Teledu a Tai H芒f
'Roedd y teledu yn dal i fod yn rhan o'r chwyldro technolegol. Pan gyrhaeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol aelwydydd Cymru mewn lliw am y tro cyntaf erioed o faes Rhydaman ym 1970 'roedd cyfnod arall ar fin dechrau. 'Allai'r iaith Gymraeg dim camu'n hyderus i'r ganrif nesaf heb fod yn rhan o'r chwyldro technolegol byd-eang hwn. Credai llawer y gallai technoleg seinio cnul yr Iaith neu ei hachub. Poethodd yr ymgyrch i gael sianel deledu a gwasanaeth radio annibynnol i Gymru.
Daeth buddugoliaeth sicr i'r ymgyrchwyr ar ddechrau'r saithdegau pan sefydlwyd Pwyllgor Crawford i archwilio'r posibiliad o roi'r bedwaredd sianel deledu i Gymru. Buddugoliaeth arall yn yr un flwyddyn oedd penderfyniad y Llywodraeth i gyfnewid yr arwyddion uniaith Saesneg am rai dwyieithog.
'Roedd yr arwyddion newydd yn adlewyrchu'r sefyllfa ddwyieithog ym mhentrefi gwledig Cymru erbyn dechrau'r saithdegau. T^y haf oedd un t^y ymhob pump yn Ll^yn ac Eifionydd, dau o gadarnleoedd y Gymraeg. Tra gallai mewnfudwyr cyfoethog afforddio ail gartref mewn gwlad estron, ni allai llawer o'r brodorion ifanc afforddio'u t^y cyntaf yn eu gwlad eu hunain. Hyn a boenai Alan Llwyd, ynghyd 芒 pharodrwydd rhai Cymry i elwa o werthu eu hetifeddiaeth, yn ei awdl fuddugol 'Llef dros y Lleiafrifoedd yn Eisteddfod Rhuthun, 1973.
'Llef dros y Lleiafrifoedd'...
|
|
|