Mae'r cd yma yn dangos ei allu i gyfansoddi caneuon amrywiol a theimladwy. Mae Dylan, wrth gwrs, wedi bod yn recordio ers blynyddoedd i gwmn茂au fel Sain a Fflach, ond mae y casgliad yma wedi ei chyhoeddi ar label ei hun, set NAWS. Dyma'r ail cd ar label NAWS, y gyntaf oedd 'Dyfnach Na Dwfn'. Fe ddisgrifiwyd ei gerddoriaeth fel 'west coast' Cymreig, ac mae dylanwad cerddoriaeth yr Unol Daleithiau yn amlwg yma. Bu Dylan yn teithio'n helaeth yn yr U.D. yn y gorffennol. Fe glywir hefyd ddylanwad jazz, canu gwerin a chanu gwlad yn y casgliad yma o roc melodig.
Fe glywir emosiwn canu soul yn ei lais ond cerddoriaeth "roc-gwlad a roc-gwerin" sydd yma yn bennaf. Mae ambell i g芒n draddodiadol ar y cd sy'n dangos gwerth y profiad enillodd Dylan yn y gorffennol tra'n aelod o'r gr诺p gwerin Carreg Lafar. Fe glywir fersiwn Dylan o 'Ar Lan Y M么r', 'Marwnad Yr Ehedydd' a 'Tra Bo Dau'. Ond yn bennaf caneuon personol sydd yma ac mae gan Dylan y ddawn arbennig o fedru troi, trwy gyfrwng c芒n, sefyllfa gyffredin i rywbeth cofiadwy a hynod. Fe glywir ei ddawn ar y git芒r acwstig ar bob c芒n ond mae band llawn ar y mwyafrif o draciau. Mae na dinc Celtaidd i ambell g芒n, gyda'r pibau penelin' (Uilleann) yn amlwg. Mae Julie Jones o Rhosllanerchrugog, yn ymuno gyda Dylan ar ddau drac, ac mae llais clir a swynol Julie yn asio'n hyfryd gyda Ilais Dylan. Mae gwraig Dylan, sef Jane Campbell-Davies yn ymuno 芒'r ddau drac arall. Fe deithiodd Dylan i'r gorllewin i recordio'r cd yma, i stiwdio'r canwr Geraint Griffiths, yn nhref Caerfyrddin. Fe recordiwyd yr albwm dros ddeunaw mis a Dylan a Geraint sy'n chwarae'r holl offerynnau. Mae Dylan yn canu'r git芒r acwstig a'r git芒r drydan a Geraint yn gwneud y gwaith cynhyrchu, peiriannu a rhaglennu. Mae Geraint hefyd yn canu ambell allweddell, git芒r, mandolin, banjo ac organ geg. "Roeddwn wrth fy modd yn gyrru ar hyd yr M4 i'r Gorllewin Gwyllt, hyd yn oed yn y glaw" medd Dylan, "Roedd y profiad yn ysbrydoliaeth i mi, rwy'n sicr nad dyma'r tro olaf i mi recordio yng Nghaerfyrddin." Mae'r CD i'w gael yn y siopau lleol. A beth am fynd ar daith ar safle we Dylan sef . Mae Dylan yn ymwelydd cyson 芒 Graigwen ble mae ei chwaer Bethan Caffrey yn byw.
|