Stori sydd o ddiddordeb arbennig i mi sy'n Gymraes yng Ngwlad Groeg ydi'r un yn ymwneud a'r "Gwylwyr Awyrennau" o Brydain. Ar y dechrau ni roddais lawer o sylw i'r helynt a dweud y gwir nes cael galwad ffôn o'r 成人论坛 yng Nghaerdydd, yn holi am ymateb y Groegiaid wedi i lys gael saith o Brydeiniaid yn euog o ysbio a saith arall, yn cynnwys dau o'r Iseldiroedd, yn euog o gynorthwyo i gasglu gwybodaeth gyfrinachol. Beth yw'r broblem? Yn ôl galwad ffôn arall a gefais o Gymru ni all pobl Prydain ddeall beth yw'r broblem gyda rhywbeth mor ddiniwed a gwylio awyrennau. Un peth sy'n sicr yma yw fod y Groegiaid yn gyffredinol yn cydfynd a'r ddedfrydu o rhwng blwyddyn a thair blynedd o garchar gohiriedig a rhybudd gan farnwr i fod yn fwy gofalus yn y dyfodol. Ni allai fy ffrind o Gymru, fodd bynnag, weld dim o'i le mewn gwylio awyrennau tra ar wyliau yng Ngwlad Groeg a hynny am nad oedd yn ymwybodol iddynt gael eu rhybuddio i beidio. Tri pheth i'w hystyried Rhaid cymryd tri pheth i ystyriaeth: - Yn gyntaf, fod y llywodraeth yn bryderus am ddiogelwch y wlad am fod Groeg mewn lle strategol yn y Balcaniaid. Oherwydd hynny mae yma draddodiad o reolaeth filwrol dyn yn enwedig oherwydd y ddadl diriogaethol â Thwrci. - Yn ail, dydi gwylio awyrennau ddim yn rhywbeth cyffredin yng ngwlad Groeg a chan fod posibilrwydd i'r grwp ymweld â Thwrci wedyn dim rhyfedd i'r awdurdodau ymateb i'r peth. - Ac yn dilyn Medi 11 y farn yma yw fod y llysoedd am wneud esiampl o'r bobl hyn er mwyn dangos i eraill fod y wlad yn ddiogel a than reolaeth lem. A chan mai yma y bydd y Campau olympaidd yn 2004 mae Groeg yn ymwybodol iawn fod llygad y byd arni y dyddiau hyn. Dim llawer o sylw Yng Ngroeg ei hun ni chafodd yr helynt fawr o sylw a hynny, mae'n debyg, oherwydd nad yw'r Groegiaid yn gweld y gosb yn un hallt yn enwedig o gofio fod 25 mlynedd o garchar yn bosib. Felly, lle i fod yn ddiolchgar sydd gan y gwylwyr awyrennau. Yn ôl yr hyn a glywaf o Brydain cawsant groeso "arwyr" a'r argraff yn cael ei roi fod Groeg yn wlad anghroesawus ond heb glywed y ddwy ochr dydi hi ddim yn deg dod i'r casgliad yna.
|