Roedden nhw wedi ennill yr un gystadleuaeth llynedd yn Llandudno a nawr fe fydd rhaid sgriffinio eu henwau unwaith eto ar Gwpan Parti'r Ffynnon i nodi eu buddugoliaeth. Awgrymodd un wag dylid fod wedi aros a chael dau sgriffiniad am bris un!
Yn eu tro, mae'r Parti sy'n dathlu eu deng mlwyddiant eleni, wedi ennill ar gerdd dant yn yr un 诺yl (Yr Wyddgrug) a theirgwaith am gerdd dant yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Llanelli, Meifod a Chasnewydd). Eu harweinydd yw Menna Thomas, Efail Isaf.
Roedd wyth parti yn y gystadleuaeth - y gystadleuaeth fwyaf poblogaidd i bartlon agored yn yr holl 诺yl. Roedd un darn gosod, sef hen garol blygain draddodiadol unsain o'r enw "Gwel yr Adeilad" ac yna hunan 卢ddewisiad mewn pedwar llais. Dewiswyd y g芒n werin "Gwn Dafydd Ifan" a'i chanu mewn arddull ddireidus a hwyliog sy'n nodweddiadol o ochr ysgafnach cyflwyniadau'r Parti.
Dridiau ar 么l eu buddugoliaeth yn Abergwaun, roedd Parti'r Efail ymhlith yr artistiaid fu'n codi arian at gronfa Kashmir, yng nghapel y Tabernacl, Efail Isaf. Cyn hir fe fyddan nhw'n canu yn Nhonyrefail ac yn ddiweddarach yn Llandeilo, Caerdydd a Threorci.
|