lle'r oeddynt, yn gudd ond yn ddiogel wedi eu pacio'n ddestlus tu hwnt yn eu pacedi gwahanol - pump ohonynt i gyd.
Ymunodd fy nhad â'r llynges yn syth wedi iddo droi yn ddeunaw oed a derbyniodd ddwy fedal am ei wasanaeth.
Rhoddodd hwy i'w unig ŵyr, Andreas fy mab ychydig flynyddoedd yn ôl.
Yn ffosydd Ffrainc Yna fe ddes i ar draws un Tad-cu Waungron, o'r Rhyfel Byd Cyntaf pan fu gyda'r R.W.FUS, y Royal Welsh Fusiliers.
Rwy'n cofio Tad-cu yn dweud wrthyf, iddo ymladd yn y ffosydd yn Ffrainc lle cafodd ei saethu yn ei goes.
Dangosodd imi'r mannau lle y dywedodd fod darnau o shrapnel yn dal i fod.
Rwy'n cofio estyn fy llaw fechan dros ei goes yn y man roedd y darnau o hyd, a gofyn iddo os oedd yn cael poen wrth i mi gyffwrdd ond chwerthin a wnâi bob tro, gan i mi ei oglais.
Ac na, ni theimlai boen. Cofiais, deimlo'n drist drosto gan i'r clwyf fod yn atgof o'r poenydio a gai yn ddyddiol bryd hynny.
Y funud honno, fodd bynnag, teimlwn yn ddig am iddo chwerthin am rywbeth difrifol!
Cafodd bleser mawr yn adrodd ei storiâu wrthyf nid, efallai, er mwyn cofio'r pethau erchyll, ond am fod gennyf diddordeb yn yr hyn a wnaeth.
I Dad-cu Bryn Morfa neu Dad-cu Bont fel y gelwais ef, y perthyn y ddwy fedal arall.
Saethwr yn y Royal Artillery oedd ef.
Mor ifanc Teimlais dristwch o feddwl pa mor ieuanc oedd y tri yn gadael cartref i frwydro dros eu gwlad heb wybod a ddeuent byth yn ôl.
Deuthum o hyd i'w lluniau wedi hyn.
Yn awr, wedi byw bywyd fy hun a gweld rhaglenni dogfennol ar y teledu, cefais rhyw fath o ddealltwriaeth o'r hyn brofodd y dynion dewr yma - ond ni allaf hyd yn oed ddechrau dychmygu pa bethau dychrynllyd a welsant yn feunyddiol yn ystod y rhyfel.
Pan ydym yn blant nid oes syniad gennym syniad am y fath bethau a byddai wedi bod yn hyfryd cael eu holi'n fanwl yn awr.
Do, fe holais yr adeg honno ond roeddwn i'n rhy ifanc i ddeall ac i hyd yn oed gofio'r atebion.
Hanesion fy nhad yw'r rhai â gofiaf orau - am ei anturiaethau ar y llong ei hun ac am ei fywyd yng ngogledd orllewin Affrica.
Mae gen i sawl llun ohono wedi'u tynnu gyda'i ffrindiau duon.
Treiglodd deigryn lawr fy ngrudd wrth weld un llun yn enwedig a hwythau wedi ymgasglu at ei gilydd i dynnu llun i'w roi i'm tad cyn iddo adael y Cyfandir Tywyll!
Ac wedi eu hysgrifennu ar ddarn o lechen y geiriau: God be with you till we meet again.
Wrth i'r geiriau yma gyffwrth fy nghalon meddyliais mai gwell oedd lapio'r medalau a'u gosod yn ôl yn eu mannau gwreiddiol, yn ddiogel nes i'r gist gael ei hagor y tro nesaf!
Yn fam i filwr Pan anwyd fy mab, Andreas, roeddwn yn ofni am y dydd y byddai yntau'n gorfod ymuno â'r fyddin.
Erbyn hyn ac yntau wedi ennill ei radd mewn Athroniaeth ym mhrifysgol Abertawe, mae'n gwneud ei wasanaeth milwrol gorfodol yn y fyddin yma yng Ngwlad Groeg.
Ymunodd, ddiwedd Mai ac er iddo gael ei anfon i'r Peloponnese yn gyntaf, fe'i symudwyd yn fuan i Aflona y tu allan i Athen ac i adran y Beretau Duon, un o'r cwmniau gorau.
Bu'r hyfforddiant yn galed dros ben a hwythau yn gorfod bod allan mewn gwres o 40c am oriau.
Ar ôl yr holl brofion fe'i wnaethpwyd yn swyddog ac ar Hydref 8 gwahoddwyd fy ngŵr a minnau i weld y gwŷr ifainc yn cymryd eu llw a'u hurddo'n swyddogion.
Pan ddeuthum yma i Roeg ar y cychwyn, rhaid oedd i'r dynion ifanc weini am ddwy flynedd. Cwtogwyd hynny i flwyddyn a hanner. Heddiw blwyddyn sydd raid i'r llanciau'i wneud.
Fodd bynnag, rhaid i Andreas wneud y flwyddyn orfodol yn ogystal â rhyw chwe mis yn ychwanegol gan ei fod yn swyddog.
Wedi deng niwrnod adref fe'i hanfonwyd i weini ar ynys Samos rhyw 1.5 cilomedr o lannau Twrci .
Bydd yn rhaid iddo sefyll yno rhyw chwe mis cyn cael ei anfon rywle nes i'w gartref.
Pan fyddai Andreas yn dal y trên nos i ddychwelyd i'r gwersyll byddwn innau a'i dad yn mynd i ffarwelio ag ef.
Dyna lle'r oedd y mamau ar y platfform yn chwifio eu cadachau poced, rhai yn llefain a'r rhan fwyaf â chanddynt wynebau trist achos i'r rhan fwyaf o'r llanciau dyma eu tro cyntaf i ffwrdd o'u cartrefi. Meddyliwn innau am fy nheidiau a'm Tad yn gadael, ond mynd i ryfel gan adael eu mamau, chwiorydd a'u merched yn llefain.
Anodd iawn ydy bod yn fam i filwr. Yr unig beth a gallaf ddweud ydy fy mod yn cyfrif fy mendithion ein bod yn byw mewn cyfnod o heddwch.
|