成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Elai
Cyn-Ddisgyblion Llanhari yn ceisio byw'n wyrdd?
Chwefror 2005
Roedd criw o ffrindiau o Gaerdydd yn ceisio cyrraedd y brig yn y gystadleuaeth newydd ar S4C
Roedd criw o ffrindiau o Gaerdydd yn ceisio cyrraedd y brig yn y gystadleuaeth newydd ar S4C i fabwysiadu ffordd werdd ac ecogyfeillgar o fyw.

Roedd y Ffordd Newydd o Fyw yn dilyn pum cartref gwahanol iawn wrth iddynt geisio eu gorau glas i leihau'r effaith ar yr amgylchedd drwy dorri lawr ar faint o garbon diocseid maent yn ei ryddhau i'r amgylchedd.

Bu Catrin Heledd, Si芒n Davies, Huw Grundy a Marc Real yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llanhari ac maent bellach yn rhannu t欧 yn ardal Pontcanna o'r ddinas.

Dros yr wythnosau diwethaf, maent wedi bod yn cystadlu yn erbyn cartrefi ym Metws-y-Coed, Crymych, Merthyr Tudful a Llanfairfechan mewn ymgais i leihau eu mesurau carbon.

Mae'r pedwar wedi bod yn ffrindiau ers dyddiau ysgol ac fel yr eglura Marc, roeddent yn credu eu bod yn berffaith ar gyfer y sialens. "Da ni gyd yn gweithio oriau gwahanol felly mae'n rhaid i bawb fod yn annibynnol o amgylch y t欧. Ond fel criw, rym ni'n hen ffrindiau, yn yr ysgol 'da'n gilydd, a lot o'n teuluoedd yn hen ffrindiau.

"Mae'r t欧 tri-llawr ym Mhontcanna yn anferth ac ar ben teras, felly mae'n anodd ei gadw'n dwym weithiau yn y gaeaf. Fe ddefnyddiom ni bob math o ddulliau o insiwleiddio, fel dyfeisiadau atal drafft, a dull rhad o wydr dwbl sy'n cael ei greu drwy sychu cling flim gyda sychwr gwallt rownd y ffenest.

Mae Marc yn bump ar hugain oed ac yn aelod o ddau gr诺p roc - Johnny Mental, gr诺p nu metal sy'n canu yn Saesneg ac Ashokan, gr诺p Cyrnraeg ei iaith. Mae Ashokan yn recordio albwm newydd yn stiwdio Mighty Atom, Abertawe ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gyfieithydd rhan amser ym Mryste.

Mae Huw yn Rheolwr Digwyddiadau yn y Gyfnewidfa Lo tra bod Catrin newydd ddechrau ar yrfa fel newyddiadurwr. Mae Sian hefyd newydd ddechrau swydd newydd fel gweinyddwraig gyda chwmni teledu yn y ddinas. Mae Marc yn cyfaddef nad oedd y criw yn wyrdd iawn, ond ers iddynt ddod yn rhan o'r rhaglen mae nhw wedi newid eu ffyrdd yn enwedig ers i'r tair i芒r gyrraedd. Fe gawsom ni'r ieir o'r enw Ch-i芒r-Iee, Miss Milly a Big Dave hefyd sydd wedi bod yn dodwy 2 neu 3 诺y'r dydd," eglurodd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy