Noson i'w chofio oedd hon. Talent ieuanc ein cenedl yn disgleirio, a chynulleidfa deilwng hwyliog yn mwynhau bob munud.
Mae Catrin o Waelod y Garth, ac yn adnabyddus inni i gyd wrth gwrs fel enillydd cenedlaethol cyson yn yr Urdd gyda'i gwaith llenyddol. Hi sy'n gyfrifol am y cylchgrawn blynyddol ar adeg yr Eisteddfod, 'Dim Lol' - olynydd 'Lol' - ac fe gyhoeddodd ei nofel gyntaf Pili Pala yn gynharach eleni. Daw Hywel ac Iwan o ardal Caerfyrddin, y ddau yn ffrindiau coleg Aber i Catrin - yn feirdd `newydd' o bwys, a hwythau hefyd yn enillwyr Prifwyl yr Urdd. Yn cadw trefn arnyn nhw - ac ar y gynulleidfa - roedd Evita Morgan. Yn wir cymaint oedd ci chyfraniad nes iddi roi Catrin druan yn y cysgod braidd!
Cafwyd plethiad o gerddi a chaneuon difyr gan Iwan a Hywel a'r ddau yn dangos eu doniau rhyfeddol gyda geiriau. Ein swyno ag acen felodaidd y Paith a wnaeth Evita mewn cerdd a chân a stori herfeiddiol. Daeth yn amlwg ei bod ar ymweliad â Chymru i ddau berwyl, sef i werthu cynnyrch ei gwlad - cafwyd tun o Fray Bentos yn wobr am limrig - ac i chwilio am ŵr cefnog, rhywiol. Er bod dynion cefnog yn y gynulleidfa, ni chymrodd ffansi at yr un ohonyn nhw.
Bydd Catrin (a falle Evita), Iwan a Hywel yn teithio Cymru gyda'u sioe yn ystod yr hydref, dan nawdd yr Academi Gymreig. Aelodau eraill y sioe yw Eurig Salisbury ac Aneurin Karadog. Cyhoeddir cyfrol o gerddi'r daith hefyd. Da gweld talent ifanc yn cael cyfle i ddangos a datblygu eu doniau.
|