Roedd 47 o grwpiau dawnsio gwerin o bob rhan o'r byd wedi dod i'r ynys ar gyfer y ddegfed wyl a gynhelir yn ystod wythnos y Pasg bob dwy flynedd. Yn ogystal a pherfformio o flaen panel o feirniaid rhyngwladol roedd rhaid i'r dawnswyr ddangos eu dawn yn denu aelodau o'r cyhoedd i gymeryd rhan yn y dawnsio mewn cyfres o arddwigosfeydd ar hyd a lled yr ynys. Cafwyd croeso arbennig gan y bobl leol a bu'n wythnos i'w choflo i'r tim o ugain o ddawnswyr a'r offerynwyr. Daeth grwp o Bortiwgal yn gyntaf a dawswyr o Romania yn drydydd ond roedd dod yn ail yn y gystadleuaeth arbennig hon yn glod mawr i Ddawnswyr Nantgarw ac i'w hyfforddwyr Eirlys Britton a Cliff Jones.
|