Arwisgo
Ond 'roedd tannau'r gitarau yn dynn gan densiwn. Daeth yr Arwisgo 芒 thyndra newydd i Gymru. Holltwyd y wlad yn ddwy. I lawer, ymgais ar ran
Llywodraeth Loegr i ddiffodd fflam y Cymreictod newydd oedd yr Arwisgo.
Cadarnhawyd eu hofnau pan ddedfrydwyd chwe aelod o Fyddin Rhyddid Cymru i garchar ar ddiwrnod y seremoni. Dyma rybudd pendant i'r rhai a oedd yn gyfrifol am y drefn. Pan aeth Gorsedd y Beirdd i blygu glin gerbron Gorsedd Prydain, 'doedd dim
llawer o heddwch yng Nghymru. Yng ngolwg rhai, 'roedd taeogrwydd swyddogion yr Orsedd yn warth.
Cymerodd Saunders Lewis ei ran yn y brotest trwy wthio'r cwch i'r d^wr yn y rhaglen deledu Drych ym 1968: ' 'Rydw i'n credu'n bersonol fod trais gofalus, ystyriol, cyhoeddus yn wir angenrheidiol yn aml i fudiadau cenedlaethol ... 'rydw i'n credu bod unrhyw ddull sydd yn rhwystro'r treisio anghyfrifol yma gan gorfforaethau yn Lloegr ar ddaear Cymru yn gwbwl gyfiawn'.
Cyfiawn neu beidio, cyrhaeddodd y trais ei uchafbwynt gyda lladd dau aelod o Fudiad Amddiffyn Cymru, pan daniodd eu dyfais ffrwydrol yn Abergele ar fore'r Arwisgo. Lleddfwyd yr ofn fod cenedlaetholwyr yn troi at ddulliau trais yn fuan ar 么l yr Arwisgo. Daeth y bomio i ben. Pwysleisiodd Cymdeithas yr Iaith unwaith eto mai mudiad di-drais oedd o. Daeth cyfnod o wir wrthryfel i ben.
Ond gyda degawd y dicter y tu 么l iddi, sut y byddai Cymru yn wynebu'r saithdegau ansicr?
Y
Saithdegau...
|
|
|