Dyma adroddiad Y Parchedig Peter Cutts, gweinidog Capel Salem, o'r gymanfa arbennig a gynhaliwyd yn y capel.
Daeth cynulleidfa niferus a gwerthfawrogol ynghyd ar gyfer Cymanfa Ganu i Blant i ddathlu canmlwyddiant yr emyn-d么n 'Cwm Rhondda' yng Nghapel Salem, lle bu'r cyfansoddwr, John Hughes a'i deulu yn weithgar iawn, a lle cawsant eu claddu.
Cadeirydd y Gymanfa oedd Dean Powell gyda gweddi agoriadol gan y Parchg. Peter Cutts. Hyfryd oedd gweld pobl o wahanol rannau o'r gymuned yn dod at ei gilydd.
Ymunodd plant o bum ysgol leol yn y dathlu: Ysgol Garth Olwg, Ysgol T欧 Coch, Ysgol Gwaun Celyn, Ysgol Maesybryn, ac Ysgol Llanilltud Faerdref ac roedd Cyngor Cymunedol Llanilltud Faerdref wedi cyfrannu at gost cludo'r plant. Actorion o Gwmni Theatr Chance Encounters o Ferthyr Tudful bortreadodd hanes cyfansoddi'r d么n. Roedd y Faeres yn bresennol.
Noddwyd te a lluniaeth gan Warburtons, gyda help ymarferol mawr gan rai o staff Parc Treftadaeth y Rhondda. Roedd arddangosfa odidog o hanes John Hughes a'i emyn-d么n a ddarparwyd gan wasanaeth llyfrgell ac amgueddfa Rh.C.T. Roedd yn ddigwyddiad teilwng iawn i ddathlu canmlwyddiant emyn-d么n sydd o hyd yn eicon cenedlaethol o bwys i Gymry ledled y byd.
Crynodeb o araith Mrs G. Hughes, 'Hanes John Hughes a'r d么n'.
Roedd John Hughes wedi dangos diddordeb mewn cerddoriaeth ers pan oedd e'n fach, pan gyrhaeddodd harmoniwm ar gefn gambo. Roedd ei dad wedi prynu'r offeryn ym Mhontlotyn. Cafodd John wersi gan Rhedynog Price, ac enillodd Dystysgrif Uwch gan y Coleg Sol-ffa. Yn ddiweddarach dilynodd John yn olion traed ei dad, a chael ei ethol yn ddiacon ac yn arweinydd y g芒n yn Salem.
Ym mis Medi 1907, cafodd John wahoddiad gan ei ffrind, D.W.Thomas Trehopcyn, i gyfansoddi emyn newydd. Roedd Capel Rhondda, lle'r oedd D.W. yntau'n arweinydd y g芒n, wedi cael organ b卯b newydd, ac roedd Bedyddwyr Trchopcyn am gynnal G诺yl o Fawl i ddathlu.
Rhyw fore Sul mewn oedfa yn Salem daeth sail y d么n i John gan fod y bregeth yn ysbrydoledig anghyffredin, mae'n si诺r (neu yn fwy diflas nac arfer). Yn groes i'w drefn arferol, aeth John ddim yn 么l i Salem i'r Ysgol Sul yn y prynhawn y Sul hwnnw, nag i'r Oedfa Hwyrol ychwaith. Treuliodd weddill y dydd yn gweithio ar ei d么n newydd a'i phedwar llais.
Roedd yr 糯yl o Fawl, fel tair Cymanfa Ganu yn y bore, prynhawn a hwyr ddydd Sul Tachwedd 1af 1907, yn lle gweithgareddau'r Sul arferol. Pan gafodd 'Cwm Rhondda' ei chanu am y tro cyntaf y bore hwnnw, y geiriau oedd emyn o eiddo Ann Griffiths 'Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd'. 'Rhondda' oedd teitl gwreiddiol y d么n. Daeth John i wybod bod emyn-d么n o'r un enw yn bodoli'n barod. Newidiwyd enw y d么n i 'Cwm Rhondda'. Ychydig yn ddiweddarach defnyddiodd John yr un d么n gyda geiriau Peter Williams 'Guide me O Thou great Jehova' sy'n gyfieithiad o emyn Gymraeg William Williams, Pantycelyn.
Mae'n emyn-d么n sydd o hyd yn eicon cenedlaethol o bwys i Gymry ledled y byd. Can mlynedd yn ddiweddarach mae'n mynd o nerth i nerth. Gyda'r geiriau Saesneg fe ddaeth yn wythfed y llynedd gyda gwylwyr 'Songs of Praise' sydd yn rhaglen dros Brydain gyfan. Gyda geiriau Ann Griffiths fe ddaeth yn nawfed gyda gwyliwr Dechrau Canu Dechrau Canmol ar raglen 'Emyn i Gymru 2007.'