Ennill Tir
Torrwyd tir newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin pan berfformiwyd opera roc gyntaf yr Eisteddfod. 'Roedd y genhedlaeth ifanc, fel Nia Ben Aur ac Osian, bellach yn cyrchu Tir Na N-Og yr iaith, tir y Bythol Ifanc.
'Roedd y Gymraeg yn ei hieuenctid eto, ac 'roedd mudiad fel Mudiad yr Ysgolion Meithrin yn rhoi delwedd ifanc iddi. 'Roedd Cymru yn dechrau ennill hyder, ar y maes chwaraeon yn ogystal 芒 maes yr ^Wyl, a bellach, gyda'r Llywodraeth yn cyhoeddi ym 1977 ei bod yn bwriadu cynnal Refferendwm ar Ddatganoli yng Nghymru a'r Alban yn y dyfodol agos, 'roedd y wawr ar fin torri.
Ond os oedd yr iaith yn ifanc, 'roedd y 'Steddfod ei hun yn dechrau teimlo'i hoedran, yn enwedig ei phafiliwn. Mewn cyfnod o chwyddiant, aeth cam-wario 芒 hi i ddyfroedd dyfnion. Fe adawyd y pafiliwn am fisoedd cyn ei symud yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1974, a Chricieth,1975, a bu gorfod talu iawndal i berchnogion y tiroedd. Prynwyd yr hen bafiliwn am gost o 拢70,000 mewn panic ar gyfer Eisteddfod Cricieth, ond bu'n rhaid ei werthu fel sgrap ddwy flynedd yn ddiweddarach. Aeth yr Eisteddfod yn fl锚r yn ei gweithgareddau, a hyd yn oed yn ei seremon茂au, fel y gwelwyd yn nefod y cadeirio yn Aberteifi ym 1976. Llwyddodd yr Eisteddfod i oroesi, ac er mor brin oedd y geiniog, 'roedd yn rhaid iddi hithau symud ymlaen 芒'r oes. Erbyn 1978 'roedd y briddinas symudol wedi cyrraedd y brifddinas sefydlog. 'Roedd digon i'w ddathlu yn 'Steddfod Caerdydd: pafilwin newydd, addewid am sianel deledu newydd a Chymru newydd. Ar drothwy'r 'Steddfod 'roedd y rhagolygon y c芒i Cymru ei
sianel ei hun a rhyw lun o senedd yn addawol.
Y
Cymry yn dwued 'Na'...
|
|
|